Rhaglenni cymorth economaidd a chymunedol yn rhannu cyllid gwerth mwy na £2.3m

25 Ionawr, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Community_Renewal_Fund.jpg

Mae tri phrosiect mae Prifysgol De Cymru (PDC) ynghlwm â nhw wedi denu mwy na £2.3m o gyllid o gronfa werth miliynau o bunnoedd sydd â’r nod o gefnogi cymunedau ac economïau lleol.

Lansiwyd Cronfa Adfywio Cymunedol y DU ym mis Mawrth, a gwahoddodd gynghorau ledled y DU i wneud cais am gyfran o £200m o gyllid i gefnogi eu cymunedau a'u heconomïau lleol. Gallai pob cyngor wneud cais am hyd at £3m ar gyfer prosiectau sector preifat a chyhoeddus.

Canolfan Ymchwil a Datblygu – Cyngor Dinas Casnewydd, yr Athro Andrew Ware -  £745,617

Bydd staff o PDC, byrddau iechyd lleol, ac Age Cymru Gwent,  yn ffurfio Canolfan Ymchwil a Datblygu WIDI ar Gampws Casnewydd PDC.

Dywedodd yr Athro Andrew Ware, Cyfarwyddwr Ymchwil WIDI: "Mae'r cyfle i weithio gyda byrddau iechyd o bob rhan o'r rhanbarth i sefydlu Canolfan Ymchwil a Datblygu yng Nghasnewydd yn rhoi cyfle i ddatblygu technolegau fydd yn cael effaith ledled Cymru a’r tu hwnt."

Bydd hyn yn cynnwys dylunio a phrototeipio Pentref Iechyd Digidol ar-lein, fydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr nyrsio a gofal iechyd perthynol hyfforddi mewn amgylchedd efelychiadol; datblygu deunydd addysgu ar-lein sy'n ymwneud ag Iechyd a Gofal Digidol; a llunio strategaeth ac adnodd addysgol ar gyfer BIPAB i wneud y defnydd gorau o Ddeallusrwydd Artiffisial wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal.

Bydd y strategaeth a'r adnodd addysgol yn ffurfio glasbrint a phrototeip fydd, drwy gysylltiadau helaeth WIDI â byrddau iechyd eraill, yn cael eu defnyddio i lywio gwaith pobl eraill.

Ideas2Innovation – Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yr Athro Dylan Jones-Evans, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol Entrepreneuriaeth - £559,526

Bydd rhaglen Ideas2Innovation wedi'i lleoli mewn cyflymydd busnes newydd yn Rhondda Cynon Taf a bydd yn cynnig pecyn cymorth i entrepreneuriaid ddatblygu a masnacheiddio eu syniadau busnes.

Bydd yn defnyddio dull newydd sy'n cyfuno cyllid hadu gyda chymorth uniongyrchol - gan gynnwys hyfforddiant, cymorth busnes, mynediad at fannau gwaith, a mentora – a bydd yn canolbwyntio ar fuddsoddi mewn syniadau newydd, sgiliau entrepreneuriaeth i droi'r syniadau hynny'n ddatblygiadau arloesol, a chefnogi pobl ifanc fentrus i ddechrau busnes.

Bydd cyllid o hyd at £15,000 ar gael ar gyfer datblygu busnesau. Mae'r rhaglen yn bartneriaeth rhwng PDC a Sefydliad Alacrity, y mae'r ddau ohonynt yn ymwneud â chefnogi datblygiad talent entrepreneuraidd yn Ne-ddwyrain Cymru.

Rhaglen VISTA - Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, yr Athro Nigel Copner – £1,008,874

Bydd Sefydliad Arddangos Arloesi'r Cymoedd mewn Datblygu Technolegol (VISTA) yn darparu fforwm i academyddion a diwydiant gyflawni gwelliannau o ran cynhyrchiant, elw, ac ôl troed carbon is i gwmnïau.

Bydd yn sefydlu man arddangos a chanolfan i gyflwyno gweithdai, rhannu gwybodaeth, cyllid a rhwydweithiau, fydd yn gwneud diwydiannau ym Mlaenau Gwent yn fwy cystadleuol o lawer.

Bydd cyllid hefyd ar gael i gwmnïau ddatblygu cynnyrch neu brosesau newydd  fydd yn galluogi mwy o gynhyrchiant, cystadleurwydd a chyfleoedd ar gyfer buddsoddiadau pellach.

Bydd hefyd yn gweithio'n agos gyda chwmnïau i adnabod eu heriau allweddol a darparu cymorth wedi'i dargedu gan y byd academaidd a diwydiant.

Dywedodd yr Athro Paul Harrison, Dirprwy Is-Ganghellor (Arloesi): "Mae'r tri llwyddiant hyn yn dyst i ysbryd entrepreneuraidd ein hacademyddion, a'u hymrwymiad at gefnogi busnesau lleol ac felly tyfu ffyniant economaidd yn ein cymunedau lleol.  Dyma ddangos unwaith eto mai ni yw Prifysgol De Cymru."