Hanesion Graddio: Damwain gwaith yn newid bywyd Darren, ond gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn profi bod unrhyw beth yn bosibl
16 Mawrth, 2022
Yr wythnos hon bydd Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd yn gweld miloedd o’n graddedigion o 2020 a 2021 o’r diwedd yn croesi’r llwyfan yn eu cap a’u gŵn. I nodi dychweliad ein seremonïau graddio, rydym yn rhannu storïau rhai o’n myfyrwyr ysbrydoledig.
Wnaeth Darren Archer erioed ddychmygu y byddai’n cwblhau gradd prifysgol yn ei 40au, ar ôl gadael yr ysgol yn 16 oed a mynd yn syth i brentisiaeth gwaith coed yn ei dref enedigol, Peterborough, ychydig ddyddiau wedyn.
Ond fe wnaeth damwain ddifrifol yn 2011 roi'r dyn 45 oed ar lwybr gwahanol, a'i gwelodd yn ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf – ynghyd â nifer o dystysgrifau rhagoriaeth – mewn Arolygu Meintiau a Rheolaeth Fasnachol o Brifysgol De Cymru (PDC), gradd a gwblhaodd yn 2020.
Yn ystod yr ychydig flynyddoedd ar ôl gadael yr ysgol, cwblhaodd Darren ei brentisiaeth cyn mynd yn ei flaen i weithio ar iotiau moethus, fel saer coed i ddechrau ac yna’n rhan o dimau dylunio ac yn oruchwyliwr, mewn rolau a oedd yn golygu teithio o amgylch Ewrop, gan gynnwys i Sbaen, a Gwlad Groeg.
Yn ei 20au cynnar, penderfynodd Darren ei bod yn bryd cael newid, gan weithio i ddechrau fel saer coed mewn ffatri. Daeth awydd arno i ddychwelyd i’r byd adeiladu, fodd bynnag, ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach dechreuodd fusnes adeiladu, yn darparu gwasanaethau i gwmnïau adeiladu a chynghorau lleol.
Roedd bod yn fedrus mewn cynifer o agweddau ar y diwydiant adeiladu yn amlwg yn ffordd wych i Darren sicrhau bod y cwmni adeiladu yn llwyddiant, ond dyma hefyd achosodd anafiadau a newidiodd ei fywyd.
"Cytunais i brynu llain o dir gan ddatblygwr roeddwn i’n gweithio iddo, ac es ati i adeiladu tŷ moethus," meddai Darren.
"Roeddwn i wedi meithrin nifer o sgiliau adeiladu yn ystod fy ngyrfa, ac roeddwn i’n gallu cyflawni'r rhan fwyaf o'r tasgau fy hun.
"Roeddwn i'n gweithio ar brosiect datblygu ym Mryn y Briallu yn Llundain ac roeddwn i'n cwblhau'r gwaith plastro terfynol o amgylch ffenestr cegin. Yn anffodus, gwnaeth y platfform roeddwn i'n gweithio arno ysgwyd, ges i fy nhaflu tuag at y ffenestr, a gwnaeth fy mraich chwith dorri gwydr y ffenestr. Wedyn fe gwympais i'r ddaear, tua phedair troedfedd, gyda fy mraich yn dal yn y gwydr.
"Fe dorrodd y ddamwain y rhydweli, y ligamentau, y tendonau, y nerfau - popeth o fewn blaen fy mraich chwith."
Ar ôl sioc gychwynnol y ddamwain, bu'n rhaid i Darren fynd drwy flynyddoedd o adferiad, gan gynnwys tair llawdriniaeth, a mewnosod dyfais symbylu llinyn y cefn i helpu i guddio'r boen gyson roedd e’n ei chael. Mae'r ddyfais hon yn defnyddio pwls trydanol i wneud i’w ymennydd feddwl nad oes niwed i’w law.
Yn ogystal â'r anafiadau corfforol, effeithiodd canlyniadau'r anaf yn eithaf difrifol hefyd ar yrfa Darren, gan olygu na allai bellach wneud y gwaith dydd i ddydd yr oedd wedi arfer ag ef. Ac, ar ôl penderfynu symud gyda'i deulu o Peterborough i Bont-y-pŵl yn 2015, roedd yn chwilio am gyfeiriad newydd.
