Gwasanaeth iechyd meddwl newydd i fyfyrwyr yn cael ei lansio'n swyddogol yng Nghaerdydd
23 Mehefin, 2022
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2022/06-june/Counselling_hSvGQ9Y.jpg)
Mae gwasanaeth iechyd meddwl newydd y GIG ar gyfer yr holl fyfyrwyr sy’n byw yng Nghaerdydd ac sy’n astudio yn un o brifysgolion y ddinas wedi’i lansio’n swyddogol.
Mae Gwasanaeth Cyswllt Prifysgolion ar gyfer Iechyd Meddwl (MHULS), sydd wedi bod yn rhedeg ers mis Ebrill 2022, yn ceisio darparu atebion i'r galw cynyddol a'r risg sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl myfyrwyr ac mae wedi'i anelu at fyfyrwyr â phroblemau iechyd meddwl cymedrol neu broblemau iechyd meddwl hirsefydlog mwy cymhleth.
Mae’r MHULS yn mynd i’r afael yn benodol â bwlch a nodwyd rhwng mandad prifysgol ar gyfer cefnogi myfyrwyr a’r trothwy ar gyfer cael mynediad at wasanaethau a ddarperir gan y GIG, lle mae myfyrwyr yn aml angen atgyfeiriad neu asesiad GIG.
Mae clinigwyr y GIG yn rhan o dîm MHULS ac maent wedi’u lleoli o fewn gwasanaethau cymorth myfyrwyr ar gampysau prifysgolion i helpu i bontio’r bwlch hwn drwy ddarparu modd i fyfyrwyr gael eu hasesu, eu hatgyfeirio a’u harwain drwy wasanaethau’r GIG, tra’n sicrhau bod prifysgolion yn rhan o gynlluniau cymorth parhaus.
Mae cymorth yn cynnwys asesiadau iechyd meddwl manwl, cwblhau cynlluniau diogelwch ar gyfer myfyrwyr, atgyfeirio a chyfeirio ymlaen at wasanaethau eraill, yn ogystal â mynychu cyfarfodydd adolygu gyda rhanddeiliaid perthnasol.
Gall myfyrwyr gael mynediad i'r gwasanaeth newydd trwy atgyfeiriad gan eu hadran Gwasanaethau Myfyrwyr Prifysgol, Seiciatreg Cyswllt Oedolion, neu eu Meddyg Teulu.
Mae’r peilot wedi’i ddatblygu gan Bartneriaeth Iechyd Meddwl De-ddwyrain Cymru, sy’n cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Mae cam un y peilot ar gael i fyfyrwyr dros 18 oed sy’n astudio yn un o’r sefydliadau hyn ac yn byw yn nalgylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Ar gyfer myfyrwyr sy’n byw y tu allan i ardal Caerdydd, mae’r prosiect yn gwella cysylltiadau â byrddau iechyd cyfagos gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, er mwyn gwella’r gallu i atgyfeirio at y gwasanaethau iechyd meddwl priodol yn ôl yr angen ar y myfyriwr.
Mae cam un y peilot wedi'i ariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) tan fis Rhagfyr 2022. Mae cynlluniau ar gyfer parhau â'r gwaith yn cael eu datblygu gan y bartneriaeth.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles, Lynne Neagle: “Mae gan bawb yr hawl i brofiad addysg hapus. Rwy’n falch o weld lansiad swyddogol Gwasanaeth Cyswllt Prifysgolion ar gyfer Iechyd Meddwl, sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth i fywydau myfyrwyr yng Nghaerdydd. Mae cefnogi iechyd meddwl a lles myfyrwyr yn hanfodol i sicrhau eu bod yn cael addysg dda, ac mae’n wych gweld partneriaid yn cydweithio i gyflawni hynny.”