Partneriaeth o Gymru’n gweithio ar system Deallusrwydd Artiffisial allai sicrhau diogelwch pobl agored i niwed

27 Hydref, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Skystrym1.jpg

Mae system deallusrwydd artiffisial a all nodi a oes angen cymorth brys ar bobl agored i niwed yn cael ei ddatblygu gyda chymorth arbenigwyr technoleg ym Mhrifysgol De Cymru (PDC).

Yn gweithio gyda Justus Vermak o Skystrym yng Nghaerdydd, mae'r arbenigwyr yn CEMET PDC – y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Technoleg Symudol a Datblygol – wedi bod yn datblygu technoleg sy’n gallu monitro symudiadau unigolion yn anhysbys, gan ddysgu eu harferion a hysbysu eu teuluoedd neu ofalwyr os oes unrhyw bryderon.

Mae Mr Vermak, a aned yn Ne Affrica, sydd â'i gefndir addysgol mewn econometreg – elfen fathemategol economeg – yn entrepreneur a fu’n ffocysu’n wreiddiol ar ddatblygu eiddo, cyn mynd yn ei flaen i sefydlu pentref a chartref gofal i bobl oedd wedi ymddeol.

A'r heriau oedd ynghlwm â darparu gofal i bobl oedrannus neu agored i niwed roddodd y syniad iddo ar gyfer system Skystrym.

"Fel gyda phob lleoliad gofal ledled y byd, mae sicrhau bod gyda chi ddigon o staff yn hollbwysig a dyma lle mae'r heriau mwyaf - sicrhau bod digon o staff i fonitro nifer y bobl sydd mewn gofal, a'u cadw'n ddiogel," meddai.

"Gwnaeth yr her hon i fi feddwl am ddatblygu ffyrdd arloesol o fonitro o bell i gadw llygad ar unigolion i sicrhau nad ydyn nhw wedi dod i unrhyw niwed."

Mae system Skystrym, y gellir ei defnyddio mewn lleoliadau gofal neu gartrefi unigolion, yn defnyddio  nifer o gamerâu neu synwyryddion is-goch sy'n monitro symudiadau unigolion, gan ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial i ddysgu eu trefn ddyddiol, ac yna rhoi gwybod i deulu neu ofalwyr os oes rheswm dros bryderu.

"Mae’r system yn gallu gwylio pobl a dod i adnabod eu symudiadau, ble gallen nhw fod, eu harferion dyddiol, a chreu darlun o'r hyn sy'n normal iddyn nhw," meddai Mr Vermak .

"Gall hyn gynnwys pethau fel sut mae'r person yn cerdded, ydyn nhw'n symud yn arafach na'r arfer, faint o amser maen nhw'n ei dreulio ym mhob ystafell, pryd maen nhw'n ymweld â'r gegin a bydd yn gwybod, er enghraifft, ei bod yn arferol i berson orwedd ar y gwely, ond bod gorwedd wrth ymyl y gwely yn wahanol i’r arfer.

"Gall hefyd gynnwys elfen sy’n helpu gyda dementia, yn nodi, er enghraifft, pan fo person wedi anghofio bwyta."

Gan ddeall pryderon defnyddwyr ynghylch preifatrwydd, mae'r data a gesglir gan y system yn cael ei wneud yn ddienw er mwyn sicrhau nad oes modd adnabod unrhyw unigolyn. 

"Bydd y system yn amlwg yn monitro delweddau o'r unigolyn, ond yna mae'r data hwnnw'n cael ei gyflwyno ar ffurf ‘bocs du’ sy’n golygu ei fod yn ddienw," meddai Mr Vermak .

"Mae'n gweithio trwy ddefnyddio delwedd 'cynrychioliadol' o'r person sy'n cael ei fonitro, ac yna'n defnyddio'r hyn y mae wedi'i ddysgu o'i symudiadau yn y gorffennol i weld a yw pethau'n normal, neu a oes angen i'r system hysbysu gofalwr neu aelod o'r teulu ynghylch unrhyw bryderon.

"Ac mae'n gallu gweithio mewn eiliadau. Os yw person yn cwympo, neu mewn man annisgwyl, ac efallai ddim yn gallu canu’r larwm, bydd algorithm y system yn gallu ymateb i hynny o fewn ychydig eiliadau yn unig."

Er mai Mr Vermak gafodd y syniad, roedd angen help CEMET arno i’w wireddu – ac mae’r gefnogaeth a gafodd wedi creu argraff fawr arno.

"Rwy’n rhoi pum seren i dîm CEMET. Maen nhw'n broffesiynol, o gwmpas eu pethau, ac maen ganddyn nhw ffocws cryf," meddai.

"Roedd hi'n amlwg o'r dechrau bod canlyniadau da yn mynd i ddod o’r bartneriaeth, ac fe brofodd CEMET i fod yn griw hynod broffesiynol."  

Dywedodd Gareth Evans, Swyddog Cysylltiol Ymchwil a Datblygu yn CEMET: "Fe wnaethon ni weithio ar raglen brototeip a fydd yn eu galluogi i ddangos sut y gellir defnyddio technegau cyfrifiadurol fel gwahaniaethu fframiau i olrhain symudiadau a chreu logiau gweithgaredd gan ddefnyddio data fideo," meddai.

"O’i ddefnyddio’n gywir, gallai hyn o bosibl gynorthwyo a gwella profiad preswylwyr cartrefi gofal ac aelodau o staff.

"Nod CEMET yw darparu'r rhaglen ar ffurf prototeip y gellir ei brofi gan Skystrm ar ddata fideo yn y byd go iawn.

"Yn y tymor hir, gyda digon o ddata, mae potensial i weithredu systemau dosbarthu dysgu dwfn datblygedig ar gyfer monitro gweithgareddau a chwympiadau. "

Mae CEMET yn galluogi busnesau bach a chanolig cymwys i gael mynediad at ymchwil a datblygu cydweithredol drwy broses tri cham unigryw, sy'n troi syniad arloesol yn gynnyrch o ansawdd uchel. Mae'r broses yn sicrhau bod entrepreneuriaid yn y sefyllfa orau i allu manteisio ar y cydweithio, gyda'r nod o ysgogi twf busnes.

 Mae CEMET wedi'i lleoli ym Mhrifysgol De Cymru, o fewn y Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth, ac mae'n cael ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (CDRhE) drwy Lywodraeth Cymru.