Dathlu enillwyr yng Ngwobrau Cyflenwyr PDC 2022

9 Chwefror, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/USW_Supplier_Awards_2022_ID_.jpg

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi dathlu gwaith eu cyflenwyr allanol yng Ngwobrau Cyflenwyr PDC 2022.

Dangosodd y seremoni wobrwyo rhithwir, a gynhaliwyd ddydd Mercher 8 Chwefror, werthfawrogiad o’r gwahaniaeth y mae cyflenwyr PDC wedi’i wneud i gydweithwyr, myfyrwyr, a’r gymuned ehangach dros y deuddeg mis diwethaf.

Dan arweiniad tîm caffael PDC, rhannwyd y gwobrau’n chwe chategori, gydag enwebiadau’n mynd trwy broses panel llunio rhestr fer dau gam. Enillwyr y gwobrau eleni yw:

Enillydd Gwobr Gwasanaeth - Lloyds Electrical Services

Mae'r wobr hon yn cydnabod cyflenwyr sydd wedi mynd y tu hwnt i'r disgwyl.

Dywedodd y panel beirniaid fod y cyflenwr lleol Lloyd Electrical Services wedi darparu gwasanaeth rhagorol i PDC dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ddarparu gwerth ymhell y tu hwnt i'w contract. Teimlent fod eu dibynadwyedd, eu hymatebolrwydd a'u hyblygrwydd wedi sefyll allan, a'u bod wedi rhyngweithio'n dda â myfyrwyr a chydweithwyr.

Enillydd Gwobr Arloesi - Enroly

Cynlluniwyd y Wobr Arloesi i gydnabod cyflenwyr sydd wedi mynd ati’n rhagweithiol i gyflwyno syniadau a chyfleoedd ar gyfer gwelliant parhaus ac arloesedd yn PDC.

Mae Enroly wedi creu llwyfan a fydd yn helpu i gyflawni gofynion recriwtio rhyngwladol yn PDC mewn ffordd sy’n cydymffurfio ac yn effeithiol. Dywedodd y beirniaid fod yr arloesedd hwn wedi helpu i wella diogelwch data yn ogystal â phrofiad cwsmeriaid yn PDC trwy ddarparu gwasanaeth symlach, ac mae'r ateb wedi helpu i leihau gadael cyn cofrestru.

Enillydd gwobr Gwerth Cymdeithasol – Collecteco

Cynlluniwyd y Wobr Gwerth Cymdeithasol i gydnabod cyflenwyr sy'n mynd ati'n rhagweithiol i greu mentrau penodol y mae PDC wedi'u rhoi ar waith i gefnogi cydweithwyr, myfyrwyr, a'r gymuned leol.

Mae Collecteco wedi darparu dull strwythuredig, strategol o ailgylchu dodrefn i PDC. Maent wedi helpu’r Brifysgol i gefnogi deunaw o achosion da, gan gydnabod ymrwymiad PDC i gynaliadwyedd a darparu syniadau ac atebion arloesol. Dywedodd y panel fod yr enwebiad hwn yn drawiadol, gan ddangos ehangder y gwerth cymdeithasol ychwanegol sydd ar gael trwy gadwyn gyflenwi PDC.

Enillydd Gwobr Cydweithio – Enroly

Cynlluniwyd y Wobr Cydweithio i gydnabod cyflenwyr sydd wedi dangos agwedd ragweithiol a chydweithredol at berthnasoedd cyflenwyr a'u partneriaeth â PDC fel cwsmer. Mae'r wobr hefyd yn ceisio cydnabod y cyflenwyr hynny sy'n dangos yr un ymagwedd â chyflenwyr eraill PDC neu'r gymuned ehangach, gyda nodau a buddion i'r ddwy ochr.

