'Pan dyw e ddim ar gyffuriau, mae'n berson da' – stori am ddefnyddio meth a thrais domestig mewn un gymuned
16 Chwefror, 2023
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2023/02-february/Meth_Use_Criminology1.jpg)
Gan yr Arthro Fiona Brookman, Prifysgol De Cymru, yr Arthro Heith Copes, Prifysgol Alabama, a'r yr Athro Cynorthwyol, Prifysgol Utah State
Un noson, ar ôl pum niwrnod o ysmygu meth, clywodd Misty* lais.
"Gwnaeth e jyst dweud 'Dere! Coda' ac fe godais ac ro’n i’n gofyn 'ble mae fy mab?' a dyma fi’n rhedeg i'r stafell ymolchi ac roedd fy merch fach yn sefyll wrth y sinc ac ro'n i'n gallu gweld y dŵr yn llifo lawr y cyntedd ac roedd e eisoes yn las ar waelod y bath. Felly fe wnes i afael ynddo ac yn fy mhanig, do’n i ddim yn gallu gwneud unrhyw beth heblaw am ganu 'Amazing Grace.' Dyma'r unig beth ro'n i'n gallu ei wneud."
Gwnaeth mab Misty, un o'i phump o blant, fyw - cafodd ei achub gan gymydog oedd yn gweithio i'r gwasanaeth ambiwlans yn eu cymuned yn Alabama.
Ar yr olwg gyntaf, mae stori Misty yn rhybudd rhag defnyddio cyffuriau, ddim yn annhebyg i storïau sy'n cael eu portreadu mewn ymgyrchoedd fel Faces of Meth a’r Meth Project yn yr Unol Daleithiau. Mae’r cyfryngau yn aml yn portreadu pobl sy'n defnyddio meth mewn ffordd gor-syml, un dimensiwn sy'n gwneud dim mwy na’u demoneiddio fel bwystfilod neu droseddwyr.
Er bod effeithiau niweidiol methamphetamin yn aml yn wir, ac yn drasig, fel ymchwilwyr roedden ni am ddeall mwy am gymhlethdodau'r rhai sy’n defnyddio meth. Roedd gyda ni ddiddordeb arbennig yn yr hyn sy’n cymell pobl i ddefnyddio a'r gwahaniaethau amlwg rhwng y rhywiau o ran defnyddio meth, a sut y gall y gwahaniaethau hynny gyfrannu at niwed ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau.
Roedd Misty yn un o'r 52 o bobl y gwnaethon ni gyfweld â nhw dros 18 mis yn nhalaith Alabama, yn ne-ddwyrain yr Unol Daleithiau. Datblygon ni berthynas agos â dwsin ohonynt, ac yn y pen draw cyhoeddwyd ein canfyddiadau yn y cyfnodolyn Criminology. Yn ganolog i'n hymchwil roedd delweddau, yn enwedig ffotograffau dogfen a dynnwyd gyda, a gan, ein cyfranogwyr. Roedd hyn yn allweddol i'n helpu ni i gysylltu â nhw. Roedd yn brofiad ar y cyd oedd yn caniatáu i ni i gyd fod yn fwy cyfforddus â'n gilydd ac yn ei gwneud hi'n haws iddyn nhw rannu eu straeon. Roedd y broses gydweithredol o dynnu ffotograffau gyda chyfranogwyr, gan ddangos ein ffotograffau iddynt, a'u hannog i rannu eu ffotograffau nhw â ni, yn golygu bod perthynas gref wedi datblygu rhwng y ffotograffau a’r gwaith casglu data.
Epidemig defnyddio meth
Mae cefn gwlad America yn dioddef epidemig defnyddio meth, ac mae miloedd o orddosau cyffuriau bob blwyddyn. Mae bron 80% o’r bobl sy'n defnyddio meth yn yr ardaloedd hyn yn dweud eu bod wedi defnyddio o fewn y mis blaenorol. Mae llawer o'r bobl hyn yn fenywod. Mae eu straeon yn rhai am ddibyniaeth, ond hefyd am fod yn famau, am fod yn wydn, am gamdriniaeth gan eu partneriaid, ac roedd cysylltiad agos rhwng llawer o hyn a defnyddio meth.
