Kathryn yn dathlu buddugoliaeth yng ngwobrau Menywod mewn Eiddo
14 Mehefin, 2022
Natasha Matthews, Kalliopi Theodosouli, Abigail Barnes, Kathryn Stuckey
Mae'r myfyrwraig israddedig Rheoli Prosiectau Adeiladu, Kathryn Stuckey, wedi'i henwi'n enillydd rhanbarth de Cymru yng Ngwobrau Myfyrwyr Cenedlaethol Menywod mewn Eiddo (WiP) 2022.
Bydd Kathryn nawr yn mynd yn ei blaen i ymuno â 12 o enillwyr rhanbarthol eraill ar gyfer gwobrau'r DU yn Llundain ym mis Medi, pan fydd yr Enillydd Cenedlaethol yn cael ei ddatgelu.
Roedd Kathryn yn un o bedwar myfyriwr o'r Gyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth yn y rownd derfynol ranbarthol, ynghyd â Natasha Matthews, sy'n astudio Arolygu Meintiau a Rheoli Masnachol; Kalliopi Theodosouli, sydd ar y cwrs BSc Peirianneg Sifil; ac Abigail Barnes, sy'n fyfyrwraig israddedig BEng Peirianneg Sifil.
Mae Gwobrau Myfyrwyr Cenedlaethol Menywod mewn Eiddo yn rhoi cyfle i fyfyrwyr hyrwyddo eu galluoedd o fewn diwydiant a gwella eu rhwydwaith diwydiant, gan greu cysylltiadau hirdymor â darpar gyflogwyr yn y dyfodol. Mae myfyrwyr yn cael cyfle i arddangos eu gwaith cwrs, i herio ac ehangu eu gwybodaeth am y diwydiant, ac i ddatblygu eu sgiliau rhyngbersonol.[
"Rydyn ni wrth ein bodd gyda llwyddiant Kathryn , ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yn dychwelyd o Lundain gyda'r wobr genedlaethol," meddai Miranda Thomas, Uwch Ddarlithydd mewn Arolygu Meintiau a Rheoli Prosiectau.