Dywedir bod y bartneriaeth ag Enroly wedi bod yn allweddol i PDC sicrhau twf rhyngwladol cynaliadwy parhaus sy'n cydymffurfio â mewnfudo. Maent wedi gweithio gyda PDC i ddeall eu hôl troed recriwtio rhyngwladol, gan gyflwyno a gweithredu syniadau a chyfleoedd ar gyfer gwelliant parhaus yn rhagweithiol sydd wedi arwain at welliant sylweddol yn ansawdd y gwasanaeth a gynigir. Teimlai'r panel beirniaid fod yr enwebiad hwn yn dangos manteision diriaethol y berthynas gydweithredol hon.

Enillydd Gwobr Iechyd a Diogelwch – Kingdom Security

Mae’r Wobr Iechyd a Diogelwch ar gyfer cyflenwyr sydd wedi cyflwyno ffyrdd newydd o weithio i PDC, ac mae’n cydnabod cyflenwyr sy’n meithrin diwylliant iechyd a diogelwch cadarnhaol.

Teimlai’r panel beirniaid fod Kingdom, sy’n darparu gwasanaethau diogelwch i’r Brifysgol, wedi gweithredu’n wych wrth roi iechyd a diogelwch myfyrwyr PDC wrth galon eu hymateb i’r gwasanaeth. Nododd yr enwebiad fod y tîm yn canolbwyntio ar fod y gorau y gallant fod, gan gynnal eu sgiliau a'u ffitrwydd trwy raglenni datblygiad personol parhaus. Gwnaethant y sylw eu bod yn gallu ymateb yn gyflym i nodi a datrys problemau a chynnal diogelwch myfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach.

Enillydd Gwobr SEREN PDC (Diolch a Chydnabyddiaeth i Gyflenwr) – Enroly

Cynlluniwyd gwobr Seren PDC i gydnabod cyflenwr sydd wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau neu sydd wedi cyflwyno syniadau a chyfleoedd yn rhagweithiol i ysgogi gwerth a gwelliannau i staff, myfyrwyr PDC neu’r gymuned ehangach. Mae hefyd yn cydnabod cyflenwyr sy'n gyson yn enghreifftio ac yn dangos pum gwerth PDC; cydweithredol, proffesiynol, creadigol, ysbrydoledig ac ymatebol.

Teimlai’r beirniaid fod Enroly, sydd hefyd wedi’i gydnabod am Arloesi a Chydweithio yng ngwobrau eleni, yn wirioneddol ymgorffori ehander llawn meini prawf gwobr SEREN PDC. Cawsant eu taro gan y ffordd yr oedd y cyflenwr yn gweithio i fodloni manylion manylach yr hyn yr oedd ei angen i gydymffurfio mewn marchnad gymhleth. Nododd yr enwebiad fod y gwasanaeth a ddarperir gan Enroly o fudd i anghenion strategol y Brifysgol.

Dywedodd Catherine Lund, Cyfarwyddwr Caffael PDC: “Ar ôl llwyddiant Gwobrau Cyflenwyr cyntaf PDC y llynedd, rydym yn gyffrous iawn i gael y cyfle unwaith eto i gydnabod perfformiadau gwych ein cyflenwyr allanol dros y 12 mis diwethaf.

“Cawsom ein taro gan amrywiaeth yr enwebiadau eleni ac rydym yn falch o gydnabod sawl cyflenwr o’r ardal leol sydd wedi sefyll allan yn eu perfformiad i Brifysgol De Cymru. Llongyfarchiadau i holl enillwyr eleni.”

Dywedodd Mark Milton, Prif Swyddog Gweithredu PDC: “Mae’r gwobrau hyn yn gyfle gwych i ddathlu gwaith y cyflenwyr sydd wedi helpu PDC i weithredu’n llwyddiannus dros y 12 mis diwethaf.

“Mae’r sefydliadau buddugol yn esiamplau disglair o’r hyn y gall partneriaethau effeithiol ei gyflawni. Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a diolch am wneud cymaint o wahaniaeth i’n cydweithwyr, myfyrwyr, a’r gymuned ehangach.”