Wythnos Ymwybyddiaeth Traws | Ymchwil PDC yn dangos y gallai gwasanaethau sy’n deall materion LHDTC+ leihau niwed yn gysylltiedig â sylweddau
18 Tachwedd, 2022
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2022/11-november-/Trans_flag.jpg)
Mae’n Wythnos Ymwybyddiaeth Trawsryweddol (13 tan 19 Tachwedd), ac yn gyfle i adfyfyrio, i ddathlu, i ddod at ein gilydd fel cymuned i godi ymwybyddiaeth o brofiadau pobl drawsryweddol, anneuaidd, a rhywedd-amrywiol. I helpu i godi ymwybyddiaeth, yn yr erthygl hon mae Shannon Murray (llun isod), Cynorthwyydd Ymchwil yn y Grŵp Ymchwil i Ddefnyddio Sylweddau (GYDdS), yn trafod un o'r materion cudd sy’n effeithio ar bobl o fewn y gymunedol drawsryweddol, sef problemau'n gysylltiedig â defnyddio sylweddau.
"Mae pobl drawsryweddol wedi dioddef (ac yn parhau i wynebu) llawer o heriau, fel cael eu gwrthod gan ffrindiau a’r teulu a gwahaniaethu yn y gweithle, y system addysg, a pharthau eraill bywyd. I bobl drawsryweddol, mae llywio systemau gofal iechyd yn heriol, a gall cael mynediad at hormonau a llawdriniaeth fod yn anodd. Yn ogystal, mae pobl drawsryweddol yn aml yn byw mewn tlodi (a’r tlodi hwnnw’n sylweddol uwch i bobl drawsryweddol o liw) ac yn dioddef trais yn eu herbyn yn amlach. Mae'r system gyfreithiol i gydnabod rhywedd hefyd yn hynod fiwrocrataidd a drud.
Mae ymchwil yn awgrymu bod mwy o ddefnydd problemus ar sylweddau o fewn y boblogaeth LHDTC+ nag yng ngweddill y boblogaeth. Mae cyfraddau uchel o ddefnyddio sylweddau a rhwystrau i dderbyn cymorth neu wybodaeth gan wasanaethau sefydledig hefyd wedi’u dogfennu. Gallai’r rhagfarn, yr ymylu, a’r ynysu y gall aelodau o gymunedau LHDTC+ eu dioddef gydol oes effeithio ar ddefnyddio sylweddau.
Oherwydd prinder ymchwil ansoddol i ymddygiadau cymunedau LHDTC+ o ran defnyddio cyffuriau ac alcohol, a'u gofynion triniaeth, nid yw'r materion hyn yn cael sylw llawn na'u deall. Felly, mae'r posibilrwydd o niwed cudd parhaus i boblogaethau LHDTC+ yn eithaf uchel. Ar ben hynny, mae'r rhan fwyaf o ymchwil y DU yn ymwneud â defnyddio sylweddau ymhlith dynion hoyw neu Ddynion sy’n cael Rhyw â Dynion (DRhD). Mae hyn yn eithrio aelodau eraill o'r boblogaeth LHDTC+, gan gynnwys pobl drawsryweddol.
Cynhaliodd GYDdS ym Mhrifysgol De Cymru brosiect a ddechreuodd lenwi rhai o'r bylchau gwybodaeth hyn a gosod y sylfeini ar gyfer ymdrech gydweithredol lawer mwy fydd yn edrych ar ddefnyddio sylweddau o sawl safbwynt ac mewn gwahanol leoliadau.
Dau brif amcan y prosiect oedd deall mwy am ddefnyddio sylweddau ymhlith pobl yn y gymuned LHDTC+ ac adnabod y rhwystrau i driniaeth ymhlith pobl LHDTC+, a hwyluswyr y driniaeth honno.
Roedd cydweithredu a chyd-gynhyrchu yn ganolog iawn i'r prosiect hwn. Buom yn cydweithio â rhanddeiliaid allweddol a chynlluniwyd y gwaith casglu data gyda chymorth gweithwyr proffesiynol ym maes trin defnyddio sylweddau a phobl LHDTC+ (sydd â phrofiad byw o ddefnyddio sylweddau).
Cymerodd 38 o bobl ran yn yr arolwg a wnaed ledled y DU. Er ei fod yn sampl bach, dywedodd 32% o gyfranogwyr yr arolwg eu bod yn uniaethu’n drawsryweddol neu fod ganddynt hanes trawsryweddol. Mae presenoldeb cynifer o unigolion trawsryweddol yn ddiddorol ynddo’i hun, ac yn annisgwyl o gofio bod y "T" yn aml yn cael ei anwybyddu neu ei dangynrychioli mewn ymchwil LHDTC+.
Trafododd yr ymatebwyr y cyfraddau uchel o ddefnyddio alcohol a chyffuriau sy'n cael eu crybwyll yn aml mewn ymchwil ymhlith pobl LHDTC+ a chynnig esboniadau o ran pam mae’r cyfraddau uchel hyn yn bodoli. Mae pobl LHDTC+ yn aml yn delio â stigma sy'n gysylltiedig â'u hunaniaethau rhyweddol a rhywiol, heriau gyda chael eu derbyn (ganddyn nhw eu hunain ac eraill), a chael eu gwrthod gan eu teuluoedd. Mae pobl LHDTC+ yn dioddef trawma, gwahaniaethu, a thrafferthion gyda'u hiechyd meddwl trwy gydol eu bywydau, oherwydd y problemau hyn, ymhlith eraill.
Dywedodd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr eu bod wedi eu trin yn anffafriol wrth ddefnyddio cyffuriau neu alcohol. Arweiniodd cwestiynau a oedd yn mynd i'r afael ag ymddygiad rhywiol heb ei gynllunio, rhyw dan orfod, neu ofn gorfodaeth, at atebion diddorol. Canfuwyd bod 81% o'r ymatebwyr wedi cymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol dan orfod neu fygythiadau. Dywedodd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr oedd yn hunan-uniaethu’n drawsryweddol neu oedd â hanes o hunaniaeth drawsryweddol, eu bod wedi cael eu bygwth yn rhywiol neu wedi profi gorfodaeth rywiol. Mae hyn yn gyson â chorff bach o ymchwil sy'n dangos bod pobl drawsryweddol yn dioddef trais rhywiol yn amlach na'u cymheiriaid cisryweddol tra dan ddylanwad alcohol.
Mae'r ymchwil hon yn dangos y gallai gwasanaethau effeithiol sy’n deall materion LHDTC+ helpu i leihau niwed sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol a hyrwyddo defnydd pobl LHDTC+ o wasanaethau trin a chymorth. Mae mwy o ymchwil yn gwbl angenrheidiol i ni allu deall profiadau ac anghenion y boblogaeth hon o ran defnyddio sylweddau. Mae angen ffocws ar ymchwil ansoddol sy'n seiliedig ar gyfweliadau gyda'r ddemograffeg hon ar frys. Yn y dyfodol, mae’n rhaid i astudiaethau ar ddefnyddio cyffuriau ymhlith cymunedau LHDTC+ ystyried y cysylltiad rhwng trais rhywiol ac alcohol. Mae ymyriadau sy'n cael eu harwain a’u teilwra gan gymheiriaid angen mwy o ymchwil i ddeall ai nhw yw'r ffyrdd mwyaf effeithiol o hyrwyddo ymgysylltiad â gwasanaethau a deall y manylion unigryw sy'n berthnasol i’r defnydd o sylweddau ymhlith poblogaethau sydd wedi’u lleiafrifoli. "
Mae cyfeiriadau ar gael ar gais.