Myfyrwyr yn beirniadu’r cynigion gorau ar gyfer Gŵyl Ffilm Gwobr Iris 2022

11 Hydref, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Iris_Prize_student_jury_2022.jpg

Mae rheithgor o fyfyrwyr o Brifysgol De Cymru wedi helpu i benderfynu ar deitl Nodwedd Orau ar gyfer Gŵyl Ffilm LGBTQ+ Gwobr Iris 2022, sy’n agor heddiw (11 Hydref) ar Gampws Caerdydd PDC.

Bydd yr 16eg ŵyl flynyddol, sy’n croesawu gwneuthurwyr ffilm rhyngwladol a domestig yn ôl wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers 2019, yn gweld 12 o ffilmiau nodwedd o 10 gwlad yn cael eu dangos yn ystod yr ŵyl chwe diwrnod.

Mae chwe myfyriwr o Ysgol Ffilm a Theledu Cymru – Thomas Watkins, Isabella Bown, Alexander P Griffiths, Luca Bergonzini, Cai Barnard-Dadds ac Arwen Harrison – wedi trafod y ffilmiau ar y rhestr fer yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys tair ffilm a gyfarwyddwyd gan gyn-fyfyriwr blaenorol Gwobr Iris.

Neidiodd Luca, sydd yn ei flwyddyn olaf yn astudio BA (Anrh) Ffilm, ar y cyfle i ymuno â’r rheithgor ar ôl gwirfoddoli gyda’r Ŵyl y llynedd. Meddai: “Mae’r cynigion rydyn ni i gyd wedi’u gweld wedi bod yn rhagorol. Maen nhw i gyd yn ffilmiau mor wahanol ac mae ganddyn nhw i gyd lawer o gryfderau unigryw felly mae dewis enillydd wedi bod yn anodd.

“Mae’n anrhydedd i mi fod yn y sefyllfa o feirniadu’r ffilmiau hyn gyda fy nghyd-reithwyr ac, ar wahân i bopeth arall, mae’n gyfle da i ni gyd wylio rhai ffilmiau gwych gyda’n gilydd. Gweithio gydag Iris yw un o'r pethau gorau i mi ei wneud erioed. Byddwn yn dweud wrth unrhyw un sy’n gallu – dewch i’r ŵyl! Mwynhewch ffilmiau gwych a chwrdd â phobl anhygoel.”

Ychwanegodd Tom Ware, Deon Cyswllt Trawsnewid Cyfryngau a Phartneriaethau ym Mhrifysgol De Cymru: “Rwy’n falch iawn o’r myfyrwyr o Ysgol Ffilm a Theledu Cymru sydd wedi gwirfoddoli i eistedd ar y rheithgor eleni ar gyfer Gwobr Nodwedd Orau Gwobr Iris. Dyma gyfle gwych arall a ddarperir iddynt dreulio amser gyda gwneuthurwyr ffilm medrus ac arobryn wrth iddynt symud o fywyd prifysgol i weithio yn y diwydiant ffilm.

“Mae hefyd yn adeiladu ar bartneriaeth lwyddiannus PDC ag Iris sydd eisoes wedi creu llawer o gyfleoedd eraill i’n myfyrwyr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae bod ar reithgor gŵyl ffilm o safon fyd-eang yn bendant yn un i’r CV, a heb os, bydd yn rhoi dechrau gwych iddynt yn eu gyrfa sgrin ddewisol, boed yn gyfarwyddo, yn olygu neu’n ysgrifennu sgriptiau.”

Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Gwobr Iris: “Mae’r ffilmiau nodwedd rydyn ni’n eu cyflwyno i chi fel rhan o’n Gŵyl Gwobr Iris eleni yn addo difyrru, ymgysylltu, a rhoi digonedd o gyfleoedd cnoi cil i’r gynulleidfa. Rydym yn arbennig o falch o fod yn dangos – ac yn cynnal un première y byd – ffilmiau nodwedd a wnaed gan gyn-fyfyrwyr Gwobr Iris. Mae dwy o'r ffilmiau yn seiliedig ar ffilmiau a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Iris yn flaenorol. Gobeithiwn y byddwch mor falch o etifeddiaeth Iris ag yr ydym ni.”

Mae rhaglen lawn Gŵyl Ffilm Gwobr Iris ar gael yn https://irisprize.org/2022-box-office/