Cynulleidfa'r Dyfodol: Sut helpodd PDC i greu pennod newydd ar gyfer Wallace & Gromit
7 Mawrth, 2022
Sut fyddech chi'n ailddyfeisio cynulleidfaoedd y dyfodol ar gyfer adloniant Prydeinig eiconig?
Cydweithiodd Prifysgol De Cymru (PDC) yn ddiweddar â chonsortiwm o ymarferwyr o’r diwydiannau creadigol i wneud hynny. Gan ddefnyddio technolegau sy'n datblygu, gweithiodd y tîm gyda'i gilydd i ddyfeisio pennod arloesol, newydd sbon ar gyfer y gyfres animeiddiedig boblogaidd Wallace & Gromit.
Yn rhan o’r prosiect, gweithiodd ymchwilwyr PDC gyda thîm o ddatblygwyr, gan gynnwys Tiny Rebel Games, Sugar Creative, Potato ac Aardman, i greu Wallace & Gromit: the Big Fix Up, prosiect arddangos realiti estynedig ar gyfer Audience of the Future, menter a ariennir gan UKRI i ailddyfeisio adrodd straeon digidol gan ddefnyddio technolegau sy'n datblygu.
Yn cynnwys cyfryngau amlfodd dynamig, a llu o enghreifftiau o realiti estynedig wedi ei gyfoethogi, yn null Wallace & Gromit, mae profiad symudol y Big Fix Up hefyd yn defnyddio sganio lleoliadau mewn 3D i osod byd rhithwir Wallace & Gromit yn eich milltir sgwâr eich hun.
I gyflawni'r lefel hon o uchelgais, roedd cyllid sylweddol ynghlwm wrth y fenter ymchwil a datblygu arloesol hon, gyda'r bwriad o greu partneriaethau cyffrous newydd a datblygu technoleg ar gyfer Diwydiannau Creadigol yn y DU.
Mae gwefan Cynulleidfa'r Dyfodol PDC yn benllanw'r daith gydweithredol honno, ac mae’n dogfennu'r prosesau a'r arferion a ddefnyddiwyd y tu ôl i'r llenni wrth ddatblygu'r prosiect cymhleth a blaengar hwn. Mae'n cynnwys cyfweliadau gyda'r datblygwyr creadigol, pobl fu’n profi’r cynnyrch a myfyrwyr oedd ynghlwm wrth y prosiect.
Wedi'i chyflwyno ar ffurf cyfres o heriau drwy linell amser y datblygiad, gyda chwis rhyngweithiol, mae'r wefan yn darparu adnodd gwerthfawr i unrhyw sefydliad sy'n gweithio gyda nifer o bartneriaid, yn cynhyrchu dosbarthiadau meistr i myfyrwyr a thechnolegau arloesol.
Dywedodd Corrado Morgana, Rheolwr Pwnc Academaidd Animeiddio a Gemau PDC: "Mae ein hymchwilwyr wedi cynnal profion defnyddwyr ac wedi gwerthuso cynnyrch, gan gynnal dosbarthiadau meistr gyda myfyrwyr i'n helpu i ddeall profiad defnyddwyr yn well ar gyfer technoleg realiti estynedig.
"Mae hwn wedi bod yn brosiect mawr, cyflym a chyffrous, ac ynghyd â'n cydweithwyr, rydym yn creu arferion addas at y dyfodol ar gyfer adrodd straeon aml-ddefnyddiwr sy'n cynnwys y gynulleidfa yng nghanol y cyfan."
Mae’r wefan wedi’i chynhyrchu gan Bronwin Patrickson, Cymrawd Ymchwil yn PDC, a'i hadeiladu gan Sugar Creative.