Clywsom straeon am y ffordd mae’r gred bod meth rywsut yn gwella rhyw yn gwaethygu cam-drin domestig a rheolaeth drwy orfodaeth. Roedd dynion yn defnyddio trais a rheolaeth i orchymyn pryd, ble a gyda phwy roedd eu partneriaid yn defnyddio meth, am fod ofn arnyn nhw y byddai'r menywod yn anffyddlon iddyn nhw. Byddai llawer o ddynion yn ceisio ynysu, dychryn, mainipiwleiddio, a diraddio eu partneriaid er mwyn iddynt allu eu rheoli'n haws.
Er bod rhai rhesymau dros ddefnyddio meth yn gyffredin rhwng dynion a menywod, megis hwb i’r egni a’r teimlad o fod yn ‘uchel’, roedd gwahaniaeth sylweddol yn y modd roedden nhw’n sôn am y cysylltiad rhwng rhyw a meth.
Fel yr esboniodd Chico, un o'r dynion fu’n rhan o’r ymchwil:
"Mae'n ymwneud â rhyw, rhyw, rhyw! Yn syml iawn, cyffur rhyw yw e... Mae unrhyw un sy’n gwneud meth ac yn honni nad yw e’n gwneud iddyn nhw eisiau rhyw yn dweud celwydd... Dyna pam gafodd ei greu, i dwyllo'ch ymennydd i ryddhau mwy o ddopamin nag y byddai fel arfer ac mae'n ei orlifo. Mae hynny’n bleserus i’r ymennydd. Dyna beth yw methamphetamin. Dylech chi roi cynnig arni! "
Ond roedd y menywod y gwnaethon ni siarad â nhw yn llai tebygol na dynion o ddweud bod meth yn cynyddu eu hawydd am ryw. Hyd yn oed ymhlith y rhai a ddywedodd fod meth yn gwella rhyw, ddywedodd yr un ohonyn nhw mai dyma oedd eu prif gymhelliad dros ei ddefnyddio. Yn wir, dywedodd sawl un fod meth yn lleihau eu hawydd am ryw ac yn rhwystro rhai dynion rhag gallu perfformio. Pan oedden ni’n sôn wrth ddynion mai’n anaml yr oedd menywod yn dweud bod meth yn gwella rhyw, byddai llawer o’r dynion yn amau a oedd hyn yn wir. Eu barn nhw oedd bod menywod yn penderfynu peidio â sôn am hynny am nad oedden nhw am i bob feddwl eu bod yn cael gormod o ryw.
Mae'n debyg nad yw'n annisgwyl bod gan ddynion a menywod agweddau gwahanol wrth sôn am fanteision rhywiol meth. Mae cymdeithas yn ei chyfanrwydd yn disgwyl i fenywod fod yn dawedog am eu rhywioldeb, ac mae’r disgwyliadau hynny yn arbennig o gyffredin yn y taleithiau deheuol. Yr hyn oedd yn arbennig o ddiddorol yw sut roedd straeon dynion am meth fel "cyffur rhyw" yn effeithio ar y ffordd roedden nhw'n rhyngweithio â menywod, a’u partneriaid rhamantus yn arbennig.
Rheolaeth drwy orfodaeth
I'r dynion oedd yn ystyried meth fel cyffur rhyw yn bennaf, roedd rheolaeth ar amryw ffurf drwy orfodaeth. Soniodd rhai menywod am gam-drin domestig gan eu partneriaid, yn amrywio o fygythiadau i ymosodiadau corfforol a rhywiol. Dywedodd nifer o fenywod nad oedd eu partneriaid yn fodlon iddyn nhw ryngweithio â dynion eraill. Soniodd eraill am y ffordd y bydden nhw’n monitro eu hymddygiad eu hunain yn ofalus mewn ymdrech i osgoi camdriniaeth ddomestig:
"Mae'n rhaid i fi fod yn ofalus o'r ffordd dwi'n siarad â dynion oherwydd maen nhw'n gallu camddeall y wên neu’r ystum leiaf."
Roedd bod yn wyliadwrus bob amser rhag cynhyrfu neu ddigio eu partneriaid yn fwrn emosiynol ar y menywod. Roedd ymddwyn yn cyson wyliadwrus fel hyn yn eu rhwystro rhag bod yn gyfforddus fel nhw eu hunain ac yn dangos cymaint roedd dynion yn eu rheoli. Yn wir, roedd menywod yn ystyried sut roedden nhw'n siarad a gyda phwy roedden nhw'n rhyngweithio hyd yn oed pan nad oedd y dynion gyda nhw.
