Disgyblion Goytre Fawr yn dod â dŵr i’r dannedd ym Mhrifysgol De Cymru

14 Rhagfyr, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Goytre_Fawr_pupils.jpg

Rhoddodd Prifysgol De Cymru (PDC) groeso i ddisgyblion Ysgol Gynradd Goytre Fawr mewn digwyddiad lle buont yn cynnig syniadau busnes i banel o arbenigwyr diwydiant. 

Roedd y myfyrwyr Blwyddyn 6 wedi cael tasg gan eu hathro, Matt Brown, i ddylunio brand newydd o fisgedi. Yn benllanw i'r prosiect deg wythnos, cyflwynodd timau eu gwaith terfynol i Mike Gough, Pennaeth Goytre Fawr, a Gemma James, Pennaeth Datblygu Cynnyrch Newydd, a Gordon Johnson, Prif Beiriannydd Trydan becws Burton Biscuits yn Llanfihangel Llantarnam.

Ymhlith cynnyrch y becws mae Wagon Wheels, Maryland Cookies, a Jammie Dodgers, felly maen nhw’n deall yn iawn pa frandiau bisgedi sy’n llwyddo. Cyflwynodd y timau eu cysyniadau i’r panel, gan gynnwys pecynnau a hysbyseb deledu wedi'i sgriptio a'i ffilmio, a rhoddwyd adborth iddynt. Rhoddodd y panel ddau frand ar y cyd ar y brig, sef 'Cookie Crush' a 'Chocolate Dips'.

Dywedodd Matt Brown, yr Athro Dosbarth: "Roedden ni’n cyfeirio at y prosiect hwn fel cyfuniad o 'The Apprentice’ a ‘Willy Wonka' ac fe wnaeth y dosbarth yn well na’r disgwyl hyd yn oed. Yn y cyfnod cyn y cyflwyniad, fe wynebon nhw nifer o heriau, ond fe wnaethon nhw gydweithio fel tîm i’w goresgyn, fel y byddai’n rhaid iddyn nhw ei wneud yn y byd swyddi go iawn.

"Dewisais PDC fel y lleoliad oherwydd roeddwn i eisiau lle gyda hygrededd fyddai’n adlewyrchu faint o waith roedden nhw wedi'i wneud. Dyma oedd y tro cyntaf i rai o’r disgyblion fod mewn prifysgol, felly y gobaith yw y gallai hyn eu hysbrydoli i ddewis addysg uwch yn nes ymlaen yn eu bywydau.

"Roedd pawb wnaethon ni gwrdd â nhw yn PDC yn hynod groesawgar ac yn hyfryd gyda'r plant. Gwnaeth hyn iddyn nhw deimlo’n gartrefol iawn ac fe wnaeth y dasg yn llai brawychus iddyn nhw. "

Dywedodd Lisa Taylor, Cyfarwyddwr Addysg Prifysgol De Cymru: "Mae gennym hanes hir o weithio gydag Ysgol Gynradd Goytre Fawr. Mae cefnogi ysgolion i ddefnyddio ein cyfleusterau yn elfen bwysig o'n partneriaeth, fel y mae codi dyheadau plant a phobl ifanc drwy sicrhau bod y brifysgol yn agored ac ar gael iddyn nhw."