Kathryn yn cyrraedd rownd derfynol gwobr genedlaethol, ac am fod yn fodel rôl i fenywod yn y sector eiddo

28 Medi, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/WIP2.jpg

Natasha Matthews, Kalliopi Theodosouli, Abigail Barnes, a Kathryn Stuckey

Mae Kathryn Stuckey yn gobeithio y bydd ei henwebiad yng Ngwobrau Myfyrwyr Cenedlaethol Cymdeithas Menywod mewn Eiddo (WiP) 2022 yn helpu i ysbrydoli mwy o fenywod i fynd i'r sector.

Ar fin dechrau ei blwyddyn olaf ond un fel myfyrwraig israddedig ran amser ar radd Rheoli Prosiectau Adeiladu Prifysgol De Cymru (PDC), mae Kathryn, sy’n 26 oed, yn dod yn wreiddiol o Abertawe, ac sydd bellach yn byw yn agos at Gampws Trefforest y Brifysgol, am i'w hymdrechion fod yn ysbrydoliaeth i fenywod eraill.

Yr wythnos diwethaf, roedd Kathryn yn un o'r 14 o bob cwr o’r DU a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau Cenedlaethol Myfyrwyr 2022 ar ôl ennill rownd ranbarthol De Cymru y gystadleuaeth yn gynharach eleni. Roedd hi'n un o bedwar myfyriwr o Gyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth PDC oedd yn y rownd derfynol ranbarthol. Y lleill oedd Natasha Matthews, sy'n astudio Arolygu Meintiol a Rheoli Masnachol; Kalliopi Theodosouli, sydd ar y cwrs BSc Peirianneg Sifil; ac Abigail Barnes, sy'n fyfyriwr israddedig BEng Peirianneg Sifil.

Roedd llwybr Kathryn i rowndiau terfynol y gystadleuaeth yn droellog a dweud y lleiaf.

Ar ôl dechrau cwrs gradd peirianneg sifil gyda Rhwydwaith 75 PDC - sy'n cynnig llwybr cyfunol lleoliad gwaith ac astudio rhan amser at radd – sylweddolodd nad dyna oedd yr yrfa iddi hi.

Aeth i wneud gwaith swyddfa wedyn, a dechrau ystyried astudio rheoli adeiladu yn rhan amser. Ond yn y cyfamser, daeth rôl yn rhydd yn y sector adeiladu, fel rheolwr safle yn Abertawe.   

"Fe wnes i gais am honno, ond fe ddywedon nhw wrtha i fod gyda nhw rywbeth mwy addas i fi, ac fe ges i gynnig swydd fel Prentis Rheoli Safle gan eu cyfarwyddwr," dywedodd.

"Roeddwn i wrth fy modd yn y swydd honno. Roeddwn i'n teimlo'n gartrefol, oherwydd roedd yn  hynod brysur, ac rwy’n ffynnu yn y math hwnnw o amgylchedd. Roedd hynny tua naw mis cyn i Covid daro, ac yn anffodus fe gollais fy swydd oherwydd y pandemig."

Heb ei threchu, penderfynodd Kathryn ddychwelyd i astudio a chafodd ei derbyn ar radd Rheoli Prosiectau Adeiladu Prifysgol De Cymru yn 2020. Roedd hyn ar sail llawn amser i ddechrau, ond yna cafodd gynnig ei swydd bresennol gyda Burroughs yng Nghaerdydd, sy'n ymgynghoriaeth peirianneg a rheoli prosiectau annibynnol.

Er bod gwneud swydd lawn amser, ac astudio’n rhan amser ar gyfer ei gradd, yn heriol, mae Kathryn yn ffynnu.

"Rwyf ar fy ngorau pan fo llawer o bethau'n digwydd, yn enwedig achos bod gen i ADHD. Mae fy ymennydd yn dweud 'Gwych, mae hyn yn dda. Galla i wneud hyn yn dda,” dywed.

"Rwyf wedi gweithio ar ochr adeiladu'r sector, ond mae hyn yn gweddu’n well o lawer i fi. Rwy'n hoffi trefnu cyfarfodydd gyda chleientiaid, caffael, ac ati, dyna lle rwyf yn fy elfen.

"Pan gefais fy ngwneud yn ddi-waith oherwydd Covid, fe dorrais fy nghalon, ond roedd er y gorau yn y pendraw."

A nawr, yn dilyn ei llwyddiant yn cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Myfyrwyr Cenedlaethol WiP 2022, mae Kathryn yn gobeithio y bydd eraill yn dilyn ei hesiampl.

"Mae'n golygu tipyn i fi fy mod i wedi cyrraedd y rownd derfynol, yn enwedig gan fy mod i'n eiriolwr mor enfawr dros baratoi'r ffordd ar gyfer y genhedlaeth nesaf o fenywod i'r diwydiant," meddai.

"Ges i erioed y math yma o gyfle pan oeddwn i’n fenyw iau - yn fy arddegau doedd dim drysau o gwbl ar agor i fi i’r diwydiant adeiladu.

"Er fy mod i wedi gwneud peirianneg yn yr ysgol a'r coleg, ac yna wedi mynd yn fy mlaen i Rwydwaith 75, doedd e erioed yn teimlo fel opsiwn i fi i fynd i'r math yma o waith – ges i gynnig ymuno â’r fyddin hyd yn oed, cyn i fi gael cynnig i ymuno â’r diwydiant adeiladu.

"Felly mae'n wych gallu bod yn fodel rôl i'r genhedlaeth ifancach, eu hannog nhw a dangos nad ar gyfer dynion yn unig mae’r diwydiant adeiladu, a bod gan fenywod rôl i'w chwarae ynddo."

Dywedodd Karen Le Feuvre, Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Adeiladu: "Roedd y digwyddiad yn un llawn menywod ysbrydoledig. Roedd pob un o'r enwebeion rhanbarthol yn eithriadol, ac fe soniodd y beirniaid mor hapus oedden nhw â’r safon.

"Efallai fod Kathryn yn siomedig nad enillodd hi, ond rydyn ni’n hynod falch ei bod hi wedi cyrraedd y rownd derfynol genedlaethol gyda chyd-fyfyrwyr mor eithriadol. "

Mae Gwobrau Cenedlaethol Myfyrwyr Menywod mewn Eiddo yn rhoi cyfle i fyfyrwyr hyrwyddo eu galluoedd o fewn y diwydiant a chynyddu eu rhwydweithiau, gan greu cysylltiadau hirdymor â chyflogwyr posibl yn y dyfodol. Mae myfyrwyr yn cael cyfle i arddangos eu gwaith cwrs, herio ac ehangu eu gwybodaeth am y diwydiant, a datblygu eu sgiliau rhyngbersonol.