Myfyriwr peirianneg awyrennau’n cynllunio gyrfa gydag elusen ddyngarol
16 Medi, 2022
Matthew Veale
Mae myfyriwr israddedig o Brifysgol De Cymru (PDC) yn un o'r myfyrwyr cyntaf i gael ei dderbyn ar gynllun hyfforddi peirianwyr gan wasanaeth dyngarol.
Mae Matthew Veale, 26 oed, o Swindon, Wiltshire, ar fin dechrau ar ail flwyddyn ei radd Peirianneg a Systemau Cynnal a Chadw Awyrennau yn PDC, cwrs sy'n agos iawn at ei galon ac sy'n gam cyntaf i yrfa anarferol o ddewr, a allai ei arwain at wledydd lle mae rhyfeloedd, megis Chad, Indonesia, neu Dde Swdan.
Mae Matthew yn un o'r myfyrwyr cyntaf i gael ei dderbyn ar Gynllun Hyfforddi Peirianwyr newydd dan nawdd y Mission Aviation Fellowship (MAF). Wedi'i ariannu'n rhannol gan roddion a wnaed er cof am gyd-sylfaenydd yr elusen – cyn Swyddog Peirianneg gyda’r Awyrlu Brenhinol, Stuart King – mae Matthew yn gwireddu breuddwyd oes i fyw a gweithio yn rhai o'r 26 gwledydd incwm isel lle mae’r MAF yn weithredol.
Lansiodd Stuart yr MAF yng Nghanolbarth Affrica mewn ymgais i ddod â heddwch yn sgil yr Ail Ryfel Byd gan ddefnyddio awyren Miles Gemini bren. Glaniodd Stuart, fu’n rhan o laniadau D-day, ym mynyddoedd Burundi yn 1948 – ac fe oroesodd, a helpu i dyfu’r MAF tan ei farwolaeth yn 2020.
Heddiw, yr MAF yw gwasanaeth awyr dyngarol mwyaf y byd – yn cyflogi 1,249 ac yn gweithredu fflyd o 120 o awyrennau. Mae Matthew yn brawf bod dymuniad Stuart i hyfforddi peirianwyr ifanc ar gyfer yr MAF yn dal i gael ei wireddu.
Wedi ei swyno fel plentyn gan stori Stuart ac o ddarllen Through the Gates of Splendor – llyfr poblogaidd am hanes y peilot Nate Saint a ferthyrwyd ym 1956 wrth geisio cysylltu â llwyth Huaorani dwyrain Ecwador gan ddefnyddio awyren Piper PA-14 – datblygodd Matthew freuddwyd oes i helpu cymunedau ynysig drwy ddefnyddio awyrennau.
Wedi iddo glywed am yr MAF yn yr ysgol gynradd, penderfynodd Matthew y byddai, ryw ddiwrnod, yn rhan o'r gwasanaeth awyr dyngarol sy'n hedfan cymorth, meddyginiaethau, a gweithwyr cymorth i fwy o gyrchfannau nag unrhyw gwmni hedfan arall. Gwelodd Matthew dlodi’n uniongyrchol ar daith ysgol dair wythnos i gartref plant amddifad yn India yn 2013, gan ddyfnhau awydd Matthew i helpu rhai llai ffodus nag ef ei hun.
"Rwy'n cofio clywed sgwrs gan un o beilotiaid dan hyfforddiant yr MAF mewn gwasanaeth ysgol. Roedd honno’n foment dyngedfennol i fi, ac roeddwn i wrth fy modd o ddarganfod sefydliad oedd yn cyfuno fy nghariad at hedfan a fy ffydd Gristnogol," dywedodd.
"Roedd yn ddiwrnod pwysig iawn - ac mae wedi siapio gweddill fy mywyd. Roedd gweld tlodi yn India yn rhoi hyd yn oed mwy o dân yn y bol, a des i'n angerddol dros weithio dramor a defnyddio fy sgiliau i helpu rhai dan anfantais."
