Cyn-fyfyrwyr PDC yn dathlu ar ôl gweithio ar y ffilm Dune a enillodd Oscar chwe gwaith
28 Mawrth, 2022
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2022/03-march/Dune_-_Oscar_nomination_4RLFVvU.jpg)
Mae graddedigion Ysgol Ffilm a Theledu Cymru Prifysgol De Cymru (PDC) yn llawn balchder heddiw ar ôl bod yn rhan o’r tîm sy’n gweithio ar Dune, enillydd mwyaf yr Oscars eleni.
Enillodd y ffilm, dehongliad ffuglen wyddonol o nofel Frank Herbert ym 1965, Wobrau'r Academi mewn chwe chategori gwahanol - Effeithiau Gweledol Gorau, y Sgôr Wreiddiol Orau, y Sinematograffeg Gorau, y Golygu Ffilm Gorau, y Dyluniad Cynhyrchu Gorau a’r Sain Gorau.
Bu cyn-fyfyrwyr o’r radd BA (Anrh) Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol, gan gynnwys Rosie Walker a Ben Brown, yn gweithio ar y ffilm, sy’n serennu Javier Bardem, Rebecca Ferguson a Zendaya, ymhlith llawer o rai eraill. Wedi’i osod yn y dyfodol pell, mae Dune yn dilyn Paul Atreides wrth i’w deulu, y bonheddig House Atreides, gael eu gwthio i ryfel dros y blaned anial farwol a digroeso, Arrakis.
Crëwyd mwy na 2,000 o saethiadau effaith weledol ar gyfer y ffilm, gan ddefnyddio proses bysell chroma o’r enw ‘sandscreen’; yn lle defnyddio cefndiroedd gwyrdd, defnyddiodd y tîm effeithiau gweledol lliw brown a oedd yn cyd-fynd â'r lluniau o'r anialwch sefydledig, gan arwain at y cefndiroedd yn ymddangos yn fwy naturiol.
Disgwylir i'r dilyniant i Dune gael ei ryddhau ym mis Hydref 2023.
Ymhlith yr enwebiadau ar gyfer yr Oscars eleni roedd Affairs of the Art, ffilm fer Gymreig a grëwyd gan gyn-staff a myfyrwyr Animeiddio PDC, a gollodd allan o drwch blewyn y wobr am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau.
Roedd Spider-Man: No Way Home hefyd yn y ras am yr Effeithiau Gweledol Gorau. Gweithiodd Amy Carpenter, cyd fyfyriwr graddedig Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudiad, a’r myfyriwr graddedig Animeiddio Cyfrifiadurol Jakub Kupcik, ar y ffilm antur.
Dywedodd Tom Ware, Cyfarwyddwr Cynhyrchu a Pherfformio yn PDC: “Rydym wrth ein bodd yn clywed am lwyddiant Rosie Walker a Ben Brown ar yr hyn y gellir dadlau oedd ffilm fwyaf y flwyddyn.
“Ynghyd â nifer o raddedigion eraill Ysgol Ffilm a Theledu Cymru a enwebwyd, mae cyflawniadau Rosie a Ben yn atgoffa gwych o’r dyfnder enfawr o dalent diwydiannau sgrin y mae PDC yn parhau i helpu i’w cefnogi.”
Ychwanegodd Jack Phillips, Uwch Ddarlithydd Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol yn PDC: “Mae’n wych gweld gwaith Rosie a Ben yn cael ei gydnabod fel rhan o’r tîm sy’n gweithio ar Dune.
“Mae eu doniau wedi mynd ymlaen i ysbrydoli a chefnogi llawer o rai eraill o PDC ar y cwrs Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol sydd eu hunain wedi dod yn rhan o ddiwydiant mor gyffrous, bywiog, a chreadigol.”