Breuddwydion a hunllefau: arddangosfa yn dod i oriel canol y ddinas

18 Hydref, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Ozzy_Corbett_resized.png

Stress Response, gan Ozzy Corbett

Bydd gwaith gan fyfyrwyr Darlunio ym Mhrifysgol De Cymru yn cael ei ddangos yn oriel Umbrella Art Collective yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf.

Yn dwyn y teitl Lucid, mae’r arddangosfa yn seiliedig ar freuddwydion a hunllefau, ac yn archwilio’r cysyniad o freuddwydion yn dod yn realiti. 

Bydd myfyrwyr y drydedd flwyddyn yn dod â Lucid i’r oriel, yng Nghanolfan Capitol, o ddydd Llun 24 tan ddydd Gwener 28 Hydref.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch yr arddangosfa ar:

Instagram https://www.instagram.com/lucid_usw/

YouTube https://www.youtube.com/channel/UCC3jOqI4Ic3iTTseCHOR-ZA

TikTok https://www.tiktok.com/@uswlucidexhbition2022?_t=8WRObJwxYJx&_r=1