Hanesion Graddio: Ailfeddwl y diwydiant twristiaeth ym Malta
17 Mawrth, 2022
Bydd miloedd o'n graddedigion o 2020 a 2021 yn croesi'r llwyfan yn eu cap a'u gown o'r diwedd yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd yr wythnos hon. I nodi dychwelyd ein seremonïau graddio, rydyn ni’n rhannu straeon rhai o'n myfyrwyr ysbrydoledig.
Mae Julian Zarb, academydd sydd wedi'i leoli ym Malta, yn graddio gyda PhD drwy bortffolio yn dilyn gyrfa hir a nodedig yn niwydiant twristiaeth Malta.
Mae ei ymchwil yn edrych ar ddatblygu strategaeth a pholisi cynllunio twristiaeth lleol effeithiol, gan ddefnyddio model twristiaeth yn y gymuned ym Malta o'r enw Meet the Locals.
Nod y cysyniad cymunedol yw creu dewis amgen i dwristiaeth brif ffrwd, gan ganolbwyntio ar bobl a phrofiadau rhyng-ddiwylliannol, sy'n amrywio o gael blas ar fwydydd lleol i ddysgu am draddodiadau ardal; gan ddarparu cyfleoedd i ddarganfod diwylliant llai adnabyddus, nad yw tywyslyfrau'n sôn wrth ymwelwyr amdano.
Dywedodd Julian, a gwblhaodd ei PhD yn 2019 ac sydd o'r diwedd yn dathlu ei radd ar ôl y tarfu a achoswyd gan Covid-19: "Gall twristiaid gael blas ar awyrgylch heddychlon ac oesol pentrefi ym Mqabba, Kirkop, a Safi, gan ymlwybro ar hyd y strydoedd cul, troellog a'r piazzas agored.
Gallant ddysgu sut y gwneir y bwydydd lleol traddodiadol fel ricotta, darnau caws a mêl, a'u blasu yn ystod yr ymweliad, a thrafod hanes gastronomig arbennig yr ardal gyda'r bobl leol. Gallant hefyd ymweld â'r chwarel, y claddgelloedd, a dysgu am rôl bwysig y clwb i fandiau lleol. Mae'n ymwneud â chreu math gwahanol o dwristiaeth nad yw'n dibynnu’n unig ar haul, môr a thraethau."
Lansiwyd Meet the Locals ym mis Awst 2019, a chafodd ei gynnwys yng nghylchgrawn EasyJet ar ddechrau 2020 – yn union yr un pryd ag y tarodd y pandemig.
Er gwaethaf popeth sydd wedi digwydd ers iddo ddechrau astudio, mwynhaodd Julian ei gyfnod yn PDC yn fawr ac mae'n edrych ymlaen at gydweithio ymhellach â'i diwtoriaid - Dr Simon Thomas, Uwch Ddarlithydd, a'r Athro Jonathan Deacon, Athro Marchnata - yn Ysgol Fusnes De Cymru.
Ychwanegodd: "Roedd Simon a Jonathan yn fwy na thiwtoriaid yn unig i fi, rydyn ni wedi parhau’n ffrindiau agos, ac rwyf mor ddiolchgar am eu cefnogaeth drwy gydol y blynyddoedd diwethaf."
Mae Julian wedi bod yn ddarlithydd ac ymchwilydd ym Mhrifysgol Malta ers 12 mlynedd, ac ef yw Llywydd Cymdeithas Twristiaeth Malta. Cyn hynny bu'n gweithio fel newyddiadurwr twristiaeth a chynhyrchydd rhaglenni radio ar dwristiaeth yn y wlad.
Dewisodd astudio ei PhD yn PDC fel ffordd o gyfuno nifer o brosiectau ymchwil gwahanol yr oedd wedi ymgymryd â nhw yn ystod ei yrfa, yn bortffolio o waith i'w ddefnyddio fel model ar gyfer dechrau gwneud newidiadau o ran rheoli twristiaeth.
"Mae twristiaeth yn fwy na diwydiant yn unig; mae'n rhyngweithiad cymdeithasol-ddiwylliannol rhwng y gwesteiwr a'r ymwelydd. Mae'n ymwneud â dod â chymunedau, busnesau ac awdurdodau lleol at ei gilydd i edrych ar yr holl broses gynllunio – yn cynnwys y bobl leol a gofyn beth maen nhw wir ei eisiau, yn hytrach na gosod polisi o’r brig."
Mae Julian hefyd yn gweithio gyda'r eglwys ym Malta i greu profiadau wedi eu seilio ar ffydd, yn hytrach na thwristiaeth grefyddol, gyda'r nod o ddod â'r eglwys yn agosach at y gymuned leol.
"Nid yr hyn rydych chi’n ei weld yw’r hanfod, ond yn hytrach pwy rydych chi'n cwrdd â nhw a'r straeon rydych chi'n eu darganfod," dywedodd.
"Fy nghynllun hirdymor fyddai cyflwyno modelau twristiaeth cymunedol tebyg mewn gwledydd eraill, fel y DU. Rydyn ni wedi sefydlu cangen o'r Sefydliad Lletygarwch yn yr ardal Fediteranaidd yn ddiweddar, sy'n cynnwys Malta yn ogystal â Gwlad Groeg a Chyprus, gyda chynlluniau i ymestyn i Ogledd Affrica a De Ewrop.
"Y nod yw dod â phroffesiynoldeb a thwristiaeth at ei gilydd eto; trin lletygarwch a gwasanaeth fel diwydiant – a thrin twristiaeth fel gyrfa, yn hytrach nag fel swydd yn unig."