PDC yn ymuno â Chynghrair Celfyddydau a Dyniaethau newydd Cymru
1 Awst, 2023
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2023/08-august/news-arts-humanities-alliance-1.png)
Mae Prifysgol De Cymru wedi ymuno â chynghrair newydd i hyrwyddo ymchwil ac arloesedd y celfyddydau a dyniaethau yng Nghymru.
Mae Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru (CCDC) yn bartneriaeth rhwng y naw prifysgol yng Nghymru, a sefydlwyd ar ôl i arweinwyr ymchwil gydnabod y potensial ar gyfer cydweithredu pellach ar draws y sefydliadau addysg uwch.
Wedi’i hwyluso gan Rwydwaith Arloesedd Cymru (RhAC), bydd CCDC yn darparu llwyfan ar gyfer cydweithio rhwng prifysgolion yng Nghymru er mwyn hwyluso rhannu arbenigedd, adnoddau a sgiliau yn fwy effeithiol, a fydd yn hybu uchelgeisiau ymchwil ac arloesoedd yn y celfyddydau a’r dyniaethau yng Nghymru. Bydd CCDC yn meithrin perthnasoedd gyda rhanddeiliaid allanol allweddol a gyda grwpiau celfyddydau a dyniaethau cenedlaethol ledled y DU.
Meddai aelodau gwreiddiol Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru:
“Yn dilyn cyfarfod adeiladol a chynhyrchiol ar draws Cymru, mae arweinwyr ymchwil o naw prifysgol yng Nghymru’n dod at ei gilydd i lansio Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru.
“Mae’r Gynghrair yn cynrychioli cyfle Cymru-gyfan i adeiladu partneriaeth ddyfnach a chryfach, fydd yn canolbwyntio ar ragoriaeth ymchwil ac arloesedd yn y celfyddydau a’r dyniaethau mewn addysg uwch. Mae'r Gynghrair hefyd yn llwyfan ar gyfer eiriolaeth a gweithredu, sydd wedi'u gwreiddio yn ein creadigrwydd, ein harbenigedd a'n sgiliau cyffredin.
“Mae’r aelodau a sefydlodd y gynghrair wrth eu bodd yn cymryd y cam arwyddocaol hwn i gynyddu llais y celfyddydau a’r dyniaethau yng Nghymru ac i gyfrannu at drafodaethau cenedlaethol a rhyngwladol ynghylch gwerth y Celfyddydau a’r Dyniaethau ar draws Cymru-gyfan mewn byd sy’n newid yn gyflym.”
Meddai’r Athro Paul Boyle, Cadeirydd Rhwydwaith Arloesedd Cymru ac Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe:
“Pwrpas sylfaenol RhAC oedd cryfhau ymchwil ac arloesedd yng Nghymru drwy gydweithio ar draws pob un o’n naw prifysgol. Rwyf wrth fy modd felly bod RhAC yn hwyluso datblygiad Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru (CCDC), sy’n enghraifft wych o bŵer ein hymagwedd at weithio mewn partneriaeth.
“Fel sector, credwn fod y celfyddydau a’r dyniaethau yn cynrychioli budd cyhoeddus sylweddol, yn ogystal â chwarae rhan allweddol wrth fynd i’r afael â heriau’r gymdeithas gyfoes. Mae CCDC yn cynnig cyfle amserol i dynnu sylw at werth sylweddol y disgyblaethau pwysig hyn yma yng Nghymru, ac i ddatblygu ein heffaith mewn ymchwil ac arloesedd yn y maes hwn ymhellach.”