Wythnos Ffoaduriaid 2022 | Cymorth i academyddion sydd wedi'u dadleoli a ffoaduriaid o Wcráin

20 Mehefin, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Ukrainian_refugees_June_2022_-_8.jpg

Fel Prifysgol Noddfa, mae Prifysgol Cymru (PDC) wedi ymrwymo i ddarparu cymorth i ffoaduriaid o sawl cefndir gwahanol.

Digwyddiad Wythnos Ffoaduriaid: Dydd Llun 20 Mehefin, 3.30pm, Campws Trefforest PDC - cofrestrwch nawr

Mae cynllun Cymrodyr Cara PDC yn gweithio mewn partneriaeth â Cara (Cyngor Academyddion Mewn Perygl) i helpu academyddion o Syria sydd wedi'u dadleoli, gan gynorthwyo 34 o Gymrodyr Cara gyda mynediad at  gymorth llyfrgell a chyfleoedd i adeiladu rhwydweithiau gydag academyddion PDC.

Mae un o'r Cymrodyr, Sultan Jalabi,  yn uwch gymrawd ymchwil mewn Cymdeithaseg yn y  Ganolfan Polisi a Gweithredu, OPC, canolfan ymchwil Syriaidd sydd wedi'i lleoli yn Nhwrci. Mae Sultan wedi bod yn aelod o raglen Syria Cara ers 2019, ac mae'n dweud iddo fod yn drobwynt yn ei yrfa: "Roedd bod mewn cysylltiad â chydweithwyr o'r DU ac ymuno â nifer o brosiectau ymchwil gyda nhw yn gyfle gwych i ddysgu llawer a hefyd i wella fy Saesneg," dywedodd.

"Fodd bynnag, roedd dod yn  Gymrawd Cara PDC yn gam mawr ymlaen i fi, gan fy mod bellach  yn gysylltiedig â'r Brifysgol. Mae hyn wedi cael gwared ar rywbeth all fod yn rhwystr anodd yn aml i academyddion alltud.

"Mae mynediad i lyfrgell Prifysgol a’i rhwydwaith eang o gyfnodolion a chyhoeddwyr yn hanfodol. Mae bod yn rhan o gymuned Prifysgol yn golygu bod gennyf fynediad at ddigwyddiadau, gweithgareddau a chyfleoedd amrywiol, ac yn bwysig, mae gennyf ddrws agored i gymuned academaidd gyfoethog lle gallaf ddysgu a chyfrannu.

"Rwyf wedi ymuno â Chymuned Arbenigedd PDC ar Astudiaethau Ffoaduriaid ac Ymfudo, lle rwy'n gobeithio cyfrannu gyda fy mhrofiad gwaith blaenorol ynghylch mewnfudo o Syria. Rwy'n edrych ymlaen at gyfoethogi fy ymgysylltiad a defnyddio'r bont a adeiladwyd i fi drwy'r gymrodoriaeth hon. "

Mae Canolfan Saesneg Rhyngwladol y Brifysgol yn gweithio'n agos gyda Cara i ddarparu gwersi Saesneg at Ddibenion Academaidd, rhaglen sydd wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer academyddion sydd am wella eu sgiliau iaith yn eu meysydd arbenigedd.

Mae Dr Ahmad Darwish Moazen, sy'n wreiddiol o Syria, bellach yn byw yn Nhwrci lle mae'n athro cynorthwyol ym Mhrifysgol Ondokuz Mayıs.

Mae wedi elwa o wersi ar-lein gydag Emily Powell, Pennaeth y Ganolfan,  ers nifer o flynyddoedd.

Mae Ahmad yn arbenigo mewn dysgu Arabeg i siaradwyr anfrodorol, ac mae ganddo PhD mewn beirniadaeth a rhethreg Arabaidd.

Mae wedi dysgu yn y Brifysgol ers 11 mlynedd, ac mae ganddo ddiddordeb mewn newyddiaduraeth yn ogystal â chyfieithu Saesneg a Thwrceg i Arabeg.

"Pan wnes i adael Syria, roeddwn i eisiau parhau â fy ngyrfa academaidd i ffwrdd o'r rhyfel," meddai.

"Mae Cara wastad wedi bod yn gefnogol i ni yn y maes hwn, yn enwedig o ran cyhoeddi ymchwil wyddonol a bod yn rhan o weithdai. Yn y meysydd digidol a thechnoleg, rwyf wedi cyhoeddi nifer o erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid mewn cyfnodolion rhyngwladol ac wedi cymryd rhan gyda Cara a llawer o brifysgolion mewn symposia a chynadleddau rhyngwladol.

"Gan fy mod yn gweithio yn adran gyfieithiadau'r Brifysgol, rwyf wedi elwa’n fawr o ddysgu Saesneg at ddibenion academaidd. Diolch i Emily am ei hymdrechion gwych gyda fy nghynnydd yn yr iaith Saesneg. Rwy'n gobeithio y gallwn ni gwrdd yn y DU ryw ddiwrnod, a chyfnewid profiadau a gwybodaeth.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae'r Ganolfan hefyd wedi darparu  gwersi ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin, ar Gampws Trefforest PDC.

Mae Rachel Stamp, Cydlynydd y Rhaglen, yn un o'r tiwtoriaid sy'n cyflwyno'r gwersi. Dywedodd: "Mae tîm y Ganolfan Saesneg Rhyngwladol wedi mwynhau hwyluso dysgu Saesneg a dod i adnabod myfyrwyr mewn amgylchedd hamddenol.

"Mae'r her newydd hon wedi bod yn brofiad cadarnhaol ac ystyrlon, ac roedd pawb yn dysgu wrth fynd yn eu blaen. Mae'r myfyrwyr yn frwdfrydig iawn ac yn llawn cymhelliant, ac mae'n wych gweld myfyrwyr yn datblygu o ran eu sgiliau a’u hyder, sydd o fudd iddynt mewn sefyllfaoedd bob dydd.

"Mae'r myfyrwyr wedi rhoi adborth gwych i ni hyd yn hyn, ac maen nhw’n  dweud fod y gwersi wedi bod yn werthfawr o ran eu galluogi i feithrin perthynas â myfyrwyr eraill a ni’r athrawon, yn ogystal â helpu gyda'u sgiliau Saesneg.”

Dyma rai o'r myfyrwyr yn rhannu eu hadborth:

"Rwy'n gallu cyfathrebu yn y gymdeithas, darganfod beth nad ydw i’n ei wybod, creu ffrindiau newydd. Rwy'n dysgu sut i ynganu geiriau a synau'n gywir. Bob dydd mae cyfathrebu’n dod ychydig yn haws, felly dyfal donc amdani."

"Rwy'n hoff iawn o'n dosbarth Saesneg. Mae'r athrawon gwych yn creu awyrgylch dymunol a chyfeillgar. Rydyn ni’n cael llawer o wybodaeth newydd. Rydyn ni wedi dod yn ffrindiau gyda llawer o bobl o Wcráin. Mae'r athrawon hefyd wedi dod yn ffrindiau da i ni. Diolch i'r Brifysgol am y cyfle i astudio Saesneg, Mae'n werthfawr iawn i ni. Rydyn ni’n derbyn cefnogaeth wych gan y DU."