Sioe gelf graddedigion yn ffocysu ar les cymunedol ym Mhontypridd
27 Mai, 2022
Branwen Draper
Mae myfyrwyr Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig o Brifysgol De Cymru (PDC) wedi bod yn arddangos eu gwaith celf blwyddyn olaf, mewn lleoliadau amrywiol ledled canol tref Pontypridd, fel rhan o'u sioe raddedigion flynyddol.
Roedd y sioe, pART of Pontypridd, yn arddangos gwaith celf gan fyfyrwyr, oedd wedi’i lywio gan y gymuned neu wedi gwahodd cyfranogiad y cyhoedd.
Roedd y gwaith i’w weld rhwng dydd Gwener 20 a dydd Sul 22 Mai mewn lleoliadau ar hyd a lled Pontypridd, gan gynnwys marchnad, llyfrgell a pharc y dref, ynghyd â chaffis a siopau. Datblygodd yr artistiaid berthynas â sefydliadau lleol a ysbrydolodd y gwaith, a’r nod oedd adlewyrchu eu hangerdd llwyr dros gefnogi lles cymunedol.
Cefnogwyd y sioe gan Gyngor Tref Pontypridd, AGB Pontypridd (Ardal Gwella Busnes), Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Website Sorted, a Plaingraffic.
Dywedodd Sue Jones, myfyrwraig drydedd flwyddyn, yr arddangoswyd ei gwaith yn Amgueddfa Pontypridd: "Fe wnes i greu fy ngwaith i annog pobl i gymryd sylw o'r llefydd gwych ym Mhontypridd a’r cyffiniau. Mae wedi bod yn gyfle gwych i gysylltu â phobl."
Arddangosodd Branwen Draper ddetholiad o waith celf a grëwyd mewn lleoliadau yn y dref. Dywedodd: "Rydyn ni wedi bod yn datblygu perthynas broffesiynol gyda busnesau lleol i'n paratoi ar gyfer pan fyddwn ni'n gweithio fel artistiaid ar ein pennau ein hunain. Mae wedi bod yn fater o feithrin cysylltiadau a rhoi hwb i fusnesau a'r gymuned leol."
Dywedodd Becky Davies, arweinydd modiwl y prosiect: "Bob blwyddyn, mae Llwybr Celf pART Pontypridd yn gyfle gwirioneddol arbennig i fyfyrwyr ymgysylltu’n llwyr â chymuned leol Pontypridd. Fel Artistiaid Cymunedol, Cymdeithasol Ymgysylltiedig a Chyfranogol, neu Ymarferwyr Celf mewn Iechyd a Lles, maen nhw’n ymateb i Bontypridd fel lle, drwy wneud cysylltiadau ystyrlon â phobl sy'n byw ac yn gweithio yno, neu’n ymweld. Maen nhw’n ystyried anghenion y dref o ran lles y bobol, ac yn twrio i hanes yr ardal hefyd.
"Mae ein partneriaeth â Chyngor Tref Pontypridd ac AGB Pontypridd yn creu cyfleoedd i fyfyrwyr arddangos mewn ffordd gydweithredol gydag amrywiaeth o fusnesau annibynnol, tirnodau, lleoliadau, sefydliadau ac elusennau sydd yr un mor angerddol am y dref ag yr ydyn ni. Her gyffrous i'r myfyrwyr yw cydweithio â'u lleoliad arddangos ac aelodau o'r gymuned leol i gynllunio cyfres o ymyriadau artistig sy'n fuddiol i bawb, gan arwain at allbynnau creadigol sy'n perthyn lawn cymaint i Bontypridd ag y maen nhw i'n myfyrwyr.
"Rydyn ni’n credu ei bod yn bwysig cael y cyfle a'r set unigryw o heriau sydd ynghlwm wrth ddod â chelf allan o gyd-destun welydd gwyn orielau, i fannau bob dydd lle gall pobl Pontypridd ymweld yn hawdd, mwynhau’r celf, ac ymgysylltu ag ef (a hyd yn oed weld peth o'u gwaith eu hunain wedi ei ymgorffori!)"
Mae'r arddangosfa ar gael i'w gweld ar-lein, gyda map rhyngweithiol sy'n dolennu at ddetholiad o ffotograffau, fideos a chlipiau sain a grëwyd gan yr artistiaid.
Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael ar dudalen Facebook pART Pontypridd.