Awdurdod seiberddiogelwch yn cymeradwyo Gradd Meistr PDC mewn Fforenseg Gyfrifiadurol
10 Mehefin, 2022
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2022/06-june/cyber.original.jpg)
Mae un o gyrsiau seiber Prifysgol De Cymru (PDC) wedi cael ei hail-achredu gan un o brif awdurdodau'r llywodraeth.
Mae MSc PDC mewn Fforenseg Cyfrifiadurol wedi cael ei chymeradwyo gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC), prif awdurdod technegol y DU ar seiberddiogelwch.
Yn 2016, daeth PDC i fod yr unig brifysgol yng Nghymru i ennill ardystiad dros dro ar gyfer y Radd Meistr mewn Fforensig Cyfrifiadurol gan GCHQ, pencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU. Lansiwyd yr NCSC y flwyddyn honno fel rhan o GCHQ, sy'n golygu ei bod wedi gallu elwa ar sgiliau a galluoedd sensitif y sefydliad arbennig hwnnw.
Yn y blynyddoedd ers hynny, mae nifer o gyrsiau eraill PDC wedi ennill cymeradwyaeth NCSC, gan gynnwys yr MSc mewn Seiberddiogelwch, ac fe'i henwyd hefyd yn Brifysgol Seiber y Flwyddyn am dair blynedd yn olynol – 2019, 2020, a 2021 – yn Y Gwobrau Seiber Cenedlaethol. Mae'r Brifysgol hefyd wedi derbyn safon Aur yr NCSC fel Canolfan Ragoriaeth Academaidd gydnabyddedig mewn Addysg Seiber.
Dywedodd Andy Bellamy, Arweinydd Cwrs Fforenseg Gyfrifiadurol PDC: "Roedd y broses ardystio yn cynnwys asesiad trylwyr o'r tîm staff, y cynnwys a chyfleusterau'r brifysgol – popeth sy'n dylanwadu ar ansawdd cyffredinol y cwrs.
"Mae'n gofyn am ddogfen gymhleth a hirfaith sy'n cwmpasu holl fanylion y rhaglen, ac mae cymeradwyaeth o dan y cynllun hwn yn golygu bod y cyrsiau'n bodloni safonau uchel yr NCSC.
"Rydym wrth ein bodd bod gwaith caled ein tîm yn PDC wedi cael ei gydnabod, a bod myfyrwyr Meistr yn gallu bod yn hyderus eu bod yn cael yr addysg orau bosibl ym maes Fforenseg Cyfrifiadurol."
Dywedodd Chris Ensor, Dirprwy Gyfarwyddwr yr NCSC dros Dwf Seiber: "Rwy'n falch iawn bod MSc Fforenseg Gyfrifiadurol Prifysgol De Cymru bellach wedi’i hail-achredu'n llawn gan yr NCSC.
"Mae cynnig cwrs ardystiedig yn helpu darpar fyfyrwyr i wneud dewisiadau mwy gwybodus am eu rhagolygon gyrfa mewn seiberddiogelwch a gall cyflogwyr fod yn dawel eu meddwl bod graddedigion y cyrsiau hyn wedi cael eu haddysgu'n dda a bod ganddynt sgiliau diwydiant gwerthfawr."