Blwyddyn lwyddiannus o fenter i Brifysgol De Cymru

30 Mai, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Bright_idea.jpg

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn dathlu blwyddyn arall o lwyddiant yn cefnogi myfyrwyr a graddedigion entrepreneuraidd drwy amrywiaeth o raglenni menter a thrwy ehangu ei deoryddion ar gyfer graddedigion ar bob un o'i thri champws.

Mae'r agenda hon wedi'i chefnogi'n weithredol nid yn unig drwy gyllid ychwanegol gan PDC ond drwy fuddsoddiad parhaus ynddi hefyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

Mae'r gefnogaeth hollbwysig hon wedi arwain at gyflwyno mwy na 3,500 o fyfyrwyr i entrepreneuriaeth drwy weithgareddau codi ymwybyddiaeth gan gynnwys sioeau teithiol, ‘shout outs’, sgyrsiau ysbrydoledig, a chystadlaethau, i ystyried gwaith llawrydd neu ddechrau busnes. Yn bwysicach na hynny, PDC oedd â'r nifer uchaf o fusnesau newydd gan raddedigion yng Nghymru yn 2021 yn ôl yr Arolwg Rhyngweithio Rhwng Busnesau a'r Gymuned mewn Addysg Uwch.

Yn ôl yr Athro Dylan Jones-Evans OBE, Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol PDC dros Fenter, mae diddordeb mewn entrepreneuriaeth a gweithgarwch menter ymhlith myfyrwyr a graddedigion yn parhau'n gryf ledled y Brifysgol.

"Yn PDC, mae datblygu myfyrwyr mentrus a graddedigion entrepreneuraidd yn rhan greiddiol o'r hyn a wnawn" meddai.

"Wedi ein gyrru gan ein strategaeth 2030 i newid bywydau a'r byd er gwell, rydym yn parhau i dyfu ein gallu a'n diwylliant o entrepreneuriaeth drwy sicrhau'r effeithiau cadarnhaol mwyaf posibl i'n myfyrwyr, ein partneriaid a'n cymunedau.

"Er bod llawer mwy i'w wneud i fanteisio i'r eithaf ar botensial entrepreneuriaeth yn y brifysgol, bydd yr ystod o raglenni menter, mentrau newydd, ac ehangu ein rhwydweithiau deori i raddedigion, yn gwneud gwir gyfraniad yn y dyfodol."

Un o'r mentrau newydd mwyaf llwyddiannus o ran cefnogi'r nod strategol o gynnwys entrepreneuriaeth ym mhob cwrs, codi ymwybyddiaeth o entrepreneuriaeth ymysg myfyrwyr, a darganfod syniadau busnes o bob rhan o'r sefydliad, fu penodi Hyrwyddwr Entrepreneuriaeth ym mhob un o'r 10 ysgol academaidd yn PDC.

Roedd Andy Thomas, uwch ddarlithydd yn yr Ysgol Iechyd, Chwaraeon ac Ymarfer Proffesiynol, yn un o'r rhai a ddewiswyd fel hyrwyddwr i gefnogi menter yn y brifysgol yn ystod y 12 mis diwethaf.

"A hithau’n rôl newydd yn yr ysgol mae wedi bod yn brofiad heriol a gwerth chweil," meddai.

"I ddechrau, roedd hi’n fater o ddarganfod pa weithgarwch menter oedd eisoes ar waith, creu agendâu menter, a chefnogi myfyrwyr mentrus. Bellach mae’r gwaith sylfaenol wedi'i wneud, rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol i gefnogi ein myfyrwyr mentrus."

Er mwyn galluogi myfyrwyr a graddedigion i wireddu eu breuddwydion o ddechrau busnes newydd, darparwyd ystod o gyllid a chymorth busnes gan PDC.

Dosbarthwyd y swm uchaf erioed o £30,000 o gyllid i fusnesau myfyrwyr a graddedigion drwy gyfuniad o ddyfarniadau £250 i brofi’r farchnad, dyfarniadau rhwng £250-£1,000 yn y Den Syniadau Disglair, a £1,000-£5,000 drwy Gystadleuaeth Cynnig Syniadau Springboard.

Yn ogystal, ail-agorodd Startup Stiwdio Sefydlu Caerdydd ei drysau i entrepreneuriaid graddedig ac adnewyddwyd gofod Stiwdio Sefydlu newydd ar Gampws Casnewydd PDC. Bydd trydedd Stiwdio yn cael ei sefydlu ar Gampws Trefforest yn haf 2022 i gefnogi graddedigion gwyddoniaeth, cyfrifiadura a pheirianneg i ddechrau a datblygu eu busnesau.

Cefnogwyd Victor Ojabo, a raddiodd o'r Ysgol Beirianneg, i ddatblygu ei fusnes newydd - NDT De Cymru - gan staff menter yn PDC ac mae bellach yn cyflogi pedwar o bobl yn ei swyddfa ar Gampws Casnewydd. Yn ôl Victor, mae cymorth gan PDC wedi bod yn amhrisiadwy.

"Mae Menter PDC wedi fy nghefnogi'n aruthrol drwy gydol fy nhaith cychwyn busnes, o ddatblygu fy syniad busnes a chymeradwyo fy Fisa Cychwyn Busnes, ac wedyn cael fy mentora, a fy helpu gyda datblygiad busnes parhaus a chyngor diduedd. Mae’n ffordd wych hefyd o drafod syniadau a chael ymateb iddyn nhw," meddai Victor.

"Yn dilyn cyfyngiadau Covid-19, mae swyddfa yn Stiwdio Sefydlu Campws Casnewydd  wedi helpu NDT De Cymru i sicrhau twf busnes ac arbed costau rhentu. Pan fyddwch chi'n cefnogi busnesau bach, rydych chi'n cefnogi breuddwyd, gan fod pob busnes mawr yn dechrau'n fach."

Yn ogystal â'i gweithgareddau ei hun, mae PDC wedi bod ynghlwm wrth y gwaith o  arwain cydweithrediadau gyda phrifysgolion a cholegau eraill yng Nghymru, gan gyflwyno rhaglenni fel Gŵyl Cychwyn Busnes yr Haf, Mix up and Pitch, a Hack of Change. 

Crëwyd 'Marchnad Myfyrwyr Cymru' hefyd mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i roi cyfle i fyfyrwyr a graddedigion diweddar brofi’r farchnad a hybu gwerthiant eu cynnyrch a'u gwasanaethau.

Mwy ar gael yn https://entrepreneurship.wales/2022/05/23/enterprise-review-2021/