Roedd dynion eraill yn rheoli drwy fynnu bod eu partneriaid yn defnyddio meth gyda nhw. Fel yr esboniodd un fenyw:
"Ro’n i ofn cael fy nghuro. Ofn, os nad o'n i'n gwneud yr hyn oedd e’n ei fynnu, yna byddai rhywbeth drwg yn digwydd i fi neu'r plant ... Roedd fel petai nad oedd e am wneud pe na byddwn i’n ei wneud e hefyd ... doedd hynny ddim yn opsiwn iddo fe. Roedd rhaid i fi ei wneud e pan oedd e’n ei wneud e, neu gallai pethau fynd yn wael."
Roedd yn gyffredin i'r dynion geisio gorchymyn faint a pha mor aml roedd menywod yn defnyddio meth. Roedd y dynion yn credu, drwy blismona’r defnydd o meth, y gallen nhw amddiffyn eu menywod rhag yr effeithiau niweidiol, a’u gwneud yn llai tebygol o fod yn anffyddlon. I ddynion eraill, roedd hyn yn golygu annog eu partneriaid i ddefnyddio mwy o feth er mwyn mynd yn fwy dibynnol, ar y cyffur ac ar eu partneriaid i'w gyflenwi.
Misty: meth, rheolaeth a bod yn fam
Cafodd Misty ei chyflwyno i feth gan gariad i'w chwaer, oedd yn delio cyffuriau. Penderfynodd na fyddai'n gadael i chwaer Misty gael unrhyw meth oni bai bod Misty hefyd yn cytuno i'w ddefnyddio. Roedd Misty o’r farn iddo wneud hyn yn y gobaith y byddai'n cael rhyw gydag ef, ac fe weithiodd ei dactegau rheoli drwy orfodaeth. Roedd Misty'n credu y gallai hi gydweithredu unwaith, a dyna ddiwedd arni. Yn hytrach, fe’i cafodd ei hun yn smygu am bum niwrnod cyfan tan iddi grashio o'r diwedd, a arweiniodd at y digwyddiad lle bu bron i'w mab foddi.
Pan gwrddon ni â hi yn gynnar yn y prosiect, roedd hi'n briod â JC. Byddai JC yn aml yn diflannu am ddyddiau i ddefnyddio meth oddi cartref, am wythnosau weithiau. Ymhen hir a hwyr, dywedodd JC wrthon ni ei fod wedi dechrau defnyddio meth i geisio dygymod â thrawma o'i blentyndod, pan gafodd ei gam-drin yn rhywiol gan ffrind i'r teulu.
"Mae [meth] yn rhwystro fy atgofion a'm hemosiynau ac mae’r boen yn diflannu, a does dim ofn arna i. Dwi ddim yn meddwl am y peth, mae'n tynnu popeth o’r cof."
Roedd yn amlwg bod meth yn chwarae rhan yn ansefydlogrwydd bywyd Misty a JC gyda'i gilydd. Roedd hi'n poeni amdano - yn pendroni lle'r oedd e ac yn ffonio carchardai i chwilio amdano. Ond yn ôl Misty, roedd e’n ei sarhau ac yn ei rheoli. Roedd hefyd yn defnyddio meth fel ffurf ar reolaeth drwy orfodaeth, heb ganiatáu i Misty fynd yn ‘uchel’ arno: "Mae'n anoddach i fi beidio â'i wneud e nag yw e iddi hi, mae hi'n dda am beidio â'i wneud."
Ar un achlysur, roedd JC yn y carchar, ac fe wnaethon ni anfon neges destun at Misty yn gofyn sut oedden nhw. Roedd ei hateb yn dorcalonnus - dywedodd wrthon ni fod JC wedi ymosod arni. Ond doedd hyn dal ddim yn ddigon iddi ei adael. Mewn gwirionedd, dywedodd ei bod wedi torri gorchymyn atal er mwyn ymweld â JC yn y carchar - gweithred a allai fod wedi arwain at ei harestio hi. Roedd Misty yn ei hystyried ei hun yn wraig "fyddai’n gwneud unrhyw beth", yn aml yn esgusodi ac yn maddau ymddygiad JC yn ei rheoli a’i sarhau.
"Dwi'n gwybod pan dyw e ddim yn uchel a phan dyw e ddim ar gyffuriau, mae'n berson da. Ac os galla i gael y person yna allan a'i gael e oddi ar gyffuriau, byddai gyda ni’r briodas orau erioed. "
Yn y pen draw, rôl Misty yn fam wnaeth ei helpu i adael JC a rhoi'r gorau i meth yn llwyr. Daeth yr ysgogiad pan welodd fod camdriniaeth JC yn amlwg yn effeithio ar ei mab ieuengaf, Michael.
