Diwrnod Rhyngwladol y Menywod: Gwyddonydd blaenllaw o PDC yn derbyn £50,000 o gyllid gan Wobrau Menywod mewn Arloesedd i ddatblygu prawf heintiad y llwybr wrinol
8 Mawrth, 2022
Dr Emma Hayhurst
Mae gwyddonydd ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) a helpodd i greu prawf cyflym ar gyfer Covid-19 wedi derbyn £50,000 o gyllid i ddatblygu'r un dechnoleg ymhellach i wella’r broses o wneud diagnosis o un o heintiau mwyaf cyffredin y byd.
Mae Dr Emma Hayhurst, Uwch Ddarlithydd mewn Bioleg Molecwlaidd yn Ysgol Gwyddorau Cymhwysol PDC, wedi derbyn y cyllid gan Wobrau Menywod mewn Arloesedd i helpu i ddatblygu prawf cyflym ymhellach fydd yn cyflymu'r broses ddiagnosis ar gyfer heintiau llwybr wrinol (HLlW).
Roedd Dr Hayhurst yn un o sylfaenwyr cwmni deillio PDC Llusern Scientific – ynghyd â’i chydweithwyr ymchwil yn PDC Dr Jeroen Nieuwland a Dr Ali Roula. Bu’n bosibl i’r tîm, oedd eisoes wedi bod yn ymchwilio i ddefnydd profion LAMP i ganfod HLlWau, gymhwyso’u hymchwil i'w defnyddio fel dyfais diagnosis Covid-19 cyflym o fewn wythnosau cyntaf y pandemig. Mae'n defnyddio swab trwynol syml i brofi claf am Covid, ac mae'n gallu gweithio heb fod angen prosesu labordy.
Bydd Dr Hayhurst yn defnyddio’r cyllid gan Wobrau Menywod mewn Arloesedd, i ganolbwyntio ar wella diagnosis o HLlWau.
"Heintiad y Llwybr Wrinol yw'r haint mwyaf cyffredin yn fyd-eang - mae dros 90% o ddioddefwyr yn fenywod - ac mae'r risg o ddioddef o HLlWau yn cynyddu gydag oedran," meddai Dr Hayhurst.
"Gall hyd yn oed HLlW nad yw’n un ‘cymhleth’ achosi poen ac anghysur difrifol, a gall HLlWau hefyd fod yn angheuol os nad ydynt yn cael diagnosis a’u trin yn iawn. Mae dros 5,000 o bobl yn marw o HLlWau bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr.
"Oherwydd nad oes gwaith wedi ei wneud i wella proses diagnosis HLlWau, rhoddir triniaethau'n aml ar sail diagnostig amwys neu anghywir, sy'n golygu bod llawer o'r miliynau di-ri’ o wrthfiotigau a ragnodir i drin HLlWau yn ddiangen neu'n amhriodol. Mae hyn yn cyfrannu at ledaeniad ymwrthedd i wrthfiotigau.
"Byddai prawf Llusern yn canfod yn gyflym pa facteria sy'n achosi HLlW. Mae'n gludadwy, yn fforddiadwy, yn rhoi canlyniad mewn 30 munud ac yn hawdd ei ddefnyddio – byddai angen llai nag awr o hyfforddiant ar ddefnyddwyr i allu cynnal prawf diagnostig, a fyddai'n rhoi canlyniad cadarnhaol neu negyddol syml."
Bydd cyllid Gwobrau Menywod mewn Arloesedd hefyd yn caniatáu i Dr Hayhurst weithredu ymhellach ar ei huchelgais i gynyddu cynrychiolaeth menywod o fewn y disgyblaethau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg), a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
"Rwyf wedi gweithio ar faterion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn STEM ers blynyddoedd lawer a byddwn wrth fy modd yn cael y cyfle i fod yn fodel rôl ar gyfer arloesi," meddai Dr Hayhurst.
"Rwy'n credu'n gryf po fwyaf o amrywiaeth sydd gennym yn ein gweithlu, y mwyaf o atebion arloesol y byddwn yn eu creu, a'r cyfle gorau fydd gennym i gyd i adeiladu dyfodol cynaliadwy.
"Bydd datblygu'r prawf LAMP ymhellach yn cryfhau diben craidd Llusern, sef mynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn gofal iechyd drwy oresgyn rhwystrau i ddiagnosteg gywir a rhoi cyfle i bawb gael diagnosis priodol ar adeg gofal."
Daw cyllid Dr Hayhurst gan Innovate UK, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, sydd wedi darparu 40 o Wobrau Menywod mewn Arloesedd i entrepreneuriaid benywaidd ledled y DU. Mae'r enillwyr wedi derbyn grant o £50,000 yr un a phecyn pwrpasol o fentora, hyfforddiant a chymorth busnes.