Menywod ysbrydoledig ymhlith aelodau o PDC sydd wedi cael eu hanrhydeddu yng Ngwobrau STEM Cymru

1 Tachwedd, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/STEM_award_winners.jpg

Mae ddarlithydd a myfyrwraig ysbrydoledig o Brifysgol De Cymru (PDC) wedi cael eu hanrhydeddu yng Ngwobrau STEM Cymru.

Enwyd Sharan Johnstone, Pennaeth Seiberddiogelwch PDC, yn Fenyw STEM y Flwyddyn, ac enillodd Charlotte Lewis, sy’n astudio gradd mewn cemeg biolegol meddyginiaethol yn PDC, wobr Seren Newydd STEM y Flwyddyn. Mae Charlotte hefyd yn gweithio fel gwyddonydd ymchwil i Grŵp Simbec-Orion ym Merthyr.

Yn ogystal â llwyddiant mawr Sharan a Charlotte, enillwyd y Wobr Arloesedd ym maes STEM gan  Llusern Scientific Limited – a sefydlwyd gan academyddion o PDC, Dr Jeroen Nieuwland, Dr Emma Hayhurst, a Dr Ali Roula, ac fe gafodd PDC glod uchel yn Rhaglen Addysg STEM y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus).  

Ar ôl derbyn ei gwobr dywedodd Mrs Johnstone: "Rwy'n hynod falch o dderbyn gwobr Menyw STEM y Flwyddyn 2022. Mae'n fraint fawr cael cyfrannu at y gwaith o ddatblygu graddedigion sydd â gwybodaeth STEM ac a fydd yn gymorth uniongyrchol i sefydliadau yng Nghymru a'r DU yn ehangach ac yn ysbrydoli cenedlaethau o dalent STEM yn y dyfodol.

"Llongyfarchiadau enfawr hefyd i fy nghyd-enwebeion, y mae eu cyfraniadau at STEM yn rhagorol."

Dywedodd Miss Lewis, 23, am ei gwobr: "Mae'n rhaid mai dyma'r diweddglo gorau i'r flwyddyn gyntaf orau mewn diwydiant y gallai unrhyw un fod wedi gobeithio amdano erioed.

"Mae llawer iawn o bobl wedi fy nghefnogi ac maen nhw wedi rhoi llwyth o gyfleoedd gwych i fi. Roedd cael fy enwebu yn ddigon ynddo'i hun, heb sôn am ennill. Rwyf mewn sioc.

"Mae’n demtasiwn credu na all pobl gyflawni rhyw lawer yn ystod camau cyntaf eu gyrfa, yn enwedig am ei bod hi’n gallu bod yn anodd iawn mynd i mewn i'r diwydiant Stem, ond mae wedi cael ei gydnabod fy mod i wedi gallu gwneud gwahaniaeth."

Meddai Dr Nieuwland: "Mae Llusern Scientific yn falch iawn ein bod wedi ennill Gwobr Arloesedd yng Ngwobrau STEM Cymru. Nid er mwyn ennill gwobrau y sefydlon ni’r busnes, ond mae bob amser yn braf cael cydnabyddiaeth am y gwaith rydyn ni'n ei wneud i wella mynediad at ddiagnosteg gofal iechyd fforddiadwy a chywir ar gyfer pobl Cymru, y DU a gweddill y byd.

"Daw'r Wobr hon ar adeg bwysig i'r busnes wrth i ni baratoi i lansio ein cynnyrch cyntaf – pecyn profi am Heintiau’r Llwybr Wrinol mewn meddygaeth filfeddygol. Rydyn ni’n mawr obeithio y byddwn yn gallu gwerthu pecynnau profi Heintiau’r Llwybr Wrinol i’w defnyddio gyda phobl hefyd yn 2023."

Roedd pobl o bob rhan o Gymru yn y rownd derfynol, yn cystadlu am 12 gwobr mewn amryw o gategorïau, yn amrywio o Gwmni Newydd y Flwyddyn i Arloesi mewn STEM. Dan arweiniad y ddarlledwraig Sian Lloyd, cynhaliwyd y seremoni yng Ngwesty Mercure yng Nghaerdydd. Nod y gwobrau yw cydnabod y gwaith STEM arloesol sy'n cael ei wneud yng Nghymru, gan fynd i'r afael â'r bwlch amrywiaeth a'r prinder sgiliau, ac ysbrydoli a chodi uchelgais y genhedlaeth nesaf.

Cafodd Eben Upton, a aned ym Mhont-y-pŵl, ac sy’n sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Raspberry Pi, hefyd ei gydnabod yn y digwyddiad, gan ennill gwobr Cyfraniad Eithriadol at STEM. Cwmni Eben sy’n gyfrifol am t Raspberry Pi, sef cyfrifiadur bach un bwrdd, sy'n cael ei gynhyrchu yn SONY UK TEC ac sydd wedi gwerthu bron 50 miliwn o ddyfeisiau ledled y byd.

Dywedodd y prif feirniad, Dr Louise Bright, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Ymgysylltu â Busnes PDC a sylfaenydd menter Menywod mewn STEM yng Nghymru: "Llongyfarchiadau calonnog i holl enillwyr Gwobrau STEM Cymru eleni. Mae'r enillwyr yn cynrychioli rhai o'r sefydliadau a'r unigolion mwyaf blaengar sydd ar flaen y gad o ran arloesedd STEM yng Nghymru. 

"Roedd safon y busnesau a'r unigolion a gyrhaeddodd y rhestr heb ei hail ac fe hoffwn i longyfarch pawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol.

"Mae'r gwobrau'n dangos bod dyfodol y sector STEM yng Nghymru yn ddisglair ac rydym yn edrych ymlaen at weld y diwydiant yn mynd o nerth i nerth."

Trefnwyd  Gwobrau STEM Cymru ar y cyd gan Grapevine Event Management ac asiantaeth gyfathrebu jamjar, ac fe'u noddwyd gan Ganolfan Rhagoriaeth mewn Technoleg Symudol a Datblygol (CEMET) PDC, Catapwlt Rhaglenni Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Banc Datblygu Cymru, Newyddion Busnes Cymru, Linea Resourcing, Addysgwyr Cymru, a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.