Tair ffordd annisgwyl mae gweithredoedd dynol yn bygwth primatiaid sydd mewn perygl

9 Chwefror, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Lemurs.jpg

gan Tracie McKinney, Uwch Ddarlithydd mewn Anthropoleg Fiolegol, Prifysgol De Cymru;  Michelle Rodrigues, Athro Cynorthwyol, Prifysgol Marquette; a Sian Waters, Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd, Prifysgol Durham

Mae mwncïod, epaod a lemyriaid yn anifeiliaid ciwt, cyfarwydd, cariadus yr olwg. Ond amcangyfrifir bod 60% o'r holl rywogaethau primat wedi’u rhestru fel rhai sy’n fregus, dan fygythiad neu mewn perygl, yn ôl yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur, rhwydwaith o sefydliadau amgylcheddol.

Mae'n bosibl eich bod wedi clywed am y prif broblemau, fel datgoedwigo a cholli cynefinoedd. Ond mae primatiaid yn grŵp amrywiol o anifeiliaid sydd ag ystod ddaearyddol eang, felly mae llawer mwy o ffyrdd cynnil mae ein gweithredoedd fel pobl yn rhoi'r anifeiliaid anhygoel hyn mewn perygl.

1. Cŵn

I bobman awn ni, mae'n debygol y daw ein ffrindiau gorau hefyd. Mae ein hadolygiad yn dangos bod cŵn yn bresennol yn llawer o gynefinoedd y primatiaid. Mae cŵn yn greaduriaid ysglyfaethus, ac weithiau'n lladd ac yn anafu primatiaid, ond gallan nhw hefyd eu hela  ac aflonyddu arnyn nhw, gan amharu ar eu harferion cymdeithasu neu chwilio am fwyd.

Mae gochel rhag aflonyddu gan gŵn yn straen ar brimatiaid ac yn peri iddyn nhw ddefnyddio mwy o egni. Mae lleihau'r cyswllt hyn, sy’n gallu bod yn farwol, rhwng cŵn a phrimatiaid yn dibynnu ar gadwraethwyr yn cyfathrebu â pherchnogion cŵn, sy’n aml heb ddeall neu dderbyn y  perygl mae eu cŵn yn ei achosi i fywyd gwyllt o'r fath.

Pan fydd clefydau'n neidio rhwng rhywogaethau anifeiliaid, gallan nhw achosi niwed difrifol i rywogaethau nad oes ganddyn nhw’r ymwrthedd angenrheidiol. Gall clefydau cŵn fel llyngyr y galon  a’r parvovirus gael eu trosglwyddo o gŵn i brimatiaid, a gallan nhw fod yn angheuol. Mae posibilrwydd hefyd y gallai pathogenau - firysau, bacteria neu barasitiaid - esblygu i ledaenu'n haws neu ddod yn fwy marwol.

2. Diwylliant poblogaidd

Os ydych chi'n byw mewn gwlad lle nad oes primatiaid yn byw, efallai na welwch chi fyth primat byw y tu allan i sŵ. Serch hynny, gall eich dewisiadau o ran cyfryngau effeithio ar eu cadwraeth. Mae ymchwilwyr wedi darganfod y gall ein dewisiadau o ran yr hyn rydyn ni'n ei wylio ar YouTube, Instagram neu TikTok arwain at brimatiaid yn cael eu trin fel anifeiliaid anwes neu ar gyfer adloniant. Mae primatiaid yn annwyl yr olwg, ac rydyn ni wrth ein bodd yn gwylio fideos ohonyn nhw. Fodd bynnag, mae llawer o'r lluniau a'r fideos hyn yn eu dangos mewn cyd-destunau artiffisial, megis yn gwisgo dillad neu'n rhyngweithio ag offer swyddfa.

Pan fydd pobl yn gweld cynnwys o'r fath, maen nhw'n aml yn dweud eu bod eisiau primat fel anifail anwes ac yn llai tebygol o gredu bod yr anifeiliaid hyn mewn perygl.

