Academydd addysg blynyddoedd cynnar yn ennill gwobr genedlaethol
25 Mawrth, 2022
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2022/03-march/Pavla_Boulton_NTF.jpg)
lwyddodd Pavla Boulton, Uwch Ddarlithydd mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), i gasglu ei gwobr fawreddog Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol neithiwr yn Seremoni Gwobrau Rhagoriaeth Addysgu Advance HE, bron i ddwy flynedd ar ôl ei hennill.
Derbyniodd Pavla y wobr am ei heffaith ragorol ar ddeilliannau myfyrwyr a’r proffesiwn addysgu.
Mae’r Gymrodoriaeth, a ddyfernir trwy broses hynod gystadleuol gan AdvanceHE i hyd at 55 o ymarferwyr AU yn y DU bob blwyddyn, yn cydnabod gwaith parhaus Pavla gyda’i myfyrwyr, sy’n newid bywydau ac, yn eu tro, y plant y maent yn eu haddysgu. Mae Pavla yn un o lond llaw o academyddion yn PDC sydd wedi ennill y wobr,
Dywedodd Pavla: “Ar ôl gweithio ym myd addysg drwy gydol fy mywyd gwaith, rydw i’n falch iawn bod y gwaith rydw i wedi bod yn ei wneud gyda fy myfyrwyr, fy nghydweithwyr, a phartneriaid wedi’i gydnabod mewn ffordd mor fawreddog.
“Mae wedi bod yn bleser chwarae rhan yn natblygiad cymaint o deithiau graddedigion y Blynyddoedd Cynnar ac mae eu llwyddiant yn cadarnhau fy nghred bod rôl pob ymarferwr Blynyddoedd Cynnar yn arwyddocaol ym mywydau ein plant.
“Mae ennill gwobr NTF yn adlewyrchiad o ymrwymiad fy myfyrwyr i’w dysgu sydd wedi fy ngalluogi i dyfu a datblygu fel darlithydd AU a mentor myfyrwyr.”
Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol yw'r gwobrau mwyaf mawreddog y gellir eu rhoi i'r rhai sy'n ymwneud ag addysgu neu gefnogi dysgu mewn addysg uwch.