Sut gwnaeth CEMET helpu busnesau bach a chanolig Cymru i ffynnu yn 2022

1 Chwefror, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/CEMET_2929.png

Gwnaeth dros 100 o fusnesau yng Nghymru elwa y llynedd ar y cymorth gyda thechnoleg oedd yn cael ei chynnig gan arbenigwyr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC).

Roedd arbenigwyr y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Technoleg Symudol a Datblygol (CEMET) wrth law i roi cymorth a chyngor i fusnesau bach ar ddatblygu a defnyddio technoleg sy'n dod i'r amlwg.

Wedi'i sefydlu yn 2017, cafodd CEMET ei greu i ddylunio a phrofi technolegau symudol a datblygol newydd i greu cynhyrchion a gwasanaethau ar gyfer llwyddiant masnachol, drwy ddarparu pecyn cynhwysfawr o gymorth i ddatblygu cynhyrchion trwy fapio ffordd a throsglwyddo gwybodaeth.

Derbyniodd £4.2m o gefnogaeth i ddechrau gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop (ERDF) trwy Lywodraeth Cymru, a chynigiodd gymorth i Fentrau Bach a Chanolig yn y Cymoedd, a gorllewin a gogledd Cymru. Ehangodd i gynnwys Cymru gyfan yn 2019 gyda lansiad prosiect £2.4m CEMET y Dwyrain, gydag £1.2m o gyllid gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO). Golygai hyn fod CEMET Cymru gyfan yn brosiect gwerth £8.9m, gyda £5.5m o gyllid ERDF.

Ar ôl cefnogi cannoedd o fusnesau bach  a chanolig yn ystod  y chwe blynedd diwethaf, bu CEMET yn gweithio gydag ystod eang o fusnesau yn 2022, gan ddarparu cefnogaeth Ymchwil a Datblygu ar gyfer 15 o brosiectau, rhoi cyngor ac arweiniad i 58 o gwmnïau, creu 17 o gynhyrchion – pump ohonynt yn barod ar gyfer y farchnad - a chyflwyno 17 o weithdai CTO.

Roedd y busnesau a gefnogwyd gan CEMET yn cynnwys amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys 10 cwmni gweithgynhyrchu a pheirianneg;  11 oedd yn canolbwyntio ar gyllid a gwasanaethau proffesiynol; naw o’r maes gofal iechyd, chwaraeon a lles;  12 yn y cyfryngau a thechnoleg;  pump yn sectorau’r amgylchedd, amaeth ac ynni;  ac 11 mewn addysg a hyfforddiant.

Un busnes gafodd gymorth gan CEMET i wireddu cysyniad newydd oedd y cwmni hyfforddi meddygol Goggleminds, sydd wedi datblygu technoleg rithwir ar gyfer hyfforddi meddygon a myfyrwyr. Mae'n adlewyrchu sefyllfaoedd gwirioneddol y mae meddygon yn debygol o’u hwynebu wrth wneud eu hyfforddiant, heb fod angen cael pobl go iawn i brofi eu sgiliau arnyn nhw.

Dywedodd sylfaenydd Goggleminds, Azize Naji, am CEMET: "Mae'r profiad yn wych. O'r foment y gwnaethon ni ymgysylltu gyntaf ag arbenigwyr CEMET roedden ni'n gallu trafod syniadau, beth oedden ni eisiau ei ddatblygu, a sut siâp fyddai arno.

"Roedden ni wir eisiau defnyddio eu sgiliau a'u profiad i ddatblygu rhywbeth. Roedd y cyfan yn esmwyth iawn. Gwnaethon nhw droi rhywbeth oedd efallai ychydig yn gymhleth, ac yr oedd angen cymorth arnon ni gydag e, yn rhywbeth hawdd iawn ei ddeall."

Dywedodd y cyn bêl-droediwr adnabyddus, Nathan Blake, y gwnaeth CEMET ei helpu i ddatblygu ap arbenigol ar gyfer sylwebyddion chwaraeon: "Mae’n amhosibl diolch gormod i CEMET. Maen nhw wedi bod yn wych i weithio gyda nhw, a bydd eu help amhrisiadwy yn aros gyda ni at y dyfodol."

Dywedodd Matt Smith, Rheolwr Masnachol CEMET, fod y gefnogaeth a gynigiwyd yn 2022 wedi bod yn ganlyniad i'w datblygiad parhaus dros nifer o flynyddoedd.

"Er bod y penawdau am CEMET efallai’n canolbwyntio ar ein llwyddiannau yn y maes technoleg, mae’r hyn rydyn ni’n ei gynnig yn mynd ymhell y tu hwnt i'r cynhyrchion terfynol," dywedodd.

"O'n cyfarfod cyntaf gyda darpar gleientiaid, rydyn ni'n edrych ar yr hyn y maen nhw am ei gyflawni, a sut gallwn ni eu helpu i wneud hynny.

"Mae gan ein harbenigwyr ystod eang o sgiliau, o Ymchwil a Datblygu, i drosglwyddo gwybodaeth a'r prosesau mapio ffordd sydd eu hangen er mwyn i syniad ddwyn ffrwyth, a chynghori ar y ffordd orau o gyflawni’r canlyniadau mae ein cleientiaid yn eu dymuno. 

"Mae hyn, ynghyd ag arbenigedd ein datblygwyr - y dewiniaid technolegol - wedi arwain at rai o'r llwyddiannau rhyfeddol y gwnaeth busnesau bach yng Nghymru eu cyflawni yn 2022. Rydyn ni'n gobeithio y bydd 2023 yn gwireddu mwy o'r syniadau blaengar sy’n aros i gael eu darganfod yng Nghymru."