Mynnwch help i ddatblygu technoleg eich busnes bach
28 Mehefin, 2022
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2022/06-june/CEMET_Logo_2-1_RGB_Gradient.png)
Mae busnesau bach sydd am roi syniadau ar waith yn cael cynnig cyngor am ddim gan arbenigwyr technoleg.
Mae staff yn y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Technolegau Symudol a Datblygol (CEMET), sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), yn cynnig mynediad i Raglen Gweithdy Cyngor ac Arweiniad i drafod sut i ddatblygu’r dechnoleg y tu ôl i gysyniad busnes.
Pwrpas y rhaglen yw helpu busnesau yn y camau cyn datblygu prosiect. Mae'n darparu gofod cydweithredol diogel i entrepreneuriaid ofyn cwestiynau a chael cymorth gan rai o'r tîm datblygu, sy'n arbenigo ym mhob agwedd ar dechnoleg.
Dywedodd Matt Smith, sy’n Rheolwr Masnachol yn CEMET: “Wrth ddechrau busnes, mae miliynau o swyddi a phenderfyniadau gwahanol i’w gwneud – a gall CEMET helpu. Rydym yn darparu ystod eang o gymorth i helpu busnesau bach i ddod â’u cynlluniau at ei gilydd.”
Ychwanegodd Gareth lloyd, Dylunydd UX/UI yn CEMET: “Gall hyn amrywio o help i ddatblygu map ffordd cynnyrch, sicrhau bod y busnes mewn sefyllfa briodol i gynnal gweithgaredd ymchwil a datblygu; cefnogaeth i adeiladu cynllun cynaliadwy, diffinio nodau, a thargedau i gefnogi ymchwil a datblygu hirdymor; a gwefannau, meddalwedd a chymwysiadau addas.
“Rydym yn darparu popeth o ymchwil defnyddwyr, i ddylunio cynnyrch, a datblygu cynnyrch, byddwn yn cynghori ar y cyfan.”
Mae CEMET yn galluogi BBaCh cymwys yng Nghymru i gael mynediad at ymchwil a datblygiad cydweithredol a ariennir trwy broses ymchwil a datblygu tri cham unigryw, sy'n trawsnewid syniad arloesol yn gynnyrch o ansawdd uchel. Mae'r broses yn sicrhau bod entrepreneuriaid yn y sefyllfa orau i fanteisio ar y cydweithio, gyda'r nod o ysgogi twf busnes.
Ariennir CEMET yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru.
Am ragor o fanylion ewch i www.cemet.wales