"Beth wnaeth i fi wir adael JC - wel, edrychodd fy mab i fyw fy llygaid a dweud: 'Un peth sy'n mynd i dy ladd di. a JC yw hynny.' Roedd rhaid i fi adael. Achubodd fy mab fi. Fe yw fy arwr bach i. "
Erbyn hyn mae Misty mewn perthynas selog, ac mae ganddi swydd lawn amser, ei chartref ei hun a pherthynas well gyda'i phlant.
Alice
Dechreuodd Alice hefyd ddefnyddio meth oherwydd pwysau gan ddyn - ei chariad ar y pryd, Ryan. Pan gwrddon ni, roedd Alice yn 21 oed ac yn defnyddio meth bob dydd. Y troeon cyntaf i ni ryngweithio doedd hi ddim yn ymgysylltu, roedd hi’n dawel ac yn ddywedwst, yn aml yn cadw i un o stafelloedd cefn y trelar er mwyn peidio â rhyngweithio â ni nac unrhyw un arall oedd yn dod i'r cartref. Yn y pendraw, daeth i ymddiried ynon ni a rhannu ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Awydd pennaf Alice oedd adennill cystodaeth dros ei merch.
Priododd Alice yn ifanc a chafodd ferch yn fuan ar ôl gorffen yn yr ysgol uwchradd. Byrhoedlog oedd ei phriodas – dywedodd bod ei gŵr wedi bod yn anffyddlon, a’i gadael am rywun roedd hi'n ei ystyried yn ffrind da. Am y rhan fwyaf o fywyd Alice, wnaeth dynion ddim cyflawni rolau sefydlog, gofalgar. Roedd hi'n credu bod ei brawd yn bwysicach i’w thad nag oedd hi. Roedd ei pherthnasau rhamantus drwy gydol ei chyfnod ysgol uwchradd yn rhai gyda dynion oedd yn ei sarhau ac yn anffyddlon iddi.
Fe wnaeth ffrind o'r teulu ymosod arni'n rhywiol, ond dywedodd nad oedd ei mam yn ei chredu pan soniodd am y peth. Ar ôl ei hysgariad, roedd Alice yn ei chael hi’n anodd ymdopi â’r syniad bod pobl yn ei gadel. Mewn ymgais i ymdopi, dechreuodd chwilio am gyffro, a dod o hyd iddo mewn perthynas newydd gyda Ryan.
Roedd gan Ryan garisma ifanc, peryglus. Roedd yn defnyddio sbeis (canabinoidau synthetig) a meth yn rheolaidd. Er iddi lwyddo i beidio â defnyddio am gyfnod, roedd Ryan yn ddyfal ac yn ystrywgar. Wedi rhai misoedd, gwnaeth gynnig i Alice. Byddai'n rhoi'r gorau i gyffuriau ond roedd am nodi’r achlysur yn symbolaidd: ei dro olaf e’n defnyddio fyddai ei thro cyntaf hi. Y cynllun oedd, ar ôl iddyn nhw ddefnyddio meth gyda'i gilydd, y bydden nhw'n torri'r bib gyda'i gilydd, a dyna ddiwedd arni, fyddai’r naill na'r llall yn defnyddio eto. Ond fel y dywedodd Alice: "Wnaethon ni byth dorri'r bib."
Cynyddodd eu defnydd meth yn raddol. Gwnaeth Alice fradychu aelodau ei theulu mor aml fel nad ydyn nhw bellach yn gadael iddi aros gyda nhw, na hyd yn oed yn ei gadael i'w tŷ. Yn y diwedd, aeth hi a Ryan i aros gyda Chico yn ei gartref symudol. Bron i ddwywaith eu hoed, roedd Chico wedi defnyddio, cynhyrchu a gwerthu meth am ddau ddegawd a mwy. Roedd ei dŷ trap – lle mae cyffuriau'n cael eu gwerthu – yn adnabyddus ledled y sir. Yng nghartref Chico y gwnaeth defnydd Alice o meth arwain at ei theulu’n cefnu arni ac at golli cystodaeth ei merch.
