Daeargryn Twrci-Syria: her rhoi cymorth mewn man lle bu trychinebv
10 Chwefror, 2023
Gan Dr Jeffrey Evans, Uwch Ddarlithydd, Gofal Iechyd Trychineb
Gefn trymedd nos, a chithau’n cysgu’n braf. Yn sydyn mae plastr y nenfwd yn pentyrru am eich pen, mae lluniau'n disgyn oddi ar y waliau a’ch ystafell wely yn siglo. Rydych chi'n deffro'ch partner, yn gafael yn y plant ac yn mentro’n simsan lawr y grisiau yn y tywyllwch wrth i chi gael eich taflu o ochr i ochr.
Rydych chi’n sefyll yn y stryd yn eich pyjamas yn yr oerfel rhewllyd. Mae'n dywyll fel bol buwch, a dim ond goleuadau ambell gar ac ambell ffôn symudol sy’n goleuo’r llwch a'r malurion o’ch cwmpas.
Dyma gipolwg ar y math o brofiadau gafodd teuluoedd ac unigolion pan darodd daeargrynfeydd dinistriol yn oriau mân y 6ed o Chwefror, ac ysgwyd Twrci a Syria. I'r rhai na chafodd eu dal yn y drychineb, mae’n anodd dirnad profiadau’r rhai oedd yn ei chanol hi. Ynghanol y dryswch a'r anhrefn, rwy’n gwybod o brofiad, ar ôl bod yn rhan o sawl ymateb dyngarol i drychinebau ledled y byd, bod rhaid blaenoriaethu tri pheth wrth geisio helpu.
Un flaenoriaeth yw achub y rhai sy'n gaeth yn y rwbel. Cyfnod byr sydd ar gael i achub pobl mewn amgylchiadau fel y rheiny. Gyda phob awr a diwrnod aiff heibio, bydd mwy o fywydau'n cael eu colli wrth i bobl sydd wedi eu claddu mewn adeiladau farw o’u hanafiadau, yr oerfel neu ddiffyg dŵr.
Blaenoriaeth arall yw trin y rhai sydd wedi'u hanafu. Gall adeiladau sy'n dymchwel achosi toriadau i esgyrn y sawl sy’n goroesi, ynghyd ag anafiadau i'r asgwrn cefn, y frest a'r pen a hyd yn oed losgiadau a chlwyfau agored.
Ar yr un pryd, efallai y bydd yr ysbytai a'r clinigau y byddai pobl fel arfer yn eu defnyddio ar gyfer triniaeth yn orlawn o bobl ag anafiadau. Neu gall yr adeiladau eu hunain fod wedi eu difrodi ac felly’n methu â gweithredu fel arfer. Ar ben hyn oll, efallai y bydd y staff meddygol sydd eu hangen i drin a gofalu am gleifion hefyd wedi’u lladd neu eu hanafu.
Yn olaf, mae angen helpu'r rhai sy’n ddigartref yn sgil y trychineb. Mae'r daeargrynfeydd a'r ôl-gryniadau yn Nhwrci a Syria wedi effeithio ar filoedd o bobl fel hyn. Does neb a ŵyr y niferoedd go iawn hyd yn hyn, ac mae'n debyg na ddôn nhw i’r amlwg am sawl wythnos arall.
Mae diffyg lloches ei hun yn achosi marwolaethau, yn enwedig yn ystod misoedd oer y gaeaf. Mae'r sefyllfa'n arbennig o beryglus i blant, pobl hŷn, a’r rhai sydd ag anableddau a chyflyrau iechyd tymor hir.
Bydd angen lloches, bwyd a dŵr ar y bobl sydd wedi colli eu cartrefi. Bydd angen iddyn nhw hefyd ailgysylltu ag aelodau o'r teulu y byddan nhw wedi colli cysylltiad â nhw yn sgil anhrefn y ddaeargryn.
Nid yw'r tair blaenoriaeth hyn yn cynrychioli hierarchaeth angen. Mae diffyg achubiaeth, trin y rhai sydd wedi'u hanafu a darparu lloches i'r digartref yn dri angen sy'n peryglu bywyd yn syth ar ôl trychineb, ac i gyd ar waith ar yr un pryd.
Mae hyn yn gwneud ymateb i drychinebau yn anodd iawn oherwydd gall un penderfyniad i weithredu olygu na fydd gweithred arall yn cael ei chyflawni. Un o drasiedïau mawr trychinebau o'r fath yw bod yr angen am gymorth yn fwy na’r gallu i ymateb.
Mae rhoi cymorth mewn trychinebau hefyd yn anodd o ran trefniadau ymarferol, gyda ffyrdd, porthladdoedd, a phontydd yn amhosibl eu defnyddio. Ar yr un pryd, efallai y bydd gwasanaethau hanfodol ar gyfer cymorth fel pŵer, a systemau TG a ffonau symudol hefyd yn anweithredol. Er hynny, mae gan dimau ymateb i drychinebau, yn rhai lleol a rhyngwladol, ffyrdd o weithio i sicrhau bod cymorth yn cael ei roi i'r rhai sydd fwyaf mewn angen. Mae asiantaethau cymorth yn cynnal asesiadau angen cyflym gan roi sylw penodol i ddioddefwyr sy'n arbennig o agored i niwed, ac wedyn yn sicrhau bod y cymorth sydd ar gael yn cyfateb i ofynion y boblogaeth. Wedyn daw sawl asiantaeth cymorth ynghyd i gydlynu eu hymdrechion i sicrhau bod cymorth yn cael ei ddosbarthu'n effeithlon.
Dim ond cam cyntaf tuag at adferiad fydd yr ymateb uniongyrchol dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf fodd bynnag. Gall timau ymateb i drychinebau a gweithwyr cymorth rhyngwladol barhau ar lawr gwlad am sawl wythnos arall i helpu gyda’r gwaith o gynnig gofal meddygol a gwasanaethau hanfodol fel dosbarthu bwyd a dŵr a darparu lloches.
Ond yn y pen draw, byddan nhw'n gadael. Bydd hyn yn gadael y goroeswyr i ymdopi â'u galar a cheisio ailadeiladu bywydau â rhywfaint o ystyr a phwrpas.
"Fe wnaethon nhw dderbyn cymorth, ond doedd dim modd i’r cymorth hwn ddatrys ein problemau. Fe gollon ni bopeth, y cyfan a gafodd ei adeiladu dros oes gyfan. Roedd y cymorth hwn fel rhwymyn dros glwyf dwfn. Mae’n cuddio’r gwaethaf ond dyw e ddim yn cynnig gwellhad."
Geiriau un a oroesodd ddaeargryn yn Iran yw’r rheiny. Fe’u cyhoeddwyd yn 2016 ac mae nhw’n ein hatgoffa o ddyfnder y golled sy’n wynebu’r sawl sy’n goroesi trychinebau. Mae hefyd yn ein hatgoffa y bydd y clwyfau dwfn sydd wedi eu hachosi gan y daeargrynfeydd yn Nhwrci a Syria – yn rhai corfforol ac yn rhai seicolegol – yn para’n hir iawn.
Gallwn ond obeithio y bydd y cymorth uniongyrchol sy’n cael ei gynnig yn Nhwrci a Syria yn achub rhai bywydau ac yn galluogi goroeswyr i ddechrau ar y daith hir at wellhad.
Ailgyhoeddir yr erthygl hon o The Conversation dan Drwydded Creative Commons. Darllen yr erthygl wreiddiol.