Urban Circle yn dod â gŵyl y Caribî i Gymru
6 Mehefin, 2022
Mae Urban Circle, sefydliad partner Prifysgol De Cymru (PDC), yn dod â gŵyl ryngwladol i Gasnewydd fis nesaf.
Mae’r elusen celfyddydau ieuenctid arobryn yn cynnal ‘Gŵyl Reggae a Riddim’ yn Nhŷ a Pharc Gwledig Tredegar ar 30 a 31 Gorffennaf. Datblygwyd a dyluniwyd yr ŵyl gerddoriaeth a chelfyddydau gan Urban Circle ochr yn ochr â The Jamaica Rastafari Indigenous Village, PDC, G-Expressions, a JukeBox Collective.
Bydd yr ŵyl yn gweld artistiaid rhyngwladol fel Maxi Priest, Carroll Thompson, a Richie Spice yn perfformio ar yr un llwyfannau â darlledwr Radio BBC a seren reggae Cymru ei hun, Aleighcia Scott. Bydd systemau sain o Gaerdydd, Casnewydd a Birmingham yn rhannu caneuon poblogaidd a newydd yn ogystal â nifer o feirdd a bandiau o bob rhan o’r rhanbarth. Cymeradwywyd y digwyddiad gan Lywodraeth Jamaica fel dathliad swyddogol o jiwbilî diemwnt Jamaica a'i 60 mlynedd o Annibyniaeth.
Mae Gŵyl Reggae a Riddim 2022 yn ddigwyddiad nid-er-elw, deuddydd, a ddatblygwyd i fod yn hygyrch i deuluoedd a phobl o bob oed. Bydd yr ŵyl unigryw hon yn rhannu treftadaeth ddiwylliannol Jamaica a Chymru drwy gerddoriaeth, bwyd, celf, dawns, ffasiwn, lles, a gwybodaeth.
Mae’r ŵyl yn bosib diolch i waith caled yr elusen drwy gydol pandemig COVID-19. Derbyniwyd cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd, sydd wedi galluogi tîm o 9 gweithiwr ieuenctid cymwys a 15 o bobl ifanc Casnewydd i gynllunio a chyflwyno'r digwyddiad.
Dywedodd Loren Henry, cyd-sylfaenydd Urban Circle a myfyriwr graddedig PDC: “Mae’r gefnogaeth a gawsom gan PDC wedi caniatáu i ni, fel sefydliad, fynd o nerth i nerth. Mae meithrin partneriaethau gyda sefydliadau allweddol wedi bod yn hanfodol i ni allu cefnogi pobl ifanc y gymuned.
“Mae fy mhartner, Ali Boksh, a minnau mor falch o lansio’r ŵyl hon ac i groesawu dirprwyaeth o Jamaica am yr wythnos yn ein dinas gyfoethog ac amrywiol."
Dywedodd Jamie James, Pennaeth Ysgol Addysg, Blynyddoedd Cynnar a Gwaith Cymdeithasol PDC: ‘Rydym yn hynod falch o allu cefnogi ‘Gŵyl Reggae a Riddim’ ac i weithio mewn partneriaeth ag Urban Circle, The Jamaica Rastafari Indigenous Village, G-Expressions, a JukeBox Collective. Mae cael effaith gadarnhaol trwy waith cymunedol yn ganolog i’n cenhadaeth a’n gweledigaeth yn PDC. Mae hwn yn gyfle gwych i ddod â phobl ynghyd ac i ddathlu’r diwylliant bywiog ac amrywiol yn ein dinas yn ogystal â meithrin dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’r hyn sy’n bosibl pan fyddwn yn agored i ddysgu oddi wrth ein gilydd.”
Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Rwyf mor falch o gefnogi Urban Circle a’r gwaith y maent yn ei wneud gyda phobl ifanc yn y ddinas. Mae’r ŵyl hon yn mynd i fod yn ddigwyddiad anhygoel i’n dinas gyffrous a diwylliannol amrywiol a bydd yn helpu i gryfhau cysylltiadau ar draws Casnewydd ac yn rhyngwladol. Mae’n anhygoel ein bod yn cynnal y digwyddiad hwn yng Nghasnewydd ar 60 mlynedd ers annibyniaeth Jamaica a bydd Casnewydd bob amser yn gysylltiedig â’r dathliadau hyn.”
Mae tocynnau ar gael ar wefan y digwyddiad: http://www.reggaeriddimfestival.com/