Mis Ymwybyddiaeth Trais Domestig 2022 | Mae rhwydwaith ymchwil PDC yn dweud y gall sefydliadau gymryd camau pellach i gefnogi goroeswyr cam-drin domestig

18 Hydref, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Domestic_Violence_resized.jpg

Mae adroddiad gan rwydwaith ymchwil Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig, a Thrais Rhywiol (VAWDASV) Cymru, yn amlygu ffyrdd i sefydliadau, sy'n arbenigo mewn VAWDASV, wella eu cefnogaeth i oroeswyr.

Gyda’r nod o ddeall arferion ymgysylltu â goroeswyr presennol yng Nghymru, bu ymchwilwyr Prifysgol De Cymru (PDC) yn gweithio gyda thîm VAWDASV Llywodraeth Cymru a Rhwydwaith Ymchwil VAWDASV Cymru, i arolygu darparwyr gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol presennol yn y sector VAWDASV.

Datgelodd yr ymchwil, er bod polisïau a phrosesau ar waith o fewn y sefydliadau, bod amrywiaeth profiadau goroeswyr yn gofyn am ddull cynnil.

Canfyddiadau ac argymhellion allweddol yw:

·       Mae goroeswyr yn adrodd am rwystredigaeth gyda'r un cwestiynau'n cael eu gofyn sawl gwaith gan wahanol asiantaethau. Mae ymgysylltu'n ystyrlon â goroeswyr yn hanfodol. Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn argymell na ddylid diystyru’r cyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd sydd eisoes yn bodoli o fewn y sector VAWDASV.

·       Mae ymgysylltu â goroeswyr yn gymhleth gyda rhwystrau lluosog yn atal ymgysylltu. Mae angen amser, gwybodaeth ac adnoddau i ymgysylltu â goroeswyr, gan sefydliadau a chan y goroeswyr eu hunain. Mae angen cyllid cynaliadwy ar sefydliadau i alluogi ymgysylltu â goroeswyr ac mae ar oroeswyr angen cydnabyddiaeth ariannol briodol am eu hamser a'u harbenigedd.

·       Mae ffactorau cymdeithasol a diwylliannol yn amrywio rhwng goroeswyr ac mae angen cymorth wedi'i deilwra. Felly, rhaid i ymgysylltu â goroeswyr gael ei arwain gan anghenion. Er enghraifft, darparu esboniadau hawdd eu darllen, cyfieithwyr, safleoedd hygyrch, a gofal plant yn ôl yr angen.

·       Mae ymddiriedaeth a pharch ar y cyd rhwng goroeswyr a sefydliadau yn allweddol ac yn cymryd amser i'w adeiladu. Mae goroeswyr yn aml yn amharod i ymgysylltu oherwydd eu bod yn ofni na chânt eu credu neu y bydd cyfrinachedd yn cael ei dorri. Mae’r adroddiad yn argymell bod angen ystyried ymgysylltu â goroeswyr yn weithgaredd annatod a bod angen buddsoddiad hirdymor a staff arbenigol.

Arweiniwyd tîm ymchwil PDC gan Dr Sarah Wallace a’r Athro Emily Underwood-Lee. Meddai’r Athro Underwood-Lee: “Rydym yn falch iawn o allu cydweithio â Llywodraeth Cymru a’r sector VAWDASV ar draws Cymru ac yn gobeithio y gall gwaith Rhwydwaith Ymchwil VAWDASV Cymru gyfrannu at wella cymorth i oroeswyr a gwneud Cymru’n fwy diogel i ni i gyd.”

Dywedodd Dr Wallace: “Mae’r canfyddiadau’n amlygu arbenigedd a gwaith pwysig y sector wrth gefnogi goroeswyr i ymgysylltu’n ystyrlon ac yn ddiogel. Maent hefyd yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar sut yr ydym ni fel Rhwydwaith Ymchwil VAWDASV Cymru, yn sicrhau ein bod yn cynnwys goroeswyr yn ein gwaith.”

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol: “Mae’n hanfodol bwysig bod lleisiau goroeswyr yn cael eu clywed ar y lefelau uchaf os ydym am fynd i’r afael yn effeithiol â VAWDASV yng Nghymru. Dyna pam rydym yn datblygu panel Craffu a Chynnwys Goroeswyr sy’n cynnwys grŵp amrywiol o oroeswyr sy’n cwmpasu’r sbectrwm cyfan o VAWDASV, i roi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth i ni allu cyflawni ar gyfer goroeswyr.

“Bydd y dull hwn yn creu llwybr cenedlaethol, cyson a chynhwysol sy’n galluogi’r rhai sydd â phrofiadau byw nid yn unig i lywio cyfeiriad polisi ond hefyd i graffu ar weithrediad y strategaeth Genedlaethol, y glasbrint VAWDASV a’i ffrydiau gwaith.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr arolwg – bydd hyn yn helpu i gryfhau ein datblygiad polisi a chyflawni ar gyfer goroeswyr ar draws Cymru.”

Lansiwyd Rhwydwaith Ymchwil VAWDASV Cymru yn swyddogol ym mis Tachwedd 2021 gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS. Y nod yw datblygu cymuned ymchwil gynhwysol i Gymru sy’n darparu fforwm diogel ac agored i ddod â’r rhai sy’n gweithio tuag at roi terfyn ar VAWDASV ynghyd i osod yr agenda ymchwil ar gyfer y dyfodol, meithrin cydweithio a datblygu ceisiadau am grantiau, cynnal ymchwil o ansawdd uchel, a gweithio tuag at ddileu VAWDASV.

Gellir gweld yr adroddiad ymchwil llawn isod.

Cymraeg

Saesneg