Roedd yn gwneud gwaith ysgafn ar ei gartref newydd ac ychydig o waith gwirfoddol i helpu i wneud cysylltiadau, a phenderfynodd Darren wneud HNC yn yr Amgylchedd Adeiledig yng Ngholeg Gwent ym Mhont-y-pŵl i roi hwb i’w brofiad masnachol. Wedyn cafodd ychydig flynyddoedd o waith fel rheolwr contract gyda busnesau bach lleol, cyn cael swydd Rheoli Prosiectau gyda Chymdeithas Tai Sir Fynwy.
"Yno, roeddwn i’n rheoli nifer o wahanol brosiectau ac yn awyddus datblygu fy sgiliau ymhellach, felly, gan fod gen i’r HNC yn barod, penderfynais ei bod yn bryd datblygu fy ngyrfa drwy wneud gradd ran amser. Fe welais i’r cwrs yn PDC, a chofrestrais ar ei gyfer yn 2017," meddai.
"Roeddwn wedi cael cyngor y byddai cael gradd arolygu meintiau yn agor drysau i fi, ar ben y profiad oedd eisoes gen i yn y sector. Roedd fy agwedd at y cwrs yr un peth â fy agwedd at bopeth arall, rwy'n hoffi bod y gorau ym mhopeth rwy'n ei wneud fel gweithiwr proffesiynol.
"Graddiais gydag anrhydedd dosbarth cyntaf, y myfyriwr Arolygu Meintiau gorau, ges i glod ar gyfer y traethawd hir gorau, a Thystysgrif Rhagoriaeth ym mhob elfen. Roedd yn waith caled, ond yn bendant yn werth yr ymdrech."
Roedd yn gweithio i Gymdeithas Tai Sir Fynwy pan ddechreuodd Darren ei radd, ond symudodd i rôl newydd gyda Chartrefi Dinas Casnewydd yn 2019 i helpu i ddatblygu ei sgiliau ar brosiectau mwy, a chael cyfle i ddefnyddio ei gymwysterau a'i brofiadau i sicrhau ei fod yn gallu dod yn aelod o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig. Daeth yn aelod. Dilynwyd hyn gan ddod yn MCIOB, aelod o'r Sefydliad Adeiladu Siartredig. Daeth hefyd yn aelod o Sefydliad Siartredig y Cyflafareddwyr, ac yn aelod o’r Gymdeithas Rheolwyr Prosiect, ac enillodd gymwysterau Iechyd a Diogelwch ychwanegol.
Gyda'i radd a'i achrediadau proffesiynol wedi eu sicrhau, symudodd Darren yn ei flaen yr hydref diwethaf i rôl fel uwch reolwr prosiect gyda’r cwmni rheoli prosiectau a rhaglenni ymgynghorol, Faithful Gould, ac mae bellach yn gweithio i Rider Levett Bucknall yng Nghaerdydd.
Yn sgil y datblygiadau hyn, mae ei yrfa 'newydd' wedi symud yn ei blaen yn fawr, ac mae’n teimlo bod y gefnogaeth y mae wedi’i chael gan PDC yn gyfrifol am lawer iawn o’i lwyddiant.
"Pan oeddwn i'n iau doeddwn i ddim yn credu y gallwn i fynd i brifysgol, ac roeddwn i’n meddwl bod yn rhaid i chi fod yn ‘eithaf arbennig, yn eithaf clyfar' i fynd i brifysgol. Ond, gyda llawer iawn o gefnogaeth, bu modd i fi fynd i gyfeiriad newydd gyda fy ngyrfa, ac fe wnes fy ngorau glais i lwyddo ynddo, fel rwyf wastad wedi’i wneud. Mae’r hyn rwyf wedi gallu ei gyflawni yn dyst i hyn.
"Roedd ambell fyfyriwr aeddfed o gwmpas, sy’n dangos eich bod yn gallu mynd i'r brifysgol pan fyddwch chi'n hŷn, pan fyddwch chi'n dewis neu'n cael eich gorfodi i newid cyfeiriad. Mae wastad opsiwn gwahanol i weithio tuag ato - mae cymaint mwy o gyfleoedd ar gael, ac nid pawb sy’n mynd i’r brifysgol yn syth ar ôl gadael yr ysgol.
"Rwy'n credu bod gweithio'n galed yn hanfodol i gyflawni eich breuddwydion. Rwy'n gobeithio fy mod wedi profi i bobl, os ydyn nhw eisiau rhywbeth ddigon, y gallan nhw ei gael waeth pa rwystrau all fod ar y ffordd."