Chwe rhan o'ch car sy'n casglu data amdanoch chi

2 Chwefror, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Autonomous_car_resized.jpg

Gan Rachael Medhurst, Arweinydd Cwrs a Darlithydd mewn Seiberddiogelwch yn Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol Prifysgol De Cymru

Mae’r car mae rhywun yn ei yrru’n awgrymu sawl peth am ei berchennog. A gall y data mae llawer o gerbydau bellach yn ei gasglu ddatgelu patrymau ein bywydau beunyddiol a chynnig mewnwelediad i'n hymddygiad, ein gweithredoedd a hyd yn oed ein cyflwr meddwl.

Math o wyddoniaeth fforensig ddigidol yw Fforenseg Cerbydau sy'n ffocysu ar adnabod, caffael a dadansoddi data sydd wedi cael ei storio gan geir, faniau a lorïau.

Yn wreiddiol, roedd fforenseg cerbydau yn ymwneud yn bennaf ag adnabod ceir oedd wedi’u dwyn neu dramgwyddau treth ac MOT, drwy ddefnyddio'r system APCA (adnabod platiau cofrestru’n awtomatig) yn y DU. Dyfeisiwyd y system yn y 1970au ond ni chafodd ei defnyddio'n helaeth gan yr heddlu tan ddiwedd y 1990au. Mae APCA yn gweithio trwy sganio platiau cofrestru cerbydau a'u gwirio yn erbyn cronfa ddata o gerbydau o ddiddordeb.

Fodd bynnag, dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r broses o erlyn troseddwyr wedi mynd yn fwy soffistigedig ac erbyn hyn mae hefyd yn cynnwys tynnu data o'r tu mewn i gerbydau. O'r mecanweithiau a ddefnyddir i wella'r profiad gyrru i’r systemau adloniant, gall y rhain i gyd helpu gyda’r gwaith o ganfod troseddau a gall eu tystiolaeth gael ei derbyn yn y llys.

Y blwch du

Mae blychau du yn ddyfeisiau a ddefnyddir o fewn cerbydau i fonitro sgiliau gyrru unigolion. Nid oes gan bob cerbyd flwch du ond maent yn boblogaidd gan gwmnïau yswiriant. Os yw'r data o'r blwch du yn datgelu bod gyrrwr yn perfformio'n dda y tu ôl i'r llyw, gellir ei ddefnyddio i ostwng ei bremiwm.

 Ochr yn ochr â chofnodi cyfesurynnau’r System Leoli Fyd-eang, GPS, gall bocsys du ddangos pa mor bell mae cerbyd wedi teithio, pa mor aml y mae wedi cael ei yrru, yn ogystal â’i allu i frecio a throi cornelu, er enghraifft.

Y system adloniant a gwybodaeth

Yr unig beth oedd ynghlwm wrth wrando ar gerddoriaeth wrth yrru yn y gorffennol oedd dewis a defnyddio casét neu CD. Ond yn araf bach daeth dyfeisiau Bluetooth, wifi a USB i ddisodli’r rhain, gyda’u sgriniau cyffwrdd neu sgriniau arddangos ar y dashfwrdd.

Yn ogystal â darparu gwybodaeth ac adloniant, drwy’r system gwybodaeth ac adloniant yn aml mae gyrwyr yn rhyngweithio â swyddogaethau eraill y cerbyd, fel arddangos faint o danwydd sydd wedi'i ddefnyddio a rheoli pa mor gynnes mae'r seddi.

Pan fydd ffonau clyfar yn cael eu plygu i mewn i geir neu eu paru drwy Bluetooth, gall y system gwybodaeth ac adloniant storio data megis hanes llywio, negeseua drwy destun ac e-byst, hanes pori’r rhyngrwyd a ffrydiau’r cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â chysylltiadau Bluetooth ac â thyrau celloedd.

Unedau rheoli electronig

Mae unedau rheoli electronig neu URhEau yn cynorthwyo gyda sut mae cerbyd yn gweithio ac yn aml yn cael eu disgrifio fel "ymennydd" yr injan. Maen nhw’r tu fewn i’r car, fel arfer yn y ddrôr menig, gyda’r injan neu o dan y dashfwrdd. Yn y bôn, cyfrifiadur yw URhE, system newid a system rheoli pŵer mewn casyn bach iawn.

Fel arfer mae mwy na 75 URhE mewn cerbyd ac mae pob un yn gyfrifol am dasg benodol. Er enghraifft, mae URhE yr injan yn rheoli’r chwistrelliad tanwydd ac, mewn peiriannau petrol, amseru'r sbarc i'w danio. Mae cloi gwregysau diogelwch, pwysedd aer, a chynnau a diffodd goleuadau hefyd yn bethau sy’n cael eu rheoli gan URhEau.

I gynorthwyo gydag effeithlonrwydd gyrru, mae'r URhEau a'r system gwybodaeth ac adloniant yn aml yn gweithio gyda'i gilydd, gan storio amrywiaeth eang o ddata am y ffyrdd y mae cerbyd yn caei ei ddefnyddio.

Unedau eCall

Cyflwynwyd unedau Galwad frys, neu eCall, i gerbydau newydd yn yr UE a'r DU yn 2018. Mae hon yn system frys sydd â’r nod o ddod â chymorth cyflym os a phryd y bydd argyfyngau traffig ar y ffordd. Gall synwyryddion cerbydau adnabod gwrthdrawiadau a chanfod a yw'r bagiau aer wedi'u defnyddio. Mae hyn yn ei dro yn gweithredu galwad i'r gwasanaethau brys.

Mae'r data a gesglir gan eCall yn cynnwys cyfesurynnau GPS y cerbyd, cyfeiriad teithio, y VIN (rhif adnabod cerbydau), y math o danwydd a ddefnyddir a hyd yn oed a ydy gwregysau diogelwch yn cael eu defnyddio.

Ffobiau allwedd

Y tu hwnt i'w swyddogaeth amlycaf sef cloi a datgloi ein ceir, mae ffobiau allwedd yn cynnwys llawer iawn o wybodaeth. Ymhlith y data sy'n cael ei storio mewn ffob mae’r VIN, nifer yr allweddi sydd wedi eu paru â cherbyd penodol a'r tro diwethaf i'r cerbyd gael ei gloi a'i ddatgloi.

Camerâu

Gall camerâu bacio a chamerâu dashfwrdd gynorthwyo gyda pharcio a darparu lluniau o ddamweiniau ar gyfer ymchwilwyr yswiriant. Ond maen nhw hefyd yn gallu datgelu'r daith a wnaed gan y cerbyd ar y cyd â stampiau dyddiad ac amser, yn ogystal â ble yn union ar yr heol yr oedd cerbyd.

Yn ogystal, gall camerâu dashfwrdd ddal delweddau o ddefnyddwyr eraill y ffyrdd a cherddwyr. Mae'r porthol diogelwch camerâu dashfwrdd cenedlaethol yn galluogi perchnogion camerâu i gyflwyno lluniau i heddluoedd yng Nghymru a Lloegr, y gellir wedyn eu defnyddio gan ymchwilwyr.