Ymweliad PDC yn ysbrydoli enillwyr cystadleuaeth Dinasyddiaeth Fyd-eang
8 Gorffennaf, 2022
Mae ymweliad â Phrifysgol De Cymru (PDC) i weld sut mae’n mynd i’r afael â heriau cynaliadwyedd wedi helpu dau fyfyriwr chweched dosbarth i ennill gwobrau o £250 mewn cystadleuaeth Dinasyddiaeth Fyd-eang.
Roedd y gystadleuaeth yn rhan o bartneriaeth rhwng PDC, Cymru Gynaliadwy, a WJEC CBAC Ltd, a welodd 120 o fyfyrwyr blwyddyn 12 o Ysgol Gyfun Porthcawl yn ymweld â Champws Trefforest ym Mhontypridd PDC yn gynharach eleni.
Yn ystod yr ymweliad, a oedd yn cynnwys taith o amgylch y campws, cafodd y myfyrwyr ddarlithoedd ar ffasiwn cynaliadwy, atebion newid hinsawdd, trawsnewid symudedd trefol, a mapio a monitro newid mewn bioamrywiaeth.
Ar ôl yr ymweliad, gwahoddwyd myfyrwyr Safon Uwch Bagloriaeth Cymru i gyflwyno ceisiadau ar gyfer y Prosiect Dinasyddiaeth Fyd-eang gorau o dan themâu allweddol gan gynnwys poblogaeth, defnydd tir, adnoddau cynaliadwy, ynni, newid hinsawdd, a dylanwadau diwylliannol a gwleidyddol, a fyddai’n cael eu defnyddio fel ceisiadau cystadleuaeth. Gofynnwyd iddynt nodi problem, awgrymu atebion, a meddwl am syniadau o gamau gweithredu sydd angen eu cymryd.
Yn dilyn beirniadu cynigion y gystadleuaeth gan Dr Stewart Eyres, Dirprwy Ddeon y Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth yn PDC; Robert Minhinnick, awdur arobryn a chynghorydd hirsefydlog i Cymru Gynaliadwy a’r Athro Merryn Hutchings, Athro Emeritws yn y Sefydliad Astudiaethau Polisi mewn Addysg, cyhoeddwyd mai Seren Cook ac Emma Jones oedd yr enillwyr.
Dywedodd y beirniaid fod prosiect Seren yn ddewis naturiol ar gyfer Gwobr Alwyn Jones am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, gan ganolbwyntio fel y gwnaeth ar effaith tlodi misglwyf, a gweithdrefnau a allai fynd i’r afael â’r mater.
Aeth pwnc Emma i’r afael ag un o’r materion allweddol ar gyfer cynaliadwyedd, gyda’i hymchwil drefnus yn ennill Gwobr Steve Harris ar gyfer Datblygu Cynaliadwy iddi ar ôl tynnu sylw at ffyrdd o fynd i’r afael â’r problemau a achosir gan y ‘gymdeithas taflu’ a phrynwriaeth.
Meddai Robert Minhinnick, ar ran y panel beirniadu, “Roeddwn i’n meddwl bod traethodau Seren ac Emma yn datgelu eu hanfodlonrwydd – hyd yn oed dicter – gyda’r ffordd mae mislif a misglwyf yn cael eu trin, ynghyd ag ochr negyddol ffasiwn cyflym. Gallaf ddychmygu Seren yn trosglwyddo'r teimlad hwn i gelfyddyd neu weithredu gan ddinasyddion, ac Emma hefyd yn ymgorffori ei hegwyddorion yn ei bywyd ei hun.
“Mae hyn yn bwysig, rwy’n teimlo, gan ein bod am annog myfyrwyr sy’n credu y dylid defnyddio gwybodaeth ac ymchwil i wella amodau cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae’n siŵr mai dyna ddiben yr ysgrifau a’r ymchwil hyn, ac i Gymru Gynaliadwy hyrwyddo’r pynciau hyn.
“Mae’r elusen yn canmol pawb a gymerodd ran yn y gystadleuaeth.”