Roedd hi a Ryan ar eu pennau eu hunain yn y byd, yn eu disgrifio'u hunain fel Bonnie a Clyde modern. Ond wedi i Ryan gael ei arestio am ddefnyddio arian ffug, doedd gan Alice unman i fynd heblaw am gartref symudol Chico.
Roedd perthynas Chico ac Alice yn gymhleth. Tra bo Ryan wedi ceisio rheoli ei defnydd o gyffuriau drwy beidio â gadael iddi ddefnyddio ar ei phen ei hun a rheoli faint roedd hi'n ei ddefnyddio, roedd Chicio yn gwthio cyffuriau arni. Dechreuodd ddefnyddio gyda nodwyddau a chynyddodd ei defnydd meth yn sylweddol. Mae hi'n credu y byddai Chico yn chwistrellu cyffuriau ynddi tra oedd hi'n cysgu i'w gwneud yn fwy dibynnol ac i’w gorfodi i gael rhyw gydag e.
Ar ôl i Ryan gael ei ryddhau o'r carchar, fe wnaeth ef ac Alice geisio peidio â defnyddio meth. Daethon nhw o hyd i drelar i'w rannu gyda chwpl arall a'u babi newydd-anedig. Ond roedd temtasiwn meth yn rhy gryf, a dechreuodd y ddau ddefnyddio eto. Un noson wrth ddefnyddio, mynnodd Ryan wybod beth oedd wedi digwydd rhyngddi hi a Chico. Tynnodd hunlun yn ystod ei ffrae, a’i anfon aton ni. Silwét tywyll, heb ddim o’i nodweddion yn amlwg oedd e.
"Roedd hyn yn y gwesty pan oedd Ryan am wybod y cyfan am Chico, daeth y cyfan allan, achos roedd e eisiau gwybod popeth. Gwnes i ddweud nad o’n i eisiau dweud wrtho achos ro’n i’n gwybod y byddai’n gorymateb. Pan mae'n grac, mae ganddo geg gas a dyw e ddim yn poeni pwy sy’n ei glywed e. Ac ro’n ni mewn gwesty. A dyma’r enwau’n dechrau a sylwadau sarhaus eraill... Yn y llun dwi yn y tywyllwch, ac yn y tywyllwch ro’n i’n teimlo ’mod i’n perthyn. "
Doedd Ryan ddim yn hapus bod Alice wedi rhannu nodwydd gyda Chico. Iddo ef roedd hyn yn rhywbeth personol i’w rannu rhwng Alice ac yntau, nid Chico. Yn y pendraw, gwahanodd Ryan ac Alice. Ar ôl symud rhwng sawl cartref a pherthynas – sy’n gyffredin iawn ymhlith y rhai sy’n defnyddio meth yn drwm - daeth Alice o hyd i le i aros yn y pen draw a roddodd y sefydlogrwydd roedd ei angen arni i gael swydd a dechrau'r broses o adennill cystodaeth ei merch. Dyw Alice ddim wedi defnyddio meth ers dros dair blynedd. Yn bwysicach fyth, mae ganddi swydd gyson, ei chartref ei hun a gwarchodaeth lawn o'i merch.
"Yr unig beth sy'n fy mhoeni mewn gwirionedd yw pan dwi'n hel meddyliau am sut oedd hi i deimlo’n ‘uchel’, ac yn gweld eisiau hynny," dywedodd Alice wrthon ni. "Ond wedyn dwi’n meddwl, na dyw e ddim ei werth e. Fe gymerodd hi gryn amser i fi ddychwelyd at bwy ydw i, a mam ydw i."
Mae'r straeon a'r naratifau rydyn ni'n eu hadrodd yn gwneud mwy na disgrifio’r gorffennol. Gallant hefyd siapio ymddygiad a pherthnasau. Boed yn naratifau o orfodaeth a rheolaeth fel y rhai a briodolir i Chico a JC, neu’n rhai o achubiaeth ac adferiad fel y gwelwyd gan Misty ac Alice, mae'r straeon hyn yn adlewyrchu disgwyliadau diwylliannol pwerus a normau rhyw, ac yn arwain ymddygiad fel defnyddio cyffuriau a cham-drin.
Trwy ddadansoddi'r straeon hyn y gallwn ddeall cymhlethdodau a natur aml-haenog pobl a chymunedau sydd ar yr ymylon.
*Mae'r enwau i gyd wedi eu newid.
Ailgyhoeddir yr erthygl hon o The Conversation dan Drwydded Creative Commons. Darllen yr erthygl wreiddiol.