Myfyrwyr Meistr yn helpu busnesau bach i baratoi ar gyfer sefyllfaoedd argyfyngus
1 Mawrth, 2022
Mae myfyrwyr sy'n astudio ar gyfer MSc mewn Marchnata Digidol a Strategol ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi cael profiad uniongyrchol o sut mae busnes bach yn ymdopi yn wyneb argyfwng annisgwyl posibl.
Mae'r modiwl Rheolaeth Strategol dros Frandiau mewn Oes o Ansicrwydd, dan arweiniad Dr Louise Westgarth, wedi paratoi myfyrwyr ar gyfer sefyllfa argyfyngus drwy gyflwyno sefydliad astudiaethau achos allanol ac arbenigwyr cysylltiadau cyhoeddus i gefnogi eu dysgu’n ymarferol.
Dros y pedair wythnos diwethaf mae'r myfyrwyr wedi gweithio mewn partneriaeth ar Gampws Caerdydd PDC, gydag Andrew Hall, Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp Ayjay, ac uwch staff o’r Grŵp. Busnes peirianneg drydanol a rheweiddio arbenigol ym Medwas, ger Caerffili yw Grŵp Ayjay, a nod y cydweithio oedd helpu i ddatblygu cynllun cyfathrebu mewn argyfwng.
Gwelodd Grŵp Ayjay, sydd â’u canolfan ar lannau afon Rhymni, effeithiau’r llifogydd yn Chwefror 2020 pan achoswyd difrod sylweddol i fusnesau cyfagos. Ar y pryd, roedd mân darfu ar fusnes ac eiddo Ayjay, ond, o ystyried y posibilrwydd o lifogydd difrifol pellach, roedd yr angen i baratoi yn flaenoriaeth i’r rheolwyr.
Gweithiodd y myfyrwyr, gyda thîm rheoli Ayjay, drwy'r senario llifogydd posibl, gan nodi risgiau amrywiol, materion oedd yn peri pryder, ac anghenion gwahanol randdeiliaid o ran gwybodaeth amserol drwy gydol y broses rheoli argyfwng.
Cefnogwyd y myfyrwyr hefyd gan Neil Gibson, Partner Cyfathrebu a’r Cyfryngau yn PDC ac Ymarferydd Cysylltiadau Cyhoeddus gyda’r Sefydliad Cysylltiadau Cyhoeddus Siartredig (CIPR), a roddodd gyngor ar sut i reoli'r heriau amrywiol i’w henw da y gallai Ayjay eu hwynebu, a chynllunio cyfathrebu mewn argyfwng, gan gynnwys sut i ddelio â'r cyfryngau.
Wrth sôn am y profiad dysgu cydweithredol, dywedodd Andrew: "Er bod gennym ein gweithdrefnau a'n polisïau mewnol ein hunain ar waith, gan ein bod yn sefydliad bach heb unrhyw hyfforddiant ffurfiol mewn rheoli argyfwng, roedd yn ddefnyddiol cael ein herio'n feirniadol gan y myfyrwyr o ran pa mor barod yr ydyn ni mewn gwirionedd, nid yn unig am lifogydd posibl ond ar gyfer gwahanol fathau o argyfyngau, a’n helpu i ddatblygu ein prosesau ymhellach.
"Gan ein bod yn sefydliad lleol, mae hefyd yn bwysig i ni weithio gyda busnesau yn ein cymuned leol, gan helpu eraill lle gallwn ni – roedd hwn yn gyfle gwych i ni roi rhywbeth yn ôl".
Dywedodd Dr Westgarth: "Mae mor bwysig bod ein myfyrwyr yn cael profiad bywyd go iawn – wnewch chi ddim dysgu sut i drin eich emosiynau personol mewn sefyllfa argyfyngus o werslyfr.
"Mae dysgu am wahanol gyd-destunau busnes yn paratoi'r myfyrwyr ar gyfer realiti.
"Efallai nad oes gan sefydliadau fel Ayjay dîm cyfathrebu argyfwng corfforaethol mawr, ond gall gwybod a chymhwyso egwyddorion arfer gorau wneud gwahaniaeth i brosesau rheoli argyfwng ac enw da brand yn y tymor hir."
Mae'r MSc Marchnata Digidol a Strategol yn agored i fyfyrwyr llawn amser a rhan amser. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen y cwrs, neu gallwch gysylltu ag arweinydd y cwrs Dr Jackie Harris, i gael sgwrs anffurfiol, drwy [email protected] - gellir darparu'r modiwlau hefyd fel modiwlau DPP annibynnol. I gadw lle mewn diwrnod agored i gael gwybod mwy am y cwrs hwn a chyrsiau eraill ewch i https://www.southwales.ac.uk/open-days/