PDC yn dyblu ei Hysgoloriaethau Noddfa i fyfyrwyr sy'n ffoaduriaid

11 Mawrth, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Refugee_students.jpg

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn ehangu ei Hysgoloriaeth i ffoaduriaid a phobl sy'n chwilio am noddfa yng Nghymru.

O 2023, bydd PDC yn cynnig dwy ysgoloriaeth israddedig a dwy ysgoloriaeth ôl-radd, yn ogystal â darparu cymorth pellach i ffoaduriaid sydd am astudio ar lefel Addysg Uwch ond nad ydyn nhw’n siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf.

Fel Prifysgol Noddfa – un o ddim ond dwy yng Nghymru sydd â'r statws hwn – mae PDC yn dyblu ei darpariaeth ysgoloriaeth yn unol â'i Chynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer cynyddu amrywiaeth a hyrwyddo cynhwysiant.

Mae gan y Brifysgol arbenigedd cynyddol ym maes cymorth i fudwyr dan orfod, gyda phenodi Dr Mike Chick yn Bencampwr Ffoaduriaid PDC yn 2019, ac yna ennill statws Prifysgol Noddfa yn 2020.

Y llynedd, cafodd arddangosfa o brosiect llwyddiannus Siarad â Fi, a grëwyd ac a oruchwyliwyd gan Barrie Llewelyn, ei harddangos yn Oriel y Bont PDC.  Mae prosiect dilynol, Siarad â Fi Hefyd, yn dechrau'r mis hwn. Mae’r gwaith hwn yn dangos gwerth dod â phobl at ei gilydd i feithrin ymdeimlad o gynhwysiant a pherthyn. 

Hefyd yn 2021, cyhoeddodd Dr Mike Chick a Dr Catherine Camps adroddiad ar gyfer Advance HE ar y rôl bwysig y dylai prifysgolion ei chwarae wrth gynnwys mudwyr dan orfod.

Eleni, bydd Mike yn gweithio gyda'r Sefydliad Dysgu a Gwaith i adolygu Polisi Addysg Iaith Llywodraeth Cymru ar gyfer mudwyr yng Nghymru.

Dywedodd: "Rydyn ni wrth ein bodd y bydd PDC yn cefnogi hyd yn oed mwy o fyfyrwyr gyda'r cynllun Ysgoloriaeth Noddfa. Rydym wedi cynnig yr ysgoloriaethau hyn am y pedair blynedd diwethaf, ac wedi gweld yn uniongyrchol bod camau o'r fath yn newid bywydau'r rhai sy'n ceisio noddfa yn ein cymuned.

"Mae'r cyhoeddiad hwn yn ganlyniad i waith gwych nifer o adrannau yn PDC, fel y Gwasanaethau Myfyrwyr, Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr, a'r grŵp llywio Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

"Mae llwyddiant y cynllun hefyd yn deillio o egni, proffesiynoldeb ac angerdd llu o gydweithwyr o bob rhan o’r Brifysgol, gan gynnwys Ymholiadau a Derbyn, PDC Ryngwladol a'r Ganolfan Saesneg Rhyngwladol."