Gwobrau Effaith ac Arloesi PDC 2022
3 Mawrth, 2022
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn cynnal ei Gwobrau Effaith ac Arloesi blynyddol ym mis Mai, i ddathlu ymchwil sy'n cael effaith ar y gymuned a'r gymdeithas ehangach yng Nghymru, yn y DU, ac yn rhyngwladol.
Eleni, derbyniwyd 26 o geisiadau gan sbectrwm eang o ddisgyblaethau a gan ymchwilwyr ar wahanol gamau o'u gyrfaoedd.
Mae'r ceisiadau'n mynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf arwyddocaol sy'n wynebu cymdeithas heddiw, o ddatblygu polisïau llywodraethol ar drafnidiaeth allyriadau isel, i gefnogi twf adrodd straeon digidol, i helpu'r rhai sy'n ceisio lloches yng Nghymru, i wella cyfathrebu iechyd i gleifion ysbytai.
Categorïau’r gwobrau
Effaith ar Drosedd, Diogelwch a Chyfiawnder: mae'r wobr hon yn cydnabod ymchwil ac arloesedd sy’n arddangos effaith ar drosedd, diogelwch a chyfiawnder, er enghraifft o ran gwella plismona a diogelwch, troseddeg a systemau cyfiawnder, seiberddiogelwch a seiber-droseddu.
Effaith ar yr Amgylchedd: mae'r wobr hon yn cydnabod ymchwil ac arloesi sy’n arddangos effaith ar yr amgylchedd e.e. ar wella ansawdd aer, cyflenwad bwyd, dŵr, systemau ynni, cadwraeth, trafnidiaeth, newid yn yr hinsawdd, rheoli adnoddau'n gynaliadwy.
Effaith ar Iechyd a Lles: mae'r wobr hon yn cydnabod ymchwil ac arloesedd sy’n arddangos effaith ar unigolion a grwpiau y mae eu canlyniadau iechyd wedi gwella, ansawdd eu bywydau wedi gwella (neu niwed posibl wedi'i liniaru), neu y mae eu hawliau neu eu buddiannau wedi'u diogelu neu eu gwella drwy gymhwyso polisi neu arfer gwell ar gyfer unigolion neu ym maes iechyd y cyhoedd.
Effaith ar y Diwydiannau Creadigol: mae'r wobr hon yn cydnabod ymchwil ac arloesedd sydd wedi cael effaith amlwg ar y diwydiannau creadigol, ar ddiwylliant, treftadaeth a'r celfyddydau. Mae'n agored i geisiadau o ystod eang o weithgareddau gan gynnwys dylunio, animeiddio, ffotograffiaeth, llenyddiaeth, cynhyrchu, perfformio, newyddiaduraeth, neu ddigwyddiadau fel gwyliau ac arddangosfeydd.
Arloesi Busnes: mae'r wobr hon yn cydnabod defnydd masnachol eithriadol o ymchwil ac arbenigedd PDC gan fusnes neu fenter sy’n arddangos effaith economaidd, cymdeithasol, iechyd neu ddiwylliannol yn glir, e.e. datblygu cynnyrch neu wasanaeth technolegol newydd gan bartneriaid ymchwil cydweithredol, prosiect ymgynghori neu ymchwil contract rhagorol, creu cwmni deillio, neu drwyddedu eiddo deallusol PDC i ddiwydiant.
Arloesi a Menter gan Fyfyrwyr: mae'r wobr hon yn cydnabod arloesedd neu fenter ragorol gan fyfyriwr neu gyn fyfyriwr PDC a ddeilliodd o PDC.
Effaith ar Bolisi ac Ymarfer Cyhoeddus: mae'r wobr hon yn cydnabod effaith ymchwil sydd o fudd yn bennaf i waith sefydliadau llywodraethol neu sector cyhoeddus e.e. effaith ar lunio polisïau ac arferion cyhoeddus a allai fod ar lefel leol, ranbarthol, genedlaethol neu ryngwladol.
Effaith Ddinesig: mae'r wobr hon yn cydnabod effaith ar sefydliadau cymunedol ac unigolion, yn hyrwyddo mynediad at addysg, dinasyddiaeth weithredol a chydlyniant cymdeithasol, neu’n cynyddu democratiaeth ddiwylliannol a chynhwysiant. Mae'n cynnwys pob gweithgarwch sy'n ceisio darparu cyfleoedd ac yn ymgysylltu â chymunedau, grwpiau ac unigolion anodd eu cyrraedd neu ddifreintiedig.
