Bwrdd iechyd yn anrhydeddu nyrs PDC am ei gofal eithriadol

29 Medi, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Laurie_Wood.jpg

Mae myfyrwraig nyrsio o Brifysgol De Cymru, Laurie Wood, wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth mewn Cydraddoldeb a Chynhwysiant gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Yn ei hail flwyddyn ym maes nyrsio Anabledd Dysgu, enwebwyd Laurie gan Kara Knowles, Nyrs Gyswllt Acíwt, Anableddau Dysgu, yn Ysbyty Treforys.

Mae'r wobr yn dathlu unigolyn neu dîm y mae eu gwaith wedi bod yn rhagorol o ran hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac wedi cyfrannu at greu amgylchedd mwy cynhwysol.

Enwebwyd Laurie gan Kara am ei gofal eithriadol dros glaf ag anableddau dysgu oedd angen sgan MRI. Roedd pum ymdrech eisoes wedi eu gwneud i gynnal y profion sganio, bob un yn aflwyddiannus.

"Roedd Laurie yn benderfynol bod y tro hwn yn mynd i fod yn wahanol. Fe wnaeth hi sicrhau ei bod yn llwyr ddeall a chefnogi'r cynllunio manwl oedd angen ei wneud. Fe gwrddodd â'r claf awr cyn i'w shifft ddechrau, a bu wrthi drwy’r dydd yn cynorthwyo’r tîm i sicrhau bod y cynlluniau’n mynd rhagddynt yn llwyddiannus", dywedodd.

Bu Laurie hefyd yn gymorth mawr i ofalwr y claf. Dywedodd Kara: "Gwnaeth (y gofalwr) nodi mor ymroddedig a thosturiol yr oedd Laurie.   Dywedodd hefyd fod ofn arni ar y diwrnod ei hyn, ond bod cefnogaeth pawb wedi arwain at ddiwrnod oedd yn llai brawychus nag arfer o dan yr amgylchiadau."

Cafodd gwobrau 'Byw Ein Gwerthoedd' eu cynnal yn Arena Abertawe, yn nigwyddiad wyneb yn wyneb cyntaf y bwrdd iechyd ers y pandemig.