ClwstwrVerse: arddangosfa o arloesiadau cyfryngol a wnaed yng Nghymru

28 Mehefin, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/ClwstwrVerse.jpeg

Bydd dathliad o Clwstwr – rhaglen gwerth miliynau o bunnoedd i greu cynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau newydd ar gyfer y diwydiant sgrin – yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ddydd Llun nesaf (4 Gorffennaf).

Dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, nod y rhaglen ymchwil a datblygu (Y&D) uchelgeisiol bum mlynedd yw rhoi arloesedd wrth wraidd cynhyrchu cyfryngau yn Ne Cymru – gan symud sector sgrin ffyniannus Caerdydd o nerth i arweinyddiaeth.

Bydd ClwstwrVerse, a gynhelir yn Neuadd y Ddinas ar 4 Gorffennaf, yn tynnu sylw at fwy na 100 o brosiectau ymchwil a datblygu sgrin a newyddion Clwstwr a gyflawnwyd ers 2019, ac yn edrych i ddyfodol arloesedd cyfryngau yn Ne Cymru.

Bydd yr arddangosiad yn cynnwys profiadau, arddangosiadau, sgyrsiau a sesiynau panel, gyda chyfleoedd i gwrdd â’r bobl greadigol y tu ôl i fwy na 100 o brosiectau Clwstwr a chlywed am arloesi cyfryngau sy’n digwydd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Cynhelir ClwstwrVerse rhwng 10.30am a 4.30pm. I archebu eich lle am ddim, ewch i: https://bit.ly/ClwstwrVerse4

Mae rhaglen lawn y digwyddiad, sy’n cynnwys sgyrsiau ac arddangosiadau gan staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr PDC, i’w gweld yma: ClwstwrVerse | Clwstwr