Cefnogi myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig gydag adnodd un-o-fath

18 Mawrth, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Preparing-for-Viva.jpeg

Mae Ysgol Graddedigion Prifysgol De Cymru (PDC) wedi creu adnodd unigryw ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ledled y DU, gan ddarparu popeth sydd ei angen arnynt i baratoi ar gyfer eu harholiadau viva.

Mae’r dudalen we, Sut i Baratoi ar gyfer eich Arholiad Viva, yn cynnwys cyfres o fideos ac adnoddau ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ar draws y sector, ac fe’i datblygwyd fel rhan o brosiect cydweithredol gyda University Alliance, Prifysgol Coventry, Prifysgol Huddersfield a Phrifysgol Sheffield Hallam. Mae'r adnoddau hyn ar gael am ddim i Ymchwilwyr Ôl-raddedig ar draws holl Sefydliadau Addysg Uwch y DU.

Wedi'i ariannu gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA) fel rhan o'u Prosiectau Partneriaeth Gwella Cydweithredol, mae'r prosiect yn defnyddio profiad rhwydwaith sy’n cynnwys myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, goruchwylwyr, academyddion ac arbenigwyr datblygu ymchwilwyr a ddatblygwyd gan y rhaglen Cynghrair Hyfforddiant Doethurol (DTA) a gydlynir gan y Gynghrair Prifysgolion.

Nod yr adnoddau yw gwella profiad dysgu myfyrwyr trwy arddangos profiadau bywyd go iawn a chwestiynau viva posibl; eu helpu i lunio a datblygu eu paratoadau, rhagweld cwestiynau posibl a phrofi atebion posibl, i helpu i ddileu rhai o'u hofnau a'u pryderon a rhoi'r siawns gorau posibl iddynt lwyddo.

“Bydd hyn yn gymorth enfawr i mi”

Mae’r cyn-filwr Adam Jones yn fyfyriwr PhD blwyddyn olaf o Gelli, Rhondda. Mae’n cynnal ei PhD Peirianneg Drydanol a ariennir gan KESS mewn partneriaeth â Tata Steel.

Dywedodd Adam: “Byddaf yn cynnal fy Viva ar gyfer fy ymchwil PhD o fewn y flwyddyn nesaf, ac ni allai’r adnoddau fod wedi dod ar amser gwell.

"Mae’r adnoddau’n llawn gwybodaeth, ac yn cynnwys fideos sy’n esbonio’r holl broses o benodi’r tîm arholi i’r Viva ei hun.

“Fel cynrychiolydd myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, rydw i'n siarad â llawer o fyfyrwyr ymchwil ar draws y Brifysgol, ac mae'r viva yn rhywbeth rydyn ni i gyd yn ei ofni! Mae llawer o'r cyngor presennol ar sut i baratoi wedi bod yn oddrychol, yn dibynnu ar brofiad dysgu a'r maes pwnc.

"Rwy'n teimlo'n llawer mwy hyderus yn cael mynediad at yr adnoddau hyn, sydd wedi'u pecynnu'n daclus i dudalen we. Byddan nhw’n gymorth enfawr i mi, ac eraill.”

Llinos Spargo, Cydlynydd Ysgol Graddedigion PDC, sy'n arwain y prosiect. Meddai: “Rwyf wedi gweithio yn PDC ers dros 20 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw rwyf wedi cwrdd â chymaint o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig gwych. Rwyf wrth fy modd yn eu gwylio'n tyfu o'r myfyriwr nerfus yn y cyfnod cynefino i'r ymchwilydd proffesiynol hyderus, annibynnol a welwch yn y Graddio. Dwi wir yn caru fy swydd!

“Mae'r prosiect hwn yn ymwneud â chefnogi myfyrwyr trwy un o brofiadau mwyaf gwerth chweil eu bywydau; gan ddod â phrofiadau bywyd go iawn y staff academaidd sy'n gweithio fel goruchwylwyr ac arholwyr Ymchwil Ôl-raddedig ynghyd, datblygwyr ymchwilwyr eraill a’r myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig eu hunain.

“Mae wedi bod yn gyfnod prysur, pleserus ac ydy, ar adegau, yn saith mis llawn straen ond rydw i wedi bod wrth fy modd yn gweithio gyda thîm y prosiect, tîm QAA ac yn bwysicaf oll y cyfranwyr. Rwyf wrth fy modd ac yn falch ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwn.”

Ychwanegodd yr Athro Martin Steggall, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil yn PDC: “Mae hwn yn adnodd rhagorol, gyda lleisiau gan fyfyrwyr, arholwyr a goruchwylwyr sy’n rhoi sylwadau craff am y viva a sut i fynd ati, i baratoi ac i amddiffyn y gwaith. Mae’r awgrymiadau’n ymarferol a bydd pob myfyriwr yn tynnu sylw at rywbeth cadarnhaol o wylio’r fideos byr hyn.”