Gallwn helpu i amddiffyn primatiaid drwy beidio â gwylio neu rannu fideos sy'n dangos anifeiliaid mewn sefyllfaoedd annaturiol. Mae hyd yn oed mwy o gyfrifoldeb ar y rhai sy’n byw’n agos i bramatiaid neu sy’n cychwyn busnesau twristiaeth bywyd gwyllt i ryngweithio mewn ffordd barchus â nhw.

Gall gweithgareddau pobl effeithio ar ble mae primatiaid yn byw, pa fwyd maen nhw'n ei fwyta, a sut maen nhw'n byw eu bywydau. Mae llawer o gyrchfannau twristaidd yn y mathau hyn o leoliadau yn darparu ar gyfer awydd pobl i ryngweithio a thynnu lluniau gyda phrimatiaid drwy eu cadw fel anifeiliaid anwes neu annog twristiaid i’w bwydo neu i ryngweithio â nhw mewn ffyrdd eraill.

Canfu ein hymchwil fod yr arferion hyn yn niweidio'r anifeiliaid, yn cynyddu dwyn neu fasnachu  primatiaid, ac yn gallu arwain at sefyllfaoedd peryglus i'r primatiaid a phobl. Mae ffotograffau sy'n dangos mwncïod gyda phobl yn codi braw ar brimatolegwyr oherwydd ein bod ni’n deall y risgiau sydd ynghlwm wrth gael ein brathu neu o ran trosglwyddo afiechydon. Ond efallai nad yw'r cyhoedd ehangach yn ymwybodol o'r peryglon hyn.

3. Clefydau

Mae posibilrwydd uchel o drosglwyddo clefydau rhwng pobl a phrimatiaid, yn rhannol oherwydd bod ein bioleg yn debyg. Gelwir y broses o symud clefydau o anifeiliaid i bobl yn "swnosoffi". Ac  "anthroposoffi" yw’r enw ar y broses o drosglwyddo clefydau o bol i anifeiliaid.

Mae'n ymddangos bod yr epaod Affricanaidd – tsimpansïaid, bonobos a gorilas – yn arbennig o agored i heintiau anadlol dynol. Mae diogelu'r anifeiliaid hyn, sydd eisoes mewn perygl, rhag clefydau heintus yn nod bwysig i gadwraeth.

Mae'r risg o drosglwyddo clefydau rhwng pobl a phrimatiaid eraill yn cael ei gynyddu drwy gysylltiad agos. Mae rhai rhywogaethau o primatiaid wastad wedi byw ger pobl. Ond wrth i angen y ddynol ryw am le gynyddu, mae cynefinoedd primatiaid yn mynd yn fwyfwy darniog, a’r tebygrwydd o bobl a phrimatiaid yn dod i gysylltiad yn mynd yn fwyfwy cyffredin.

Mae twristiaeth sy’n hybu cysylltiad â phrimatiaid hefyd yn dod â phobl yn agosach at fywyd gwyllt, gyda phobl weithiau’n cofleidio’r anifeiliaid hyd yn oed, neu'n rhannu bwyd gyda nhw. Mae'r fasnach anifeiliaid anwes yn mynd ymhellach ac yn dod â phrimatiaid gwyllt i'n cartrefi, lle gall anifeiliaid ddal salwch wrth eu perchnogion a lle gall y perchnogion ddal salwch wrth yr anifeiliaid.

Mae atal y fasnach primatiaid fel anifeiliaid anwes ac annog rhyngweithio diogel a pharchus â bywyd gwyllt yn hanfodol ar gyfer iechyd y primatiaid i gyd – boed yn bobl neu’n anifeiliaid eraill.

Dim ond ambell enghraifft sydd yma o'r ffyrdd mae bodau dynol yn effeithio ar brimatiaid gwyllt. Ac mae biolegwyr anifeiliaid yn ymddiddori mwyfwy yn y ffordd mae gweithgareddau pobl yn effeithio ar gadwraeth bywyd gwyllt.