Rocedi myfyrwyr yn anelu at yr wybren
5 Ionawr, 2022
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2022/01-january/Group_pic.jpg)
Mae myfyrwyr wedi bod yn teimlo’r wefr sydd i’w chael o waith peirianneg a gwyddor rocedi.
Yn ddiweddar ymunodd dysgwyr o Goleg Gwent a Choleg Merthyr Tudful ag israddedigion o Brifysgol De Cymru (PDC) i lansio rocedi roedden nhw wedi'u hadeiladu mewn prosiect dan ofal Cymdeithas Rocedi PDC.
Llwyddodd myfyrwyr y colegau i adeiladu rocedi ar ôl treulio amser ar Gampws Trefforest PDC yn ddiweddar, yn dysgu mwy am wahanol agweddau technegol ar wyddor rocedi mewn sesiwn arbennig a drefnwyd gan Ysgol Peirianneg y Brifysgol.
Gyda'r tywydd yn berffaith, a gyda chaniatâd rheolwyr traffig awyr, llwyddodd y myfyrwyr i lansio eu rocedi o gae ger Magwyr yng Ngwent, gan eu galluogi i brofi eu sgiliau adeiladu a pheirianneg.
Roedd yr uwch ddarlithydd Dr Leshan Uggalla, un o geffylau blaen Cymdeithas Gwyddor Rocedi PDC, yn y sesiwn lansio i gefnogi'r myfyrwyr, ynghyd â'r athro gwadd, Dr Phil Charlesworth, sy'n arweinydd technegol gyda Chymdeithas Gwyddor Rocedi PDC.
"Roedd yn wych iddyn nhw weld eu dysgu a'u gwaith caled ar waith yn ymarferol, a gweld y rocedi'n hedfan i'r awyr ar gyflymder rhyfeddol – aeth rhai ohonyn nhw dros 1,500 o droedfeddi i'r awyr," dywedodd Dr Uggalla.
"Rhoddodd y sesiynau a gynhalion ni yn PDC ddealltwriaeth fanwl iddyn nhw o'r hyn sy'n gwneud i roced hedfan, ac fe gawson nhw gyfle i weld rhai o'r rocedi'n cael eu hadeiladu yn PDC," meddai Dr Charlesworth.
"Nid dim ond y myfyrwyr hyn fydd yn elwa. Rydyn ni’n ceisio creu diwylliant sy'n hyrwyddo STEM (gwyddoniaeth, electroneg, peirianneg a mathemateg) yn y rhanbarth, a dangos sut y gall y pynciau hyn fod yn heriol ac arwain at yrfaoedd cyffrous," ychwanegodd Dr Uggalla.
"Ein bwriad yw gweithio gyda rhagor o ysgolion a cholegau ac ehangu'r Gymdeithas Rocedi o bosib, fel y gall rhagor o bobl ifanc fwynhau'r sesiynau hyn a rhoi eu creadigaethau eu hunain ar brawf."
Mae'r Gymdeithas Rocedi yn gweithio gyda myfyrwyr sy'n gwirfoddoli i gymryd rhan mewn dylunio, rheoli, monitro ac adeiladu rocedi o'r newydd.
Gyda thechnegau strwythurol, trydanol, electroneg a mecanyddol yn sail i’r cyfan, mae'n rhoi cyfle i fyfyrwyr sy'n astudio pynciau o'r fath, ac eraill sydd â diddordeb mewn rocedi a’r gofod, gael profiad ymarferol yn y llu o wahanol sgiliau a ddefnyddir gan ddiwydiannau awyr a gofod y DU.
Ers ei sefydlu ym mis Tachwedd 2018, mae'r Gymdeithas wedi dylunio, adeiladu, lansio ac adfer rocedi'n llwyddiannus, wedi i rai ohonyn nhw gyrraedd hyd at 3,000 o droedfeddi, yn ogystal ag ennill Pencampwriaeth Rocedi Cenedlaethol UKSEDS yn 2018/19.