Climate Clash Cymru: gwneud cerddoriaeth fyw yn fwy cynaliadwy
15 Mawrth, 2022
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn ymuno â Music Declares Emergency i gyflwyno Climate Clash Cymru yn ddiweddarach y mis hwn.
Yn cael ei gynnal ar 29 Mawrth, mae Climate Clash Cymru’n ddigwyddiad sy'n ymroddedig i arloesi mewn cerddoriaeth fyw i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Ei nod yw archwilio syniadau i wneud cerddoriaeth fyw yn fwy cynaliadwy, gan gynnwys rôl nwyddau, trafnidiaeth ac artistiaid wrth sicrhau newid cadarnhaol.
Mae'r digwyddiad am ddim yn rhan o Ŵyl Immersed! PDC yn Tramshed, yn nodi ymweliad cyntaf Music Declares Emergency â Chymru. Bydd hyn yn cael ei ddathlu gydag murlun ac oriel dros dro unigryw yng nghanol dinas Caerdydd, yn seiliedig ar themâu sy'n ymwneud â 'Dim Cerddoriaeth ar Blaned Farw'.
Mae'r Brifysgol yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd i greu murlun ar wal gyferbyn â Chlwb Ifor Bach, Stryd Womanby, gan Bradley Rmer, un o gyn fyfyrwyr PDC sy'n arbenigo mewn celf graffiti. Mae myfyrwyr BA (Anrh) Darlunio PDC yn helpu i greu'r murlun, gyda'r dyluniad buddugol yn cael ei ddewis ar 18 Mawrth.
Mae Music Declares Emergency yn grŵp o artistiaid, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau o’r diwydiant cerddoriaeth, yn cynnwys Annie Lennox, Massive Attack, Fatboy Slim, Gilles Peterson a Billie Eilish, sy'n sefyll gyda'i gilydd i ddatgan argyfwng hinsawdd ac ecolegol ac yn galw ar lywodraethau i ymateb ar unwaith i ddiogelu holl fywyd y Ddaear.
Bydd Climate Clash Cymru yn dechrau am hanner dydd ar ddydd Mawrth 29 Mawrth. I archebu tocynnau, ewch i Eventbrite. Bydd y digwyddiad hefyd ar gael drwy ffrwd fyw.