Wythnos Genedlaethol Rhai sy'n Gadael Gofal | Cyfweliad gyda Jayne Tanti, Cydlynydd Rhai sy’n Gadael Gofal yng Ngharchar Ei Fawrhydi y Parc

28 Hydref, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Jayne_Tanti_resized.jpg

Jayne Tanti, Cydlynydd Rhai sy’n Gadael Gofal yng Ngharchar Ei Fawrhydi y Parc

Mae'r wythnos hon yn Wythnos Genedlaethol Rhai sy'n Gadael Gofal.

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi ymrwymo i gynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sydd wedi bod mewn gofal neu’n gadael gofal ac sydd am fynd i addysg uwch (AU). Mae PDC  yn aelod o bartneriaeth CLASS (Gweithgareddau i’r Rhai sy’n Gadael Gofal a Chymorth Myfyrwyr) Cymru, sy'n rhannu arferion gorau o ran ymwneud â'r rhai sy'n gadael gofal yn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.

Mae Lynda Jones, Cydlynydd Rhai sy’n Gadael Gofal PDC, wedi bod yn gweithio'n agos gyda Jayne Tanti, cyn fyfyrwraig yn PDC a Chydlynydd Rhai sy’n Gadael Gofal yng Ngharchar y Parc (wedi'i gyflogi gan G4S). Yma, mae Jayne yn siarad am ei rôl a'i phrofiadau ei hun yn gadael gofal:

"Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae 25% o’r oedolion sy'n garcharorion yn y DU wedi cael profiad o fod yn y system ofal.

Mae pobl sydd â phrofiad o ofal hefyd yn cael eu tangynrychioli mewn addysg uwch. Dengys ymchwil mai dim ond 6% ohonyn nhw sy'n mynd yn eu blaen i addysg uwch cyn eu bod yn 21 oed.

Mae'r rhai sy'n gadael gofal yn tyfu i fyny gyda'r stigma o ymddygiad gwael. Mae'n gallu bod yn fywyd trawmatig. Pan fo bywyd yn gythryblus, gallant deimlo'n anniogel, gallant ddatgysylltu a mynd yn or-wyliadwrus. Os nad yw athrawon wedi cael digon o hyfforddiant neu brofiad, dydyn nhw ddim yn ymwybodol bod ymennydd sydd wedi profi trawma yn datblygu'n wahanol. Dyw'r plant ddim yn cael cefnogaeth ac yna maen nhw’n aml yn cael eu heithrio o'r ysgol am ymddygiad heriol.

Pan fydd y bobl ifanc hyn yn cael eu gwahardd o'r ysgol ac wedi gadael y system ofal, gall fod yn anodd iddyn nhw ymdopi gan nad oes ganddyn nhw’r cymwysterau na'r sgiliau cymdeithasol i weithio na’u cynnal eu hunain. Byddan nhw'n dod o hyd i ffordd o oroesi, a dyna pam y byddan nhw’n mynd i’r cwmni anghywir, gangiau, a chael eu hudo at fywyd o droseddu.

Yn 16 oed, mae'r bobl ifanc hyn yn cael set o allweddi a'u gadael i ymdopi ar eu pennau eu hunain.

Mae mynd i fyd yr oedolion heb unrhyw fodelau rôl positif yn hynod ynysol. Mae cael fawr ddim addysg yn effeithio ar bob agwedd ar eich bywyd. O ymgeisio am swyddi, cael mynediad at gymorth iechyd meddwl, a llawer mwy.

Roeddwn i yn y system gofal fy hun, o’r adeg pan oeddwn i’n 11 mis oed tan oeddwn i’n 16 oed. Roedd yn blentyndod unig, a ches i fawr ddim cymorth o ran dod yn annibynnol fel oedolyn, ac roeddwn i mor ifanc.

Rwy'n cofio cael fy nghosbi am beidio â bod eisiau gwneud cerdyn Sul y Mamau. Doedd gen i neb i roi cerdyn Sul y Mamau iddi, felly pam oedden nhw’n gofyn i fi wneud un?  Roedd yn wahanol i blentyn arall roedd ei fam wedi marw. Roedd athrawon yn deall ei anghenion. Doedd ganddyn nhw ddim ymwybyddiaeth o fy anghenion i a'r ffaith fy mod i hefyd yn dioddef colled ond mewn ffordd wahanol. Mae'n galonogol iawn bod PDC wedi sicrhau bod cymorth ar gael i’r rhai sydd angen cefnogaeth adeg Sul y Mamau a Sul y Tadau.

