Cyn Is-Ganghellor PDC, yr Athro Julie Lydon, yn cael ei gwneud yn fonesig yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines
1 Ionawr, 2022
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2022/01-january/Professor_Julie_Lydon_OBE_landscape.jpg)
Mae cyn Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru, y Fonesig Athro Julie Lydon OBE, wedi ei gwneud yn fonesig yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines, am ei gwasanaethau i addysg uwch.
Ymddeolodd y Fonesig Julie o PDC ym mis Medi 2021 ar ôl 15 mlynedd a mwy yn y Brifysgol, gan dreulio'r 11 mlynedd diwethaf yn rôl yr Is-Ganghellor a'r Prif Weithredwr. Dyfarnwyd OBE iddi am ei gwasanaethau i Addysg Uwch yng Nghymru yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2014.
Yn ystod ei chyfnod yn y swydd, dangosodd y Fonesig Julie arweinyddiaeth academaidd gref, dyluniodd gwricwlwm arloesol, ac roedd yn angerddol dros ehangu mynediad a chreu partneriaethau gyda diwydiant.
Gan gefnogi'r sector Addysg Uwch ehangach, bu'n Gadeirydd Prifysgolion Cymru rhwng 2017 a 2021, a bu ar fyrddau Universities UK, Cynghrair y Prifysgolion a’r Cyngor Prifysgolion a Busnesau Cenedlaethol. Bu’r Fonesig Julie hefyd yn hyrwyddo datblygiadau busnes ac economaidd yn ddiflino o fewn y rhanbarth, gan gynnwys fel aelod o gyngor CBI Cymru, ac aelod o fwrdd Rhwydwaith Economaidd Casnewydd a Phorth y Gorllewin. Chwaraeodd ran flaenllaw yn y gwaith o helpu sector Addysg Uwch Cymru drwy'r pandemig Covid-19 yn 2020 a 2021, a goruchwyliodd y gwaith o greu Prifysgol De Cymru yn 2013 yn dilyn uno hen Brifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd.
Dywedodd y Fonesig Julie: "Rwy'n teimlo’n wylaidd iawn wrth dderbyn y wobr hon sy'n deyrnged i holl staff a myfyrwyr PDC. Mae prifysgolion Cymru wir wedi dod at ei gilydd yn ystod pandemig Covid-19, rwy'n falch o fy nghyfraniad at yr ymdrech gydweithredol hon. "
Wrth sôn am ei hanrhydedd, dywedodd Is-Ganghellor PDC, Dr Ben Calvert: "Rwyf wrth fy modd bod Julie wedi cael ei chydnabod am ei chyfraniad rhagorol i'r sector Addysg Uwch. Fel Is-Ganghellor benywaidd cyntaf Cymru, mae Julie wedi bod yn wir ysbrydoliaeth i lawer. Mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth haeddiannol o'i harweinyddiaeth, ei gweledigaeth a'i chyfraniad at y sector Addysg Uwch cyfan.
"Ar ran pawb yn PDC, hoffwn longyfarch Julie yn gynnes am yr anrhydedd deilwng hon."