Tenantiaid cymdeithasau tai yn cael cyngor diogelwch ar-lein gan arbenigwyr seiber PDC
13 Mai, 2022
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) a Chartrefi Dinas Casnewydd (NCH) wedi bod yn helpu cwsmeriaid y gymdeithas dai i gadw’n ddiogel ar-lein yn ystod cyfres o ddigwyddiadau arbenigol.
Cynhaliodd Campws Casnewydd PDC sesiynau galw heibio Clinig Cymunedol Seiber ar 9, 10 ac 11 Mai, yn ogystal â gweithdai yn egluro peryglon sgamiau ar-lein a sicrhau bod cyfrineiriau yn ddiogel.
Mae PDC wedi’i henwi’n Brifysgol Seiber y Flwyddyn am y tair blynedd diwethaf, ac mae Campws Casnewydd yn gartref i’r Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSA), lle mae myfyrwyr yn gweithio’n agos gyda nifer o gwmnïau allanol i sicrhau eu bod yn seiberddiogel.
Yn ystod y Clinigau, rhannodd myfyrwyr PDC yr arbenigedd hwn, gyda staff y Brifysgol hefyd yn rhoi awgrymiadau ar ddiogelwch ar-lein.
Dywedodd Sharan Johnstone, sy'n bennaeth yr NCSA, fod y clinigau wedi'u cynllunio i roi cyfle i gwsmeriaid NCH adeiladu eu hyder ar-lein.
“Gyda chymaint o bethau dydd i ddydd bellach yn cael eu rheoli ar-lein, mae’n hanfodol bod pawb sy’n defnyddio’r rhyngrwyd ac apiau yn deall beth yw’r peryglon, a sut i osgoi peryglu eu hunaniaeth neu ddata,” meddai.
“Yn PDC, mae gennym ni fyfyrwyr a staff sy’n gweithio gyda rhai sefydliadau mawr i sicrhau eu bod yn seibr-ddiogel, ac roeddem yn fwy na pharod i drosglwyddo’r arbenigedd hwn i unigolion a allai elwa o’r wybodaeth.
“Dyma’r rhan gyntaf o bartneriaeth sydd gennym gyda NCH, yr ydym wedi arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU) ag ef a fydd yn ein gweld yn gweithio gyda nhw yn strategol ar leoliadau myfyrwyr, gweithgareddau cymunedol, a phrosiectau eraill.
“Bydd hefyd yn ein helpu ni a NCH i gefnogi Strategaeth Ddigidol i Gymru Llywodraeth Cymru, sy’n anelu at wella cynhwysiant digidol a sgiliau, a thrwy hynny leihau anghydraddoldeb, a Strategaeth Ddigidol Cyngor Dinas Casnewydd, sy’n cynnwys iddo gael Achrediad Siarter Cynhwysiant Digidol.”
Nathan Davies, Rheolwr Datblygu Cymunedol, “Mae NCH wedi ymrwymo i ddatblygu dealltwriaeth gryfach o weithgareddau, partneriaethau a chyfleoedd a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar ein cymunedau. Rydyn ni wir yn credu, trwy weithio gyda’n cwsmeriaid a’n partneriaid fel PDC a Newport Transport, ein bod ni’n diwallu’r angen i gefnogi ein cwsmeriaid i ddod yn rhan o gynhwysiant digidol ac yn bwysicach fyth, eu helpu nhw i aros yn ddiogel ar-lein.
Dywedodd Rachael Davies, Rheolwraig Cymdogaeth NCH: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio gyda’n cymunedau a Phrifysgol De Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at fentrau yn y dyfodol mewn partneriaeth ac ehangu ar y gwaith y gallwn ei wneud gyda’n gilydd. Hoffwn ddiolch yn fawr i Newport Transport am eu cefnogaeth i’n helpu i gael cwsmeriaid i’r digwyddiad drwy roi tocynnau bws.”
Mae Prifysgol De Cymru hefyd yn bwriadu cynnal clinigau Seiberddiogelwch Cymunedol ar gyfer holl drigolion ardal Casnewydd ar brynhawn dydd Mercher o fis Hydref ymlaen.
‘Mae’r bobl yma o’r Brifysgol wedi bod yn help mawr’
Roedd Keith Wood yn un o gwsmeriaid Cartrefi Dinas Casnewydd a fynychodd y Clinig Cymunedol Seiber ar Gampws Casnewydd PDC.
Mae’r dyn 79 oed, a fu’n gweithio i British Telecom am 30 mlynedd, yn barod i gyfaddef nad oedd ganddo ddiddordeb i ddechrau defnyddio cyfrifiadur, na mewngofnodi i wefannau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook.
Ond, fel cadeirydd partneriaeth graffu annibynnol Cartrefi Dinas Casnewydd, bu’n rhaid iddo ddod yn gyfarwydd â mynd ar-lein a defnyddio’r offer oedd ar gael iddo i gadw mewn cysylltiad.
“Mae’n bwysig fy mod i yn y cyfarfodydd Zoom yn gallu cyfrannu, gan na allwn wneud hynny yn flaenorol,” meddai Mr Wood.
“Bydden nhw’n anfon y cofnodion ata’ i a byddwn i’n ymateb i’r cofnodion ac ati. Ac fe weithiodd hynny, iawn.
“Ond, o ganlyniad i’r pandemig, mae wedi bod yn arf hanfodol i’w ddefnyddio, ac rydw i wedi ei werthfawrogi. Mae wedi gwneud gwahaniaeth - gwahaniaeth mawr.”
Roedd yr angen i fynd ar-lein yn rhywbeth y dywedodd Mr Wood ei fod wedi'i wrthsefyll. Dywed y byddai’n well ganddo ‘siarad wyneb yn wyneb’ ac nad oedd am gael ei ‘sugno i mewn’ i’r cyfryngau cymdeithasol ar ôl sefydlu ei hun ar iPad.
“Gallaf weld yr atyniad a’r apêl iddo,” meddai. “Ac yn aml rydw i'n Gwglo pethau'n achlysurol iawn pan fydd angen i mi wybod rhywbeth. Felly dwi'n gwneud cynnydd.”
O ran y Clinigau, a ydw i’n meddwl eu bod wedi bod yn syniad da?
“Yn bendant,” dywedodd Mr Wood. “Rwyf bob amser eisiau datblygu fy nysgu. Felly mae unrhyw beth mewn perthynas â diogelwch, unrhyw ddarnau o wybodaeth y gallaf eu casglu, yn bendant yn werth chweil.
“Mae’r bobl yma o’r Brifysgol wedi bod yn help mawr, a gallant eich cyfeirio i’r cyfeiriad cywir.
“Roeddwn wedi bod yn colli e-byst, ond dywedwyd wrthyf fod cyfleuster lle gallaf eu trosglwyddo i’r archif, ond ni allwn ddod o hyd i’r archif ac ni allai neb arall. Ond fe wnaethon nhw ddatrys hynny i mi, sydd wedi bod yn wych.”