PDC yn helpu’r GIG i amddiffyn rhag y ffliw
27 Hydref, 2022
Prifysgol De Cymru (PDC) yw un o’r prifysgolion cyntaf yng Nghymru i fuddsoddi mewn brechiadau ffliw ar y safle i fyfyrwyr gofal iechyd israddedig, gan helpu’r GIG yn ei genhadaeth i gadw lefelau ffliw i lawr mewn cymunedau a lleoliadau clinigol.
Bydd y myfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn cael cynnig slotiau brechu cyfleus, ochr yn ochr â’u hamserlen addysgu, ar safle Glyn-taf y Brifysgol.
Yn ystod eu hastudiaethau, bydd y myfyrwyr gofal iechyd yn treulio hanner eu hamser ar leoliadau dan oruchwyliaeth ar draws ystod eang o leoliadau gofal iechyd, sy'n cynnwys cymuned, ysbyty, gofal lliniarol, cartrefi nyrsio, a meddygfeydd, gan ddatblygu sgiliau allweddol a fydd yn gwella eu cyflogadwyedd. Drwy gael eu brechu rhag y ffliw, byddant yn llai tebygol o ledaenu feirws y ffliw i gleifion agored i niwed, yn ogystal â lleihau’r siawns o fynd yn sâl eu hunain gyda’r ffliw.
Mae PDC wedi buddsoddi yn y cytundeb brechu gyda'r sefydliad lleol, Caer Health, a fydd yn darparu dwy nyrs y dydd. Eu nod yw brechu 160 o fyfyrwyr y dydd a hyd at 1500 i gyd.
Dywedodd Casey Lloyd, myfyriwr BSc (Anrh) Nyrsio Oedolion: “Mae wedi bod yn gyfleus i mi gael fy mrechiad ar y campws heddiw. Fel arall, byddwn wedi gorfod ceisio mynd drwodd i fy meddygfa i drefnu apwyntiad. Rhwng darlithoedd a lleoliadau, byddai hynny wedi bod yn anodd ei amserlennu. Mae’n bwysig i ni gael ein brechu wrth i’r gaeaf agosáu.”
Dywedodd Dr Ian Mathieson, Deon Cyswllt Partneriaethau a Datblygu PDC: ‘Mae llwyddiant rhaglen frechu COVID-19 Cymru wedi amlygu effeithiolrwydd brechlynnau. Yn ogystal ag amddiffyn pobl, maent hefyd yn amddiffyn ein hysbytai trwy leihau nifer y derbyniadau y gellir eu hatal. Rydym yn gweld darparu brechlynnau ffliw fel hyn fel modd o gyfrannu at ddiogelwch ein myfyrwyr, eu cleifion, a’n hysbytai.”