PDC a Heddlu Gwent yn llofnodi cytundeb Hydra

18 Mawrth, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/022H65A9132_Mission_Photographic.jpg

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) a Heddlu Gwent yn dod at ei gilydd ar gydweithrediad hyfforddi unigryw yng Nghanolfan Efelychiadau Hydra PDC.

Mae Canolfan Efelychiadau Hydra yn darparu amgylchedd dysgu ac addysgu unigryw.  Wedi'i ddatblygu gan yr Athro Jonathan Crego, Athro Gwadd yn PDC, mae Hydra yn offeryn hyfforddi sy'n efelychu sefyllfaoedd bywyd go iawn, ac sy'n caniatáu i ddysgwyr ddelio â senarios bywyd go iawn mewn amgylchedd dysgu diogel.

Bydd y cytundeb yn golygu bod Heddlu Gwent yn defnyddio'r ganolfan ar gyfer eu hymarferion hyfforddi eu hunain, am ddwy flynedd, tra byddant yn datblygu eu cyfleusterau Hydra eu hunain. Mewn arddull gydweithredol sy'n cyd-fynd ag ethos Sefydliad Hydra, bydd yr holl ddeunyddiau hyfforddi yn cael eu rhannu rhwng y sefydliadau a'r senarios yn cael eu defnyddio o fewn y cwricwlwm plismona israddedig.

Dywedodd Dean Whitcombe, Rheolwr Hydra: "Mae'r berthynas hon gyda Heddlu Gwent yn unigryw ac yn bwysig gan nad oes trefniant gweithio arall tebyg iddo yn y DU. Mae gennym bellach dempled i weithio gyda phartneriaid eraill i gydweithio a gwella arferion. Mae Hydra yn chwalu'r rhwystrau rhwng diwydiannau."

Dywedodd Gareth Jenkins, Arweinydd Hyfforddiant Troseddau Heddlu Gwent: "Mae Heddlu Gwent yn falch iawn o barhau â'n perthynas waith agos â PDC. Mae'r cytundeb newydd yn darparu mynediad i dechnoleg fodern yn ogystal â'r wybodaeth a'r sgiliau o fewn y Brifysgol. Bydd hyn yn galluogi Heddlu Gwent i gynnig yr hyfforddiant gorau sydd ar gael i'n swyddogion."

Dywedodd yr Athro Jonathan Crego, Cyfarwyddwr Sefydliad Hydra: "Ers dros 30 mlynedd,  mae methodolegau Hydra wedi'u darparu i Wasanaethau Brys y DU am ddim.  Cenhadaeth Sefydliad Hydra yw achub bywydau.  Mae ymarferwyr arbenigol ac asiantaethau partner  wedi gallu rhannu ymarferion ac  ymchwil weithredol. Rwy'n falch iawn bod PDC wedi gallu cynorthwyo Heddlu Gwent ac wrth wneud hynny, gyfrannu ymhellach at y gymuned unigryw hon o syniadau. "