Ymunodd Matthew â Chadetiaid Awyr yr Awyrlu brenhinol gyda Sgwadron 878 Highworth yn ei arddegau, a pharhaodd i ddatblygu ei sgiliau hedfan ochr yn ochr â'i addysg. Roedd wrth ei fodd – ac mae’n ystyried ei lwyddiant i gwblhau trec 100 milltir mewn pedwar diwrnod ymhlith ei gyflawniadau personol mwyaf.
"Roedd bod yn rhan o’r Cadetiaid Awyr yn brofiad gwych - dysgais sgiliau allweddol fel adeiladu tîm, disgyblaeth, ac arwain," meddai.
"Fe wnes i wir fy ngwthio fy hun, ac roedd y daith 100 milltir i'r Iseldiroedd yn 2014 yn uchafbwynt go iawn, yn ogystal â'r hedfan. Byddwn i'n ei argymell i unrhyw un."
Wedi ennill trwydded gleidiwr gyda'r Llynges Frenhinol yn 19 oed, gwnaeth Matthew gais i ymuno â'r Awyrlu Brenhinol yn 2017 – cam amlwg i baratoi ar gyfer gyrfa yn y pen draw gyda’r MAF. Ond roedd ei gais i’r Awyrlu Brenhinol yn aflwyddiannus – ac felly hefyd ei asesiad cychwynnol fel peilot ar gyfer yr MAF - a bu’n rhaid i Matthew ailasesu ei gynlluniau o ran gyrfa.
"Roedd cael fy ngwrthod fel peilot yn ergyd drom ac roedd yn adeg anodd. Ond wrth edrych yn ôl, ro’n i’n benderfynol wastad o ymwneud â’r MAF – rwy'n credu bod y cyfan yn deillio o fy ffydd, ac rwy'n credu bod Duw yn rhan o fy nhaith," meddai.
Yn 2017, ymunodd Matthew â Chorff Anllywodraethol newydd a bach oedd yn dysgu Saesneg i blant yn Tsieina, a bu'n gweithio yn Tsieina a'r DU am ddwy flynedd – gan ennill cymhwyster Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor [TEGAL] a theithio lawer gwaith.
"Roedd teithio ar hyd a lled Tsieina yn antur go iawn, ac yn bendant yn well na bod gartref yn paratoi brechdanau! Ond wnes i erioed roi'r gorau i ddilyn gwaith MAF ac o weld hysbyseb am eu Cynllun Hyfforddi Peirianwyr newydd ar-lein dyma aildanio fy awydd i fod yn rhan o'r sefydliad oedd wedi golygu cymaint i fi erioed," meddai.
Mae Matthew yn bwriadu dechrau ei yrfa MAF ymarferol yn Uganda yn 2027, mewn canolfan gynnal a chadw mawr sy’n eiddo i’r MAF - ac mae'n gobeithio symud oddi yno i raglen sydd ar waith yn rhanbarth Asia’r Môr Tawel:
"O'r diwedd rwy’n cael bod yn rhan o’r MAF ac rwyf wrth fy modd. Mae'r tîm wedi bod mor groesawgar, ac rydw i wedi cwrdd â llawer o staff y DU wyneb yn wyneb ac ar-lein," meddai.
"Rwy’n gobeithio byw a gweithio yn Asia ryw ddiwrnod achos rwy’n caru'r diwylliant - maen nhw mor groesawgar - ac mae’r MAF yn hedfan yn Kalimantan, Papua New Guinea, a Timor-Leste, a mannau eraill.
"Ond am y tro, rwy'n mynd i ganolbwyntio ar fy astudiaethau, cwblhau fy ngradd, fy ESAS a'r cymwysterau ymarferol i gyd.
"Mae'r flwyddyn gyntaf wedi bod yn ddwys, ond yn gwbl werth chweil, o wybod fy mod yn agosáu at wireddu fy mreuddwyd. Mae'n sefydliad anhygoel, ac rwy’n teimlo’n hynod falch bod yn rhan ohono.
"Er y rhwystrau, y drysau’n cau, y siom, rwy'n falch na wnes i roi’r ffidil yn y to - ac rwy'n gobeithio y bydd eraill yn fy nilyn ac yn ystyried mynd ar antur gyda’r MAF."