Nid yw pobl yn meddwl am therapi chwaraeon fel gwyddoniaeth, ond fe ddylent

10 Chwefror, 2023

.

11 Chwefror yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth. Rydym yn siarad â rhai o'n hymchwilwyr sy'n dweud wrthym pam y cawsant ddiddordeb mewn gweithio mewn gwyddoniaeth.

Mae Dr Kate Williams yn therapydd chwaraeon graddedig, ac yn aelod o'r grŵp Anafiadau, Llwyth Hyfforddi a Monitro, Adsefydlu. Mae ganddi ddiddordeb ymchwil cryf mewn atal anafiadau - deall beth sy'n gwneud chwaraewr yn fwy tebygol o gael anaf a beth y gellir ei wneud amdano - yn ogystal â maes cyfergydion hirfaith sy'n gysylltiedig â chwaraeon. 

"Yn aml, nid yw pobl yn ystyried therapi chwaraeon yn wyddoniaeth, ond fe ddylent. Mae'n cymryd holl elfennau gwyddor chwaraeon ffisioleg ymarfer corff, biomecaneg a seicoleg ac yn eu cyfuno â meddygaeth gyhyrysgerbydol. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i helpu unrhyw un sydd â diddordeb mewn chwaraeon ac ymarfer corff, o athletwyr sy’n ymarfer yn ystod eu hamser rhydd, i athletwyr elitaidd, proffesiynol neu ryngwladol. 

"Yr hyn rwy'n ei garu amdano yw bod pob claf yn bos. Byddant yn cyflwyno gyda set unigryw o arwyddion a symptomau a stori unigol o sut mae'r materion hynny'n effeithio ar eu bywyd bob dydd. Fy swydd i yw defnyddio egwyddorion gwyddonol cadarn i ddatrys y pos, darganfod beth sy'n bod a datblygu cynllun i helpu'r claf i helpu ei hun, a allai gynnwys triniaeth ac adsefydlu. 

"Mae'r tîm ymchwil rwy'n gweithio gydag ef yn PDC yn canolbwyntio'n benodol ar anafiadau i linyn y gar, y glun a'r afl sy'n gyffredin mewn chwaraeon tîm ac sy'n gostus iawn hefyd, gan gadw chwaraewyr allan am gyfnodau hir. Drwy ddeall beth all achosi'r anafiadau hyn, gallwn wneud newidiadau i hyfforddiant, rheolau, neu raglenni campfa i sicrhau bod risg y chwaraewyr o'r anafiadau hyn yn cael ei lleihau. Ac rydym yn gwybod bod cadw'ch chwaraewyr gorau yn heini ac ar gael i'w dewis yn gwneud eich tîm yn fwy llwyddiannus hefyd. 

"Yn ddiweddar, fe wnaethom gydweithio â chorff llywodraethu cenedlaethol i geisio deall pam mae eu chwaraewyr yn cael anafiadau i linyn y gar, y glun a'r afl. Mae ein hymchwil wedi eu galluogi i roi mesurau effeithiol ar waith sydd wedi arwain at lai o anafiadau. Mae gweld bod gan eich ymchwil effaith a gwerth fel hyn yn werthfawr iawn."