Arwr rygbi Cymru’n lansio rhaglen chwaraeon newydd yn PDC

1 Chwefror, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Sam_Warburton_HP_event.jpg

Cyhoeddodd Sam Warburton, cyn-gapten timau rygbi'r undeb Cymru a'r Llewod Prydeinig, rhaglen chwaraeon newydd PDC, mewn digwyddiad yr wythnos diwethaf.

Yn ymuno â Sam, sy’n Gymrawd er Anrhydedd gyda PDC, roedd Dawn Bowden AoS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, a agorodd y digwyddiad.

Ffocws y rhaglen newydd yw cyfoethogi profiad myfyrwyr PDC trwy ddarparu amgylchedd  perfformiad uchel tra bônt yn chwarae pêl-droed, rygbi, neu bêl-rwyd, ar lefel uchel. Fe'i cynlluniwyd i gynnig llu o wasanaethau cymorth i athletwyr elît, neu'r rhai sy'n gobeithio cystadlu ar lefel genedlaethol neu ryngwladol, a fydd yn:

  • Eu galluogi i barhau i hyfforddi a chystadlu ar y lefel uchaf tra hefyd yn astudio
  • Darparu'r amgylchedd cymorth a hyfforddiant gorau i fyfyrwyr
  • Cynyddu lefelau perfformiad athletwyr
  • Darparu gwasanaeth gofal ag athletwyr yn ganolog iddo

Mae cefnogaeth partneriaid PDC, gan gynnwys Cymdeithas Bêl-Droed Cymru, Pêl-rwyd Cymru, Rygbi Pontypridd, a chlwb Pêl-droed Pontypridd United wedi bod yn hollbwysig. Maen nhw’n darparu mannau i'n hathletwyr perfformiad uchel chwarae a datblygu.

Bydd gan yr athletwyr fynediad at arbenigedd a chyfleusterau mewn amgylchedd fydd yn eu helpu i ffynnu.  Bydd gan bob camp perfformiad uchel dîm pwrpasol o hyfforddwyr a staff cynorthwyol fydd yn gweithio'n agos gyda nhw i alluogi’r athletwyr gyrraedd y safonau uchaf posib.

I'r perwyl hwn, mae PDC wedi penodi tri Rheolwr Perfformiad Chwaraeon:

Mae Justin Burnell wedi'i benodi'n Rheolwr Perfformiad Rygbi (Dynion a Menywod). Justin yw Cyfarwyddwr Rygbi Clwb Rygbi Pontypridd ar hyn o bryd. Mae'n hyfforddwr rygbi cymwys iawn gyda phrofiad helaeth o amgylcheddau perfformiad uchel blaenllaw.

Andy Whittington yw Rheolwr Perfformiad Pêl-droed PDC (Dynion a Menywod). Gadawodd Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi naw mlynedd yn arwain eu Hadran Berfformio lle bu'n gyfrifol am ddatblygiad athletaidd chwaraewyr dan 9 a dan 23 yr Academi.

Mae Philippa Yarranton, sydd wedi chwarae pêl-rwyd rhyngwladol dros Gymru a Dreigiau Celtaidd Cymru, ac sy’n hyfforddwr cymwys, wedi'i phenodi'n Rheolwr Perfformiad Pêl-rwyd.

Dywedodd Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru: "Rydym yn falch iawn ac yn llawn cyffro wrth lansio ein rhaglen chwaraeon perfformiad uchel yma ym Mhrifysgol De Cymru. Mae'r Brifysgol wedi cefnogi rhai o sêr amlycaf y campau, fu’n fyfyrwyr yma, dros y blynyddoedd.

"Mae gennym awydd angerddol i weld ein myfyrwyr i gyd yn cael profiad gwych ymhob ffordd ac, yn ogystal â chefnogi eu hastudiaethau academaidd trwy ddysgu ac addysgu o ansawdd uchel, mae’r un mor bwysig ein bod yn cefnogi eu hiechyd a'u lles corfforol. Er mai ffocws heddiw yw lansio ein rhaglen chwaraeon perfformiad uchel, rydym yr un mor ymroddedig i sicrhau y gall ein myfyrwyr i gyd gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar unrhyw lefel, boed yn gymdeithasol gyda ffrindiau neu ag uchelgeisiau i gystadlu ar y lefel uchaf."

Dywedodd Dawn Bowden AS, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip: “Uchelgais Llywodraeth Cymru yw creu’r amgylchedd gorau posibl ar gyfer system chwaraeon gynhwysol a chenedl chwaraeon lwyddiannus – ac mae ein prifysgolion, ein colegau a’n hysgolion yn gyfranwyr pwysig ac partneriaid i gyflawni’r uchelgais hwnnw. Rwy’n siŵr y bydd myfyrwyr y presennol a’r dyfodol yn elwa ar y rhaglen hon, rwy’n dymuno’n dda i’r tîm ac yn llongyfarch pawb a gymerodd ran ar eu gweledigaeth a’u hymrwymiad i gyflwyno’r rhaglen hon.”