Ymchwil yn nodi'r bwlch rhwng disgwyliadau pobl a'u profiad o wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru

3 Mawrth, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/social_care_TZrVhXj.jpg

Dylai'r bobl hynny yng Nghymru sy'n dibynnu ar wasanaethau cymdeithasol allu disgwyl cymorth pryd a ble mae ei angen, a pheidio â gorfod brwydro i gael eu clywed.

Dyna un o ganfyddiadau allweddol gwerthusiad cenedlaethol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a wnaed gan ymchwilwyr yn Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC), sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), mewn partneriaeth â'r Athro Fiona Verity a chydweithwyr iddi o Brifysgol Abertawe, ac eraill o Brifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Bangor.

Cynhaliwyd y gwerthusiad yn ystod pandemig COVID-19, rhwng mis Mai a mis Medi 2021, gan ddefnyddio cyfweliadau wyneb yn wyneb, Grŵp Facebook, a holiaduron a anfonwyd at sefydliadau a rhwydweithiau ledled Cymru, y gofynnwyd iddynt eu rhannu â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr. Bu bron 200 o bobl yn rhan o’r gwerthusiad.

Mae'r adroddiad yn nodi’r hyn a ddysgwyd o atebion i gwestiynau a ofynnwyd i bobl sy'n byw yng Nghymru ac sy'n derbyn gofal a chymorth, ac mae’n rhan o werthusiad ehangach o'r Ddeddf, sef astudiaeth IMPACT.

Er bod rhai o ganfyddiadau'r arolwg yn gadarnhaol – dywedodd nifer o ymatebwyr eu bod yn teimlo bod gweithwyr proffesiynol yn sylwi mwy arnynt ers y Ddeddf, a bod ganddynt well perthynas â'u gweithiwr cymdeithasol – canfu'r arolwg nifer o faterion y mae angen mynd i'r afael â nhw.

Roedd rhai ymatebion yn tynnu sylw at y ffaith bod rhai unigolion yn teimlo nad oedd gwasanaethau’n gwrando arnyn nhw, a bod yn rhaid iddynt frwydro ac ymladd am gymorth, a’u bod yn cael eu hanwybyddu oni bai eu bod yn wynebu argyfwng.

Tynnodd yr arolwg sylw hefyd at bryderon unigolion ynghylch peidio â chael eu cynnwys mewn trafodaethau a phenderfyniadau ynghylch y gefnogaeth roedden nhw’n ei derbyn, eu bod yn ansicr ynghylch eu hawliau o dan y Ddeddf, ac anawsterau wrth gael cymorth yn y Gymraeg.

Ar y cyfan, teimlai pobl nad oedd eu profiadau o dan y Ddeddf wedi bodloni eu disgwyliadau o a’u gobeithion.

Dywedodd yr Athro Mark Llewellyn, Cyfarwyddwr WIHSC ac arweinydd yr astudiaeth, fod y gwerthusiad wedi codi materion pwysig yn ymwneud â'r Ddeddf ac y byddai'n gweithredu fel ffon fesur i Lywodraeth Cymru a gweithwyr cymdeithasol proffesiynol fesur gwelliannau yn ei  herbyn.

"Mae'r astudiaeth wedi tynnu sylw at fwlch sy'n bodoli rhwng disgwyliadau pobl o ran gwasanaethau cymdeithasol a chefnogaeth gyda’u llesiant, a sut mae’u profiadau heb wireddu’r disgwyliadau hynny’n llawn," meddai'r Athro Llewellyn.

"Wedi dweud hynny, mae'r ffaith bod yna heriau o ran cyflawni gofynion y Ddeddf yn cynnig cyfle enfawr i wneud gwelliannau i'r ddarpariaeth.

"Mae'r astudiaeth IMPACT bellach bron â’i chwblhau, gyda rhyw chwe mis o ddadansoddi ar ôl cyn i'r prosiect ddod i ben.  Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym yn mynd i dynnu sylw at y ffordd y gellid defnyddio'r canfyddiadau i sicrhau bod yr holl randdeiliaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn canolbwyntio ar wella'r ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol i bobl, er mwyn sicrhau bod cyn lleied â phosibl o broblemau yn y dyfodol.

"Rydym yn gobeithio y gallwn gydweithio i ddod o hyd i ffyrdd rhagweithiol o bontio'r bwlch rhwng yr hyn roedd pobl yn ei ddisgwyl o’r Ddeddf a phrofiad byw'r rheiny sy'n teimlo nad yw'r disgwyliadau hynny wedi'u gwireddu." 

I weld yr adroddiad llawn, crynodeb ohono neu fersiwn Hawdd ei Ddarllen, ewch i: https://llyw.cymru/gwerthusiad-o-ddeddf-gwasanaethau-cymdeithasol-llesiant-cymru-2014-disgwyliadau-phrofiadau