PDC yn arwyddo cynghrair gyda cholegau addysg bellach

22 Mehefin, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/College_partnership.JPG

Jonathan Morgan, Lisa Michelle Thomas, Dr Ben Calvert, Simon Pirotte, Guy Lacey, a Kay Martin MBE.

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi ail-lofnodi ei chynghrair strategol â phum coleg partner Addysg Bellach (AB) yn rhanbarth De-ddwyrain Cymru.

Mae’r gynghrair strategol yn cynnwys PDC, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Gwent, Coleg y Cymoedd, ac Y Coleg Merthyr Tudful.

Mae’r gynghrair, a lofnodwyd yn wreiddiol fwy na naw mlynedd yn ôl pan ffurfiwyd PDC yn 2013, yn weledigaeth ac ymrwymiad gan yr holl bartneriaid i gydweithio yn yr ymdrech gyffredin i dyfu a chreu cyfleoedd ar gyfer dysgu, cyflogaeth a chynhwysiant cymdeithasol.

Bydd y gynghrair strategol yn cynhyrchu cynllun gwaith cydweithredol y cytunwyd arno ar feysydd allweddol gan gynnwys blaenoriaethau academaidd, galwedigaethol a rhanbarthol, sgiliau, llwybrau dilyniant, datblygu cwricwla, ymgysylltu â diwydiant ac ymchwil gymhwysol.

Mae gwaith PDC gyda’r colegau partner y gynghrair yn hanfodol i ddarparu pont i ddysgwyr gael mynediad i Addysg Uwch, a ddarperir mewn lleoliadau lleol, gydag opsiynau dysgu hyblyg, gan ganolbwyntio ar gyrsiau sydd wedi’u teilwra i’r galw lleol am sgiliau.

Mae’r gwaith presennol gyda cholegau partner yn cynnwys ehangu’r llwybrau i astudio gofal iechyd yn PDC, ac yn arbennig i feysydd darpariaeth newydd (Ymarferydd Adran Llawdriniaethau, Ffisiotherapi a Therapi Galwedigaethol o fis Medi 2022) i gefnogi dyfodol y GIG a darparwyr gofal iechyd.

Mae Ysgol Ffilm a Theledu Cymru PDC hefyd yn gweithio gyda Screen Alliance Wales, Bad Wolf Studios, Dragon Studios a cholegau partner i gefnogi llif o dalent i mewn i swyddi lleol a chefnogi ecosystem gynyddol o amgylch ffilm, teledu, gemau a’r crefftau a’r proffesiynau sy’n cefnogi’r diwydiannau hynny.

Dywedodd Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru: “Mae partneriaethau ac ymgysylltu wrth galon strategaeth 2030 PDC. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ystod fwy amrywiol o ddysgwyr i gyflawni canlyniadau llwyddiannus a chyrchfannau graddedigion, sef yr hyn y mae'r gynghrair strategol yn anelu at ei gyflawni. Mae gennym hanes cryf o wneud gwahaniaeth i unigolion, cymunedau, cyflogwyr, ac ysgolion lleol, gan weithio mewn partneriaeth â’n colegau partner, ac rydym yn falch iawn o gydnabod hynny’n ffurfiol gydag ail-lofnodi ein cynghrair strategol wrth i ni weithio gyda’n gilydd i ddarparu cyfle cyfartal i ddysgu gydol oes.”

Dywedodd Simon Pirotte OBE, Pennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol Coleg Pen-y-bont ar Ogwr: “Rydym yn falch iawn o ailddatgan ein partneriaeth â PDC. Mae Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn edrych ymlaen at gydweithio â PDC a’n colegau partner AB i wella’r cyfleoedd ymhellach i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”

Dywedodd Jonathan Morgan, Darpar Bennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol Coleg y Cymoedd: “Rydym yn falch iawn o ddathlu’r gynghrair strategol gyda PDC – mae’r bartneriaeth wedi darparu cyfleoedd rhagorol ar gyfer dilyniant addysg uwch i’n dysgwyr.”

Dywedodd Guy Lacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Gwent: “Mae Coleg Gwent yn falch iawn o weithio’n agos gyda PDC yn y bartneriaeth gref hon rhwng addysg bellach ac addysg uwch. Mae gwneud addysg, sgiliau a hyfforddiant mor hygyrch â phosibl yn ganolog i’r gwaith yr ydym yn ei wneud gyda’n gilydd ac yn dod â manteision enfawr i’n cymunedau.”

Dywedodd Lisa Michelle Thomas, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Merthyr Tudful: “Mae’r coleg wrth ei fodd i fod yn rhan o’r Gynghrair Strategol. Mae gennym eisoes bartneriaeth ragorol gyda PDC a bydd y Gynghrair Strategol yn gyfle i gryfhau ac adeiladu ar y bartneriaeth hon ymhellach.

“Gan weithio gyda’r Brifysgol a cholegau eraill ar draws De-ddwyrain Cymru, bydd y gynghrair yn helpu i baratoi’r ffordd ar gyfer datblygu darpariaeth a llwybrau arloesol ar y cyd o ansawdd uchel a fydd yn gwella cyfranogiad a dilyniant mewn addysg bellach ac uwch ac yn cefnogi twf economaidd ar draws y rhanbarth.”

Dywedodd Kay Martin MBE, Pennaeth Grŵp yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro: “Mae ein partneriaeth hirsefydlog gyda PDC yn darparu cyfleoedd gwych i ddysgwyr ymgysylltu ag addysg uwch a symud ymlaen ynddi.

“Rydym yn falch iawn o ddathlu hyn heddiw a pharhau â’r cydweithio hwn i ddiwallu anghenion ein cymunedau.”