Wythnos Iaith Arwyddion: archwilio effaith deddfwriaeth ar addysg i bobl fyddar
14 Mawrth, 2022
Mae ymchwil ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yn archwilio effaith deddfwriaeth Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar addysg i bobl fyddar yng Nghymru a'r Alban.
Yn ddiweddar, mae Dr Rob Wilks, uwch ddarlithydd yn y Gyfraith, Cydraddoldeb a Chydnabod Iaith Arwyddion yn PDC, wedi cyhoeddi’r astudiaeth effaith annibynnol gyntaf o Ddeddf BSL (yr Alban), ar y cyd â Rachel O’Neill, uwch ddarlithydd mewn Addysg i bobl Fyddar ym Mhrifysgol Caeredin.
Nawr, diolch i gyllid ymchwil gyrfa gynnar gan Gyfadran y Diwydiannau Creadigol PDC, mae Dr Wilks yn ehangu’r astudiaeth i gynnwys cymariaethau â’r ymagwedd Gymreig.
Mae’r astudiaeth yn fan trafod i rieni, athrawon, sefydliadau a phobl ifanc byddar eu hunain ynglŷn â pha newidiadau y mae’r Ddeddf wedi’u gwneud hyd yma mewn perthynas â’u haddysg.
Gwnaeth yr adroddiad cychwynnol 24 o argymhellion ar gyfer rhanddeiliaid allweddol sy’n ymwneud â gweithredu’r Ddeddf, gan gynnwys dadl gyhoeddus ar gaffael iaith ac agweddau deuaidd, ymgysylltu â theuluoedd plant byddar a phobl ifanc byddar, tryloywder mewn perthynas ag ariannu sefydliadau trydydd sector, cynnydd yn argaeledd cyrsiau BSL a gwelliant o ran darparu cynnwys BSL ar wefannau.
Nododd Dr Wilks a Ms O’Neill nifer o themâu y mae angen eu harchwilio ymhellach:
- Cysyniadoli BSL fel iaith
- Y graddau y mae agweddau tuag at blant byddar fel ‘disgyblion BSL’, ‘plant byddar eraill’ a/neu anabl yn parhau;
- Ffactorau mewnol ac allanol yn y modd y lluniwyd y cynlluniau BSL cyntaf; a
- Rôl y trydydd sector wrth weithredu'r Ddeddf BSL a sut y cânt eu hariannu
Dywedodd Dr Wilks: “Nod y prosiect ymchwil hwn yw archwilio’r themâu hyn yn fanylach er mwyn darparu mwy o gyd-destun a dealltwriaeth o’r materion sy’n effeithio ar weithredu cynllun BSL cenedlaethol cyntaf y Ddeddf mewn perthynas ag addysg i bobl fyddar.
“Yn y broses, bydd cymariaethau o ddull yr Alban yn cael eu cynnal â Chymru. O ddiddordeb yw’r cyferbyniad rhwng y ddwy wlad ac yn arbennig rôl y systemau addysg priodol wrth gefnogi BSL. Yn yr Alban, yr ymdrech fu archwilio sut y gellir annog plant sy'n clywed i ddysgu BSL (yn hytrach na phlant byddar yn dysgu BSL). Mewn cyferbyniad, heb Ddeddf BSL yng Nghymru, canolbwyntiwyd ar gynnwys BSL yn y cwricwlwm cenedlaethol sy'n cynnwys plant byddar.
“Y prif fantais fydd i blant byddar yn systemau addysg Cymru a’r Alban, eu teuluoedd, addysgwyr, llunwyr polisi a chymuned BSL byddar ehangach y DU, gan sicrhau bod dyfodol addysg i bobl fyddar yn cael ei lywio gan ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth.”