Wrth egluro sut y daeth y gwobrau i gael eu henwi, dywedodd Richard Thomas, Ymddiriedolwr Cymru Gynaliadwy a fu’n ymwneud â threfnu’r gystadleuaeth, “Roedd Alwyn yn athronydd ac yn Gyfarwyddwr Astudiaethau ar gyfer gradd ‘werdd’ gyntaf Prifysgol Morgannwg, sydd bellach yn Brifysgol De Cymru. Dysgodd yn fawr o'i brofiadau bywyd cynnar fel oedolyn yn gweithio dramor mewn lleoedd fel Fiji.
“Bu Alwyn yn ffrind a gwirfoddolwr ers amser maith gyda Cymru Gynaliadwy a chredai mewn cymryd cyfrifoldeb personol a gweithredu yn yr agweddau lleiaf o fywyd bob dydd. Plannwyd coeden yn ei enw ar dir Campws Trefforest.
“Roedd Steve yn wyddonydd ac yn academydd ymchwil ac yn Uwch-ddarlithydd mewn Cyfathrebu Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Morgannwg. Roedd yn gyfathrebwr gwych yn ogystal â cherddor ac actifydd cymunedol. Bu’n gweithio yn y brifysgol, ond roedd hefyd yn gyfrannwr angerddol i’n helusen.
“Roedd Alwyn a Steve yn credu mewn cymhwyso gwybodaeth i weithredu, ac roedd hyn yn ganolog i’w gwaith fel addysgwyr yn PDC ac fel gwirfoddolwyr gyda Cymru Gynaliadwy.”
Sefydlwyd Cymru Gynaliadwy ym 1997 fel y sefydliad cyntaf yng Nghymru i ganolbwyntio ar ddatblygu cynaliadwy fel ei brif weithgaredd. Nod yr elusen yw addysgu busnesau, cyrff y llywodraeth, y sector cymunedol a'r cyhoedd yn ehangach am y prif broblemau ar gyfer cyflawni datblygu cynaliadwy, a beth yw'r atebion posibl i oresgyn y problemau hynny.
“Yn dilyn y syniad bod angen amgylchedd diogel a sicr ar gyfer datblygu cynaliadwy i gefnogi poblogaeth ymgysylltiol, gwybodus ac iach sy’n gallu gweithgynhyrchu’n deg a chyfrifol, cydnabu Alwyn a Steve y pwysau sylweddol y mae gweithgarwch dynol anghynaliadwy yn parhau i’w gael ar y byd ac roeddent yn angerddol wrth archwilio datrysiadau i’n cyfyng-gyngor modern,” ychwanegodd Mr Thomas. “Dyma pam y gwnaethom enwi’r gwobrau ar ôl y ddau berson allweddol hyn.”
Ychwanegodd Dr Eyres: “Rhan allweddol o Strategaeth 2030 PDC yw ffocws ar gynaliadwyedd, a sut y gallwn gefnogi cymuned y Brifysgol a’r rhai yn yr ardal gyfagos i roi arferion cynaliadwy wrth galon popeth a wnânt.
“Roedd yn bleser gennym groesawu myfyrwyr o Ysgol Gyfun Porthcawl, a dangos iddynt sut yr ydym yn ymgorffori arferion cynaliadwy o’n hymchwil yn ein haddysgu a’n dysgu.
“Dangosodd holl gynigion y gystadleuaeth fod y myfyrwyr yn angerddol am gynaliadwyedd. Roedd y rhai gan Seren ac Emma yn arbennig yn cyseinio gyda’r beirniaid, ac maen nhw’n enillwyr teilwng o’r gwobrau.”
Cynhaliwyd cystadleuaeth eleni fel peilot, gyda Cymru Gynaliadwy yn bwriadu ei ehangu i fwy o ysgolion yn 2023. Ceir rhagor o fanylion yng Nghystadleuaeth Dinasyddiaeth Fyd-eang Bagloriaeth Cymru — Cymru Gynadliadwy