Bydd yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer a'u partneriaid allanol yn cael eu gwahodd i seremoni’r Gwobrau Effaith ac Arloesi ar 4 Mai 2022 ar Gampws Caerdydd PDC. Bydd y digwyddiad yn cael ei gyflwyno gan yr Athro Paul Harrison, Dirprwy Is-Ganghellor Arloesedd ac Ymgysylltu, a bydd yn cynnwys derbyniad diodydd a seremoni wobrwyo ar ffurf yr Oscars.
Mae rhai o'r prosiectau ar y rhestr fer yn cynnwys:
Barrie Llewelyn: Caffi Chit Chat – Gweithdai creadigol i gyfoethogi caffael iaith ac integreiddio i bobl sy'n ceisio noddfa yng Nghymru
Mae ymchwil gan yr Uwch Ddarlithydd Barrie Llewelyn yn archwilio'r cysylltiadau rhwng ysgrifennu a lles. Yn ystod y degawd diwethaf, mae'r nifer cynyddol o ymfudwyr gorfodol sy'n cael eu hailgartrefu yng Nghymru, yn enwedig ond nid yn unig o Syria, wedi arwain at angen cynyddol am ddarpariaeth addysg Saesneg. Mae pobl yn sylweddoli mwyfwy nad yw addysg iaith ar ei phen ei hun yn gwbl ddigonol ar gyfer meithrin integreiddio a chydlyniant cymdeithasol. Mae sgyrsiau a gweithgareddau gyda siaradwyr brodorol hefyd yn hanfodol ar gyfer creu llwybrau at fod yn rhan gymdeithasol o gymuned newydd.
Dr James Rendell: Cynulleidfa'r Dyfodol – PDC, y Fictioneers a chi plastisin!
Dyfarnwyd grant arddangoswr UKRI Cynulleidfa'r Dyfodol i PDC, mewn cydweithrediad â Fictioneers, consortiwm sy'n cynnwys stiwdio datblygu cynnyrch digidol Potato, stiwdio Realiti Estynedig (RE) a Rhith Wirionedd (RhW) Sugar Creative a'r datblygwr gemau Tiny Rebel Games, i ddatblygu arferion adrodd straeon digidol ymhellach o fewn Diwydiannau Creadigol y DU. Mae’r grant hwn yn un sydd â chystadleuaeth gref amdano. O ganlyniad i gymorth gan ymchwil PDC i’w gwaith ymchwil a datblygu, mae Fictioneers wedi dod yn gonsortiwm a gydnabyddir yn fyd-eang ac sydd wedi ennill nifer o wobrau. Mae hyn wedi eu cefnogi'n economaidd ac wedi cefnogi twf y sector digidol yng Nghaerdydd, Bryste a Llundain.
Yr Athro Ruth Northway: Proffil Iechyd Unwaith i Gymru – Gwella Cyfathrebu Iechyd a Diogelwch i Bobl ag Anableddau Dysgu
Mae ymchwil gan yr Uned Ar Gyfer Datblygu Mewn Anableddau Deallusol A Datblygiadol wedi ffocysu ar ddatblygu offeryn i helpu i gyfathrebu â phobl ag anableddau dysgu mewn lleoliadau gofal iechyd. Mae amrywiaeth o offer o'r fath eisoes yn bodoli ond maent yn amrywio o ran cynnwys, fformat ac enw. Wedi'i chomisiynu gan Gwelliant Cymru (rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru), ceisiodd yr ymchwil hon ddatblygu dogfen unedig a fyddai'n lleihau amrywiadau o'r fath i hybu diogelwch cleifion.
Jon Maddy: Datblygu a gweithredu strategaethau cenedlaethol a rhyngwladol systemau hydrogen ar gyfer trafnidiaeth a diwydiant allyriadau isel
Mae ymchwil gan Ganolfan Hydrogen PDC yn ffocysu ar gymhwyso technolegau hydrogen i sicrhau datgarboneiddio dwfn mewn diwydiant, trafnidiaeth a'r sector ynni. Mae'r ymchwil wedi dylanwadu ar ddatblygu polisi Llywodraethau’r DU a Chymru ar hydrogen ac wedi cyflymu ymwneud diwydiant â datgarboneiddio, yn enwedig drwy ddatblygu technegau newydd i adfer hydrogen o’r broses creu dur, a ffurfio a datblygu Clwstwr Diwydiannol helaeth de Cymru (SWIC) gyda mwy na 40 o bartneriaid diwydiannol o sawl sector.