Dim ond yn ddiweddar yr es i nôl i fyd addysg. Cefais fy eithrio o'r ysgol heb unrhyw gymwysterau. Roedd dechrau yn y brifysgol fel neidio i fyd gwahanol. Roeddwn i wastad wedi clywed na allwn i ei wneud. Dechreuais gyda chwrs mynediad a dyna oedd y tro cyntaf i fi deimlo nad oeddwn i’n cael fy meirniadu, ac roeddwn i'n teimlo'n normal. Roeddwn i’n dal i weithio ar yr un pryd â gwneud cwrs llawn amser, ac yn fam sengl i bedwar o blant. Mae'n debyg mai dyma lle rydw i'n ddiolchgar am fy mywyd mewn gofal gan ei fod e wedi magu gwytnwch ynof i gario 'mlaen.  Rwyf wedi brwydro fwy neu lai am bopeth gydol fy oes ac fe wnaeth i fi fod yn fwy penderfynol i, nid dim ond pasio, ond i basio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf. Ac fe lwyddais!   Dyw eich gorffennol ddim yn pennu’r dyfodol i chi!

Doeddwn i ddim eisiau cael fy adnabod fel rhywun oedd wedi gadael gofal ar ddechrau fy astudiaethau gan fy mod i’n credu y byddai'r hynny’n fy eithrio. Ond mewn gwirionedd mae dweud eich bod wedi cael profiad o ofal yn caniatáu i'r brifysgol gynnig mwy o gefnogaeth. Rwy’n gwybod nawr fod PDC yn cynnig mynediad i'r rhai sy'n gadael gofal i lety 365 diwrnod, bwrsariaeth, a pherson enwebedig fel cyswllt.  Yn ogystal â chefnogaeth bellach ar ôl graddio, ar ffurf aelodaeth gydag 'Ask Jan' gan Sefydliad Rees.  Mae'r aelodaeth hon yn rhoi mynediad i chi at gymorth ymarferol wrth adael y brifysgol a phontio i fywyd y tu hwnt i'r system ofal.

Mae fy rôl yng Ngharchar y Parc, fel Cydlynydd Rhai sy’n Gadael Gofal, yn golygu adnabod eu hanghenion a chefnogi unrhyw un sydd wedi byw yn y system ofal neu wedi cael ei fabwysiadu, gyda'r nod o osgoi ail-drawmateiddio yn y carchar.

Rydyn ni wedi sefydlu cynllun mentora gan gyfoedion. Y nod yw helpu'r rhai sy'n gadael gofal a'u helpu i ennill cymwysterau Saesneg a Mathemateg, a dod o hyd i ffyrdd eraill i’w cefnogi.

Rydyn ni’n cynnal digwyddiad 'Cysylltu' yn y carchar gyda'r thema, 'Rwyt ti’n Fwy na dy Orffennol'.  Rydyn ni'n dod ag elusennau, cymorth iechyd meddwl, tai, cyllid ac ati gyda'i gilydd i sôn am y pethau sydd angen iddyn nhw wybod fel y gallan nhw gael gafael ar gymorth pan fyddan nhw'n cael eu rhyddhau. Yn garedig iawn, bydd rhai o weithwyr PDC yn dod draw i rannu gwybodaeth am gyfleoedd addysgol a'r gefnogaeth sydd ar gael.

Rwyf wedi datblygu a chyflwyno hyfforddiant  'ymwybyddiaeth gofal a thrawma'  i addysgu gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl sydd â phrofiad o ofal.  Rwyf wedi cynnig cynnal yr hyfforddiant yma yn PDC hefyd.

Y neges rwyf i am ei rhannu yw, er gwaethaf bod yn y system ofal a'r system gyfiawnder troseddol, mae angen rhywun ar yr oedolion ifanc hyn i gredu ynddyn nhw fel eu bod nhw'n gallu credu ynddyn nhw eu hunain - waeth beth maen nhw wedi bod drwyddo."

Mae rhagor o wybodaeth am y cymorth mae PDC yn ei gynnig i rai sy’